Hogyn o Rachub a ddywedodd:
Ac am lanast i Lafur. Whitewash go iawn; Caerdydd, Tor-faen, Sir Gaerfyrddin - roedden nhw hyd yn oed yn colli seddau yng Ngwynedd, i Blaid Cymru o bawb!! Y newyddion da: cawsant 5 sedd ar Fôn. Y newyddion drwg?
Newyddion dwg ydy'r ffaith eu bod di cael 5 sedd ar Fon!
Hogyn o Rachub a ddywedodd:
Yn gyffredinol noson lwyddiannus i Blaid Cymru, yn enwedig yng Nghaerfyrddin, Caerffili a Wrecsam (a Thor-faen i raddau). Pe na bai am Wynedd fe fyddai'n noson eithaf ddelfrydol, ond mae Gwynedd yn cyfrif, ac mae Gwynedd yn dalcen eithriadol o galed i Blaid Cymru.
Dwi'n meddwl bod perryg mewn gosod Gwynedd fel gormod o ergyd yn bersonol. Dwi'n sylweddoli bod ambell i berson yma'n mynd i weld hyn fel esgus gan person sy'n aelod o Blaid Cymru ond nid dyna'r bwriad.
Mae'n amlwg yn hynod siomedig nad yw'r Blaid bellach yn rheoli Cyngor yng Nghymru, yn enwedig yng Ngwynedd, ei chadarnle traddodiadol.
Ond, ffactorau hollol lleol a ellir delio a nhw oedd wrth wraidd Gwynedd, nid arwydd o anfodlonrwydd am y Blaid ar lefel cenedlaethol, doedd o'm byd tebyg i Chwalfa 2003 yn y Cynulliad a 2004 yn yr etholiadau lleol. Roedd rhain yn dangos swing enfawr o'r Blaid i'r Blaid Lafur ar lefel lleol a cenedlaethol, hyd yn oed pan oedd y Blaid Lafur ar lefel Prydeinig yn denu ei siar o feirniadaethau.
Mae hwn yn dangos, efallai'n profi'n fwy nag erioed o'r blaen bod natur gwleidyddol wedi newid tu hwnt i unrhyw ddisgwyliadau ers 1999. Mae Llaw Coch Llafur yn brysur colli ei gafael ar bob ran o Gymru bellach a dwi'm yn gweld ffordd yn nol i'r lefelau Pre-1999 iddyn nhw. Mae'n siwr cawn nhw fuddugoliaethau yn y dyfodol ar draul y Blaid, y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Ceidwadwyr ond bydd eu gafael byth mor galed ag y mae wedi bod.