Dwi di cael sawl close shave yng Nghaerdydd ac roedd pob un allan o fy rheolaeth yn llwyr. Gan amla doedd y gyrrwr heb sylwi fy mod i yna,...
Mae hyn hefyd yn wir efo cerddwyr. 'Dyn nhw ddim yn dy glywed di'n dod a felly'n cymryd yn ganiataol nag wyt ti yna. Sawl gwaith dwi di ca'l close shave efo pobol yn croesi'r lon heb edrych
yn iawn - mae pobol yn edrych allan am gerbydau mwy ac yn eu gweld. Tydi pobl ddim, ar y cyfan, yn chwilio am feic ac mae'n hawdd camgymryd seiclwr am gerddwr.
Byddwn i hefyd yn awgrymu'n gryf bo chdi'n gwisgo helmed, hyd yn oed os nad oes ceir o gwmpas o gwbwl. Welish i un beiciwr yn mynd ar ffordd feics pan oedd yn bwrw. Mi gollodd ei falans wrth fynd rownd gongol a mi ath ei feic un ffordd a fo'r ffor arall. Wrth lwc ar ei ben i gae aeth o a'r anafiadau mwyaf oedd llosg danadl poethion.
Un peth arall i ofalu amdano ar feic (hefyd mewn car, ond llawer pwysicach ar feic) yw cerbydau hir sy'n troi cornel. Mae'r cerbydau'n gorfod mynd y ffordd
groes i'r gornel i droi iddi, ac mae cerbydau eraill yn meddwl ei bod yn iawn under-take-io (
) gan eu bod yn meddwl bod y cerbyd yn mynd ffordd arall. Y perryg ychwanegol efo gwneud hyn ar feic ydi ei fod yn anos i yrrwr y cerbyd hir eich gweld. Gyda'r nifer uchel iawn o feiciau yng Nghaergarwnt, tydi clywed straeon am crushes ddim yn beth rhy ddiarth, yn anffodus.