Rhodri Nwdls a ddywedodd:Ma hwnna'n ddadl ridiculous GDG. Ti'n siarad trwy dy het! Ti'n ffwl os ti ddim yn gwisgo helmet, yn arbennig mewn dinas, a ma peidio gneud yn rhoi'r argraff i yrrwyr (sy'n ddigon amheus ohonan ni'n barod) ein bod yn anghyfrifol. Dylen ni ddim seiclo ar palmant a dylen ni drio cadw at yr un rheola lôn â gyrrwyr. Os na wnawn ni barchu'r lôn hefyd, pa hawl sgynnon ni gwyno pan mae ceir yn ein amharchu ni?
Dwi di cael sawl close shave yng Nghaerdydd ac roedd pob un allan o fy rheolaeth yn llwyr. Gan amla doedd y gyrrwr heb sylwi fy mod i yna, felly gwell gwisgo un na pheidio. Beth yw'r gwir reswm nad wyt ti'n gwisgo un ?
O ran tips seiclo, Gasyth, ma'n hawdd unwaith ti'n cael mewn i'r grŵf. Hyder ydi seiclo mewn dinas na'i gyd. Jest osgoi defnyddio lonydd bysiau/tacsis. Ma'n nhw'n aml yn gyfyng ac mae tueddiad ganddynt i sbidio ynddyn nhw. Gwell dod off y beic os ti'n ganol dre, neu drio ffeindio'r short cyts di-draffig. Buan ddei di'n giamstar ar ffeindio'r ffordd dawelaf o A i B. Ma roundabouts hefyd yn aml braidd yn hairy, ac yn werth osgoi. O'n i wastad yn trio cael fy hun i flaen ciw goleuada traffig, er mwyn cael head start, ond byth yn mynd trwyddyn nhw cyn troi'n coch. Fel'na ma cael dy gnocio drosodd. Boring falla, ond dyna ni...
Wy jyst yn teimlo bod gormod o bwyslais yn cael ei roi ar y seiclwr i gael pethau'n iawn, drwy wisgo dillad hi-viz ac ati. Pe bai gyrwyr yn dilyn rheolau'r ffordd fawr yn yr un ffordd ag y maen nhw'n bytheirio at seiclwyr, bydde pethe'n llawer gwell.
O.N. Sai'n gwisgo un gan fod y peth yn ormod o hasl yn fy marn i. Wy'n gwbod y dylen i, ac rwy'n chwarae devil's advocate fan hyn yn bennaf. Ond sai'n gorfod mynd yng nghanol traffig oriau brig (drwy'r parc mae tua hanner y daith), felly sai'n gweld cymaint o angen.