Hedd Gwynfor a ddywedodd:Dyw Bwrdd Cydweithredol ddim yn berffaith, ond mae'n drefn LLAWER mwy democrataidd na Chabinet. Wyt ti'n cytuno Gath? O ran Plaid Cymru yng Ngwynedd, Llais Gwynedd sydd wedi gwrthod cydweithio gyda Phlaid Cymru o'r hyn i fi'n deall. Ensyniadau yw gweddill dy gyfraniad uchod.
Nac ydw. Trefn sydd wedi cael eu defnyddio i werthu neges o gyd-weithio yw'r drefn o'm profiad ac rhan o 'spin' cyson Plaid byth ers defnyddio'r drefn yma yng Ngwynedd. O ran LLG - gwna dy waith cartref Hedd. Nid gwrthod seddi ar dy annwyl Bwyllgor Cydweithredol mae nhwn wedi wneud ond gwrthod clymbleidio efo Plaid. Mater iddyn nhw di hynny wrth gwrs. Croeso i ti ddisgrifio gweddill fy nghyfraniad fel ensyniadau ond mae nhw'n digwydd bod yn 100% wir.
Pa ran sy'n ensyniad felly Hedd? Hanes y ddogfen addysg? Bwriadau rhai aelodau o PC o ran natur y drefn lywodraethol yn y sir yn y dyfodol? Mae'r ddau bwynt yma, sy'n ensyniadau medde ti, wedi naill ai eu profi i fod yn wir (sylwer ar sylwadau aml i gynghorydd am gefndir y ddogfen addysg) neu eisioes yn destun dadl fewnol o fewn rhengoedd Cynghorwyr Plaid yn y Sir.
Hedd a ddywedodd:Dwi'n credu ei bod yn foesol bwysig fod y Grwp mwyaf mewn grym. Fi'n credu bod y system o Fwrdd Cydweithredol yn un tecach na system y Cabinet. Wyt ti'n anghytuno gyda hyn?
Ydw i'r ddau bwynt. Tydi natur y drefn lywodraethol DDIM yn fater o foesoldeb. Os ydi Plaid A yn derbyn 40%, Paid B 32% a Plaid C yn cael 28% yna os 'di Plaid b a Phlaid C yn llunio llywodraeth be sy'n anghywir yn hyn? Mae Plaid b a Phlaid C yn denu 60% o gefnogaeth y cyhoedd ac yn gallu cyd-weithio. Druan o Plaid A (y Ceidwadwyr yng Nghonwy a Phlaid Cymru yng Nghaerfyrddin ond does yr un o'r ddwy yn cynnal mwyafrif dros bawb felly dyna ddiwedd y mater). Pe byddai dy ddehongliad o 'foesoldeb' gwleidyddol clymbleidio yn gywir yna fe fyddai plaid fel Finna Fail wedi arwain POB llywodraeth Wyddelig ers yr 1920au hwyr. Fyddai hynny ddim yn iach.
Hedd a ddywedodd:Fddai'r Ceidwadwyr yn barod i wneud hyn, a rhannu pwer rhwng yr holl bleidiau yng Nghonwy?
Fe fu y Ceidwadwyr yn rhan o weinyddiaeth 'enfys' anffurfiol hyd y 1af o Fai. Am ryw reswm tydi Plaid ddim am barhau a pherthynas o'r fath.
Hedd a ddywedodd:O ran dy sylwadau ynglŷn ag etholiadau'r Cynulliad yn 2007, does gan yr edefyn hwn ddim oll i wneud gyda hynny. Ond da gweld Plaid Cymru yn cydweithio gyda'r Blaid fwyaf, yn hytrach na nifer o bleidiau llai!
Oes, mae'n codi cwestiwn am onestrwydd dy Blaid - wedi'r cyfan os am ddefnyddio'r gair moesoldeb yn y drafodaeth yna mae y gwahaniaeth syfrdanol rhwng neges dy blaid cyn etholiad y Cynulliad a gweithred dy blaid yn dilyn yr etholiad hwnnw yn codi cwestiwn eithaf sylfaenol fe fyddwn yn honni.