Rhods a ddywedodd::lol: touchy...
Dwi yn sylwi nawr tho bo ti di newid tiwn...llynnedd mi oeddet o blaid y glymblaid llafur/plaid ar sail yr 'addewidion' odd yn mynd i ddigwydd yn sgil cryfhau Cymru ar iaith Gymraeg. Gan bo ti di gweld bod hwnna ddim wedi digwydd a gweld dy fod wedi colli y ddadl yna, rwy'n sylwi nawr dy fod yn defnyddio y ddadl o'r plaid mwyaf , pam mae yn siwito ti. No hard feelins fel Hedd, ond mae yn wir.
Chwilia trwy fy negeseuon Rhodri, ac fe weli di yn gwbwl glir fi'n dweud ar sawl achlysur ei bod yn bwysig fod y blaid fwyaf yn llywodraethu. Dwi newydd chwilio i wneud yn siwr mod i'n cofio'n gywir! Y rheswm arall oeddwn i'n cefnogi'r Glymblaid gyda Llafur oedd fy mod yn adain chwith. Y trydydd rheswm oedd gan fod cytundeb Cymru'n un yn addo'r un pethau â chytundeb yr enfys + refferendwm ar Senedd i Gymru.
Rhods a ddywedodd:Pam i ti yn son am Plaid Cymru fel y plaid Cymraeg go iawn , wel dyw torri ar addewidion a dweud celwydd am cyhoeddi papur dyddiol Cymraeg ac yna eu taflu ir bin, ac hefyd arafu'r broses o ddatblygu addysg Gymraeg yng Nghaerdydd ddim yn blaid sa ni yn disgrfio yn 'blaid wir Gymraeg'
Cymreig wnes i ddweud Rhodri, nid Cymraeg. Ffaith yw hynny, nid barn!
Rhods a ddywedodd:Dwi yn deall ac yn cydymdeimlo a'ch sefyllfa yn Caerfyrddin, fel rwyf yn cydymdeimlo a plediau eraill sydd di bod yn y run sefyllfa - ond ma'r ddadl ma abathdi'r busnes ma o bleidiau cenedlaetholwyr prydeinig yn erbyn y 'plaid Cymraeg' sori yn ridicylys - drycha am dadleuon a sylwedd fel, dim nonsens fel hyn!
Yn bod yn streit da ti , but its tyff lyf...
Does dim 'ridicylys' o gwbwl yn hyn.
Mae'r Rhyddfrydwyr, Llafur a'r Ceidwadwyr yn bleidiau Prydeinig = Ffaith.
Mae Plaid Cymru yn blaid Gymreig = Ffaith.
ON. Plis paid defnyddio cymaint o yn dy negeseuon!