Shw mae bawb. Newydd glywed bod yr annibynnwyr yng Ngheredigion wedi clymbleidio i gadw eu gafael ar rym a thrwy hynny gadw Plaid Cymru mas. Yr un peth di digwydd yn Sir Gaerfyrddin ond hyd y gwela i mae mwy o reswm 'da'r Blaid yng Ngheredigion i fod yn pi***d off achos gydag undeg naw o aelodau nhw oedd y grwp mwya. Er i'r Blaid wneud gystal yn Sir Gar roedd dal dau aelod yn fwy gyda'r annibynns nag oedd gyda'r Blaid. Eniwei i ddod at y pwynt, ydy hi'n iawn bod criw o unigolion yn sefyll fel annibynnwyr yn gallu dod at ei gilydd i ffurfio grwpiau o annibynnwyr a bihafio fel plaid wleidyddol? Ai'r cyfan y'n nhw yn y pen draw yw Toris/Lib Dems/Llafurwyr a Nashis sydd ddim yn ddigon dewr i ddangos eu lliwiau ac sydd eisiau'r manteision etholiadol a ddaw o sefyll fel annibynnwyr? A ddylai hi fod yn orfodol fod y blaid gydnabyddedig fwya yn cael grym yn hytrach na chriw rag tag o unigolion? Ac a ddylai annibynnwyr orfod disgrifio eu hunain yn fanylach wrth sefyll etholiad, ee independent socialist, independent liberal, independent daily mail reader neu independent nashi? Hwyrach bod hyn i gyd yn annemocrataidd a bod perffaith hawl gan yr annibynns i ddod ynghyd i gadw politics mas o bolitics lleol!Ys dywed Dai Trelech, cynghorydd annibynnol 84 oed, newydd ei ddychwelyd i Gyngor Sir Gar, "Sdim polisi 'di bod da fi ers hanner can mlynedd"
Trafodwch, os mynnwch!