Dem Rhyddfrydol a Plaid i Reoli Caerdydd

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Dem Rhyddfrydol a Plaid i Reoli Caerdydd

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 17 Mai 2008 10:42 am

ffric a ddywedodd:Mae ffrae ANFERTH ar y ffordd ynglyn a chynlluniau'r blaid am ysgol newydd yn Treganna. Am na fydd hi ddim yn Treganna mae'n siwr. Nac ar agor tan 2012, os o gwbl. Ac am i'r blaid beryglu yr unig gyfle sy gan frodyr a chwiorydd, sydd ar hyn o bryd mewn ysgolion ar wahan, fynd i'r un ysgol erbyn 2010. Ac am iddyn nhw gynnig symud rhai dosbarthiadau mewn i ysgol Saeneg. Ac ambell i ddosbarth mewn ysgol sydd milltir i ffwrdd. Ac am fydd yr ysgol newydd yng nghanol 6 i 9 chant o dai newydd fydd angen eu hysgol nhw'u hunain. Ac am fydd rhaid cau nid un ond dwy ysgol Saesneg leol yn rhannol. Llongyfarchiadau i'r Blaid. Maent wedi llwyddo i greu ymgyrch ar y cyd rhwng ysgolion Saesneg a Chymraeg yr ardal yn erbyn the party of wales. ysgwn i pam na gaethon nhw eu hethol yn Nhreganna?


Wyt ti'n gallu ymhelaethu ychydig ar yr uchod? O'r hyn dwi'n deall o'r addewid, bydd Ysgol newydd Gymraeg yn cael ei adeiladu yn Nhreganna erbyn 2010. Be hoffet ti weld yn digwydd yn lle?

Ai anhapus gyda'r addewid wyt ti, neu ddim yn credu bydd yr addewid yn cael ei wireddu?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Dem Rhyddfrydol a Plaid i Reoli Caerdydd

Postiogan ffric » Sad 17 Mai 2008 11:07 am

Ym mhapurau'r clymblaid mae'n son am 2011 ond y gwir yw na fyddai'r ymgynghoriad wedi gorffen mewn digon o amser i gynllunio a chodi ysgol newydd yn yr amser hynny. Un lle yn unig sydd i godi adeilad newydd yn yr ardal ac mae'r safle hwnnw yn Ely Bridge a nage'r cyngor sydd bia'r tir hynny chwaith i'w addo fe i unrhywun. Rydym ni yn Nhreganna ychydig ddyddiau o gael clywed newyddion da am ysgol newydd, wedi bod drwy flynyddoedd o aros ac ymgyrchu. Mae cynlluniau'r blaid wedi gosod yr ymgyrchu hynny n'ol dwy flynedd, heb unrhyw obaith y byddent yn cael eu pasio gan y cabinet, y cyngor na'r cynulliad. Y gwir yw bod llai o obaith y geith cynllun PC ei wireddu na'r un presennol ac y bydd angen aros blynyddoedd, o dan amodau amhosib, i wybod na chewn ni unrhywbeth o gwbl.
ffric
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 17
Ymunwyd: Llun 21 Ebr 2008 3:58 pm

Re: Dem Rhyddfrydol a Plaid i Reoli Caerdydd

Postiogan Cardi Bach » Sad 17 Mai 2008 2:12 pm

ffric a ddywedodd:Mae ffrae ANFERTH ar y ffordd ynglyn a chynlluniau'r blaid am ysgol newydd yn Treganna. Am na fydd hi ddim yn Treganna mae'n siwr. Nac ar agor tan 2012, os o gwbl. Ac am i'r blaid beryglu yr unig gyfle sy gan frodyr a chwiorydd, sydd ar hyn o bryd mewn ysgolion ar wahan, fynd i'r un ysgol erbyn 2010. Ac am iddyn nhw gynnig symud rhai dosbarthiadau mewn i ysgol Saeneg. Ac ambell i ddosbarth mewn ysgol sydd milltir i ffwrdd. Ac am fydd yr ysgol newydd yng nghanol 6 i 9 chant o dai newydd fydd angen eu hysgol nhw'u hunain. Ac am fydd rhaid cau nid un ond dwy ysgol Saesneg leol yn rhannol. Llongyfarchiadau i'r Blaid. Maent wedi llwyddo i greu ymgyrch ar y cyd rhwng ysgolion Saesneg a Chymraeg yr ardal yn erbyn the party of wales. ysgwn i pam na gaethon nhw eu hethol yn Nhreganna?


Fi'n gwbod mod i'n gallu bod yn itha twp withe, ac wy shwod yn cal enid o dwpdra nawr...mae arna i ofn nag ydw i'n deall y neges uchod.
Fydde ti'n gallu egluro beth wyt ti'n weud os gweli'n dda?

ffric a ddywedodd: Am na fydd hi ddim yn Treganna mae'n siwr.
Ai gosodiad o ffaith yw hyn yntau dyfaliad?
ffric a ddywedodd: Nac ar agor tan 2012, os o gwbl.
eto, ai gosodiad o ffaith, neu dyfalu? Oes tystiolaeth na fydd hi ar agor tan 2012? Beth sydd wedi dy gymell di i ddweud hyn? Wyt ti'n nabod rhywun ar du fewn y Cyngor?
ffric a ddywedodd: Ac am i'r blaid beryglu yr unig gyfle sy gan frodyr a chwiorydd, sydd ar hyn o bryd mewn ysgolion ar wahan, fynd i'r un ysgol erbyn 2010
Sut hynny? A sut hefyd mai Plaid Cymru yn unig sydd ar fau am hyn?
ffric a ddywedodd: Ac am iddyn nhw gynnig symud rhai dosbarthiadau mewn i ysgol Saeneg.
Cynnig medde ti. Ydy hyn am ddigwydd felly?
ffric a ddywedodd: Ac ambell i ddosbarth mewn ysgol sydd milltir i ffwrdd.
Eto, a gosodiad o ffaith yw hyn? Ydy hyn am ddigwydd? Ai trefn dymhorol neu barahol fydd hwn?
ffric a ddywedodd: Ac am fydd yr ysgol newydd yng nghanol 6 i 9 chant o dai newydd fydd angen eu hysgol nhw'u hunain
Beth ti'n olygu fan hyn? Oes angen agor ysgol newydd arall?
ffric a ddywedodd:Ac am fydd rhaid cau nid un ond dwy ysgol Saesneg leol yn rhannol.
Pa ysgolion yw'r rhain?

Sori mod i'n dod drosodd yn ddilornus uchod, nid dyna'r bwriad, wir yr. Ymdrech genuine ar geisio deall y cyfraniad yw hwn, achos mod i'n ymddiddori yn y mater dan sylw ond nad ydw i'n byw yng Nghaerdydd. Mae'n amlwg dy fod ti Ffric yn byw yng Nghaerdydd ac a chryn ddiddordeb yn y pwnc, felly y gobaith yw mod i'n cael fy ngoleuo ar y mater.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Dem Rhyddfrydol a Plaid i Reoli Caerdydd

Postiogan ffric » Sad 17 Mai 2008 5:34 pm

Dim problem. Mae cynllun ar droed eisioes i roi ysgol Gymraeg yn Treganna erbyn 2010. Cynllun y rhyddfrydwyr 'di o. Mae rhieni, llywodraethwyr ac athrawon ysg treg isho'r cynllun i lwyddo. Mae'r pleidiau gwleidyddol wedi cytuno i'w basio fo. Mae'r awdurdod a'r cynghorwyr 'di bod yn trafod gyda phawb uchod, a'r sector Saesneg ers blynyddoedd i lunio'r cynllun ad drefnu. Diw PC ddim 'di trafod hefo neb. NEB. Ond, erbyn ini fynd drwy ymgynghoriad arall a chanfod pa mor wallus, afrealistig ac amhoblogaidd 'di cynllun PC, mi fydd y cynnig gwreiddiol 'di mynd i'r gwellt.

Pam bo PC am newid cynnig sy'n darparu ysg gym yn barod? Ma nhw am gau faint bynnag a fynnir o ysgolion yng Ngwynedd ond ofn pechu'r saeson yn y brifddinas.

'Di cynllun PC ddim yn well na'r un sy'n bod yn barod. Mi fyddai'r ysgol filltir o'i thalgylch ei hun ac yn hirach yn cyraedd. Mae amsar yn ffactor am fod ysgol gorlif treganna, ysgol tan yr eos, lle mae llawer o frodyr a chwiorydd plant treganna, yn gorfod cau cyn y bydd yr ysgol newydd yn barod. Dyna pam y byddai plant yn mynd i unrhyw dwll dros dro wrth aros ysgol na tydan nhw ddim o'i heisho.

Ydw i'n sicr o'r pethe dwi'n eu dweud? Llawer, lawer sicrach na chynnig clowd cwcw PC.
ffric
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 17
Ymunwyd: Llun 21 Ebr 2008 3:58 pm

Re: Dem Rhyddfrydol a Plaid i Reoli Caerdydd

Postiogan hanna o dreganna » Sad 17 Mai 2008 9:09 pm

Cytuno efo Ffric. A bod yn deg â'r Blaid, dyma roeddan nhw wedi addo ei wneud cyn yr etholiad - SHAFFTIO'R CYMRY CYMRAEG! Roedd eu polisi'n glir: cael pres gan rhyw dylwythen deg i godi ysgol ger Pont Trelai (sy'n daith bell ac anymunol o Dreganna) a than bod yr ysgol honno'n cael ei chodi (- os y byddai byth yn cael ei chodi), dosbarthu plant Ysgol Treganna ar safle tair ysgol wahanol. Tydi'r polisi yma ddim yn annhebyg i ateb ein cynghorwyr Llafur gwrth-Gymraeg, sef rhannu plant Treganna rhwng gwahanol safleoedd a sefydlu ysgol(ion) newydd (os o gwbl) y tu allan i'r dalgylch (e.e. Grangetown).

Rydan ni'n poeri gwaed yn ein ty ni. Mae'n anodd credu ei bod hi mor anodd a phoenus i dderbyn addysg Gymraeg gydag adnoddau teilwng. Mae'n anhygoel mai amod y Blaid o ran ffurfio clymblaid efo'r Democratiaid Rhyddfrydol oedd gwanhau cynlluniau'r Cyngor i ddatblygu addysg Gymraeg. Mae rhieni Treganna'n teimlo'n ddiymadferth - ond mae 'na gythraul o ffeit ar y ffordd ac etholiadau yn y dyfodol lle y gellid codi ymgeiswyr annibynnol dros addysg Gymraeg i sefyll yn erbyn y Blaid pe bai angen.
hanna o dreganna
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2008 7:23 pm

Re: Dem Rhyddfrydol a Plaid i Reoli Caerdydd

Postiogan ffric » Sul 18 Mai 2008 8:01 am

Mae arna i sori fawr i Hana am ei amau hi cyn yr etholiadau lleol y byddai hyn yn digwydd. Roeddet ti'n llygaid dy le. Dwi'm yn gwbod yn union sut mae pobl treganna am ymateb ond pan mae athrawon yn crio ar iard yr ysgol ac yn bygwth cerdded allan o'u gwaith, mae'n mynd i fod yn o ffyrnig. Ma angen cael cyfarfod yn fuan i bawb gael neud eu teimladau'n amlwg.
ffric
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 17
Ymunwyd: Llun 21 Ebr 2008 3:58 pm

Re: Dem Rhyddfrydol a Plaid i Reoli Caerdydd

Postiogan GT » Sul 18 Mai 2008 1:13 pm

ffric a ddywedodd:Pam bo PC am newid cynnig sy'n darparu ysg gym yn barod? Ma nhw am gau faint bynnag a fynnir o ysgolion yng Ngwynedd ond ofn pechu'r saeson yn y brifddinas.


:ofn:

Ychydig iawn o Saeson sy'n byw yn Nhreganna. 'Dwi'n synnu braidd bod ysgolion arbennig ar eu cyfer. Swnio braidd fel De Affrica yn yr hen ddyddiau.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Dem Rhyddfrydol a Plaid i Reoli Caerdydd

Postiogan ffric » Sul 18 Mai 2008 2:01 pm

Dwi'm yn gwbod faint o brofiad sgin ti o Dde Africa yn yr hen ddyddiau GT - ella dy fod yn frodor o'r Veldt neu'n ffrind mynwesol i Mandela. Yn rhyfadd iawn mi wyt ti'n tynnu cymhariaeth debyg i'r un a wnaeth cynghorydd Llafur yn Nhreganna, pan alwodd Add Gym yn 'apartheid'. Ffrind ia? Ella na toedd na'm byd arall i chi neud ar Roben island ond cynllunio sut i lesteirio'r twf yn y galw am ysgolion Cymraeg yng Nghaerdydd.

Defnyddiais y gair 'Saeson' ac mi oedd hynny'n anghywir. Mi oedd Dic Sion Dafydd yn Gymro 'doedd? Ysgwn i dros bwy 'sa fo'n pleidleisio?
ffric
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 17
Ymunwyd: Llun 21 Ebr 2008 3:58 pm

Re: Dem Rhyddfrydol a Plaid i Reoli Caerdydd

Postiogan GT » Sul 18 Mai 2008 7:36 pm

ffric a ddywedodd:Dwi'm yn gwbod faint o brofiad sgin ti o Dde Africa yn yr hen ddyddiau GT - ella dy fod yn frodor o'r Veldt neu'n ffrind mynwesol i Mandela. Yn rhyfadd iawn mi wyt ti'n tynnu cymhariaeth debyg i'r un a wnaeth cynghorydd Llafur yn Nhreganna, pan alwodd Add Gym yn 'apartheid'. Ffrind ia? Ella na toedd na'm byd arall i chi neud ar Roben island ond cynllunio sut i lesteirio'r twf yn y galw am ysgolion Cymraeg yng Nghaerdydd.

Defnyddiais y gair 'Saeson' ac mi oedd hynny'n anghywir. Mi oedd Dic Sion Dafydd yn Gymro 'doedd? Ysgwn i dros bwy 'sa fo'n pleidleisio?


Dim profiad o Dde Affrica, a fues i ddim yn Robin Island efo'r brawd Patel - ond 'dwi'n 'nabod Canton yn eithaf.

Cafodd y wraig ei magu ar Cowbridge Road East, ac i Ysgol Heol Landsdowne aeth hi'n hogan fach. Mae ei theulu yn byw yng Nghanton (ac mewn rhannau eraill o Gaerdydd) o hyd. Hi ydi'r unig aelod o'i theulu estynedig sy'n siarad Cymraeg Fyddwn i ddim yn argymell dy fod di (fel mewnfudwr i Gaerdydd yn ol pob tebyg) yn ceisio egluro wrth ei theulu mai Saeson ydyn nhw mewn gwirionedd. :winc:

Wedi dweud hynny i ysgol Gymraeg y byddai'n plant ni wedi mynd petaem yn byw yn Nhreganna yn hytrach na Chaernarfon. Creu ysgol ar gyfer yr ychydig Saeson sy'n byw yng Nghanton sy'n atgoffa dyn o Dde Affrica.

Yn ol fy nealltwriaeth i o'r sefyllfa yn Nhreganna mae'r Blaid wedi mynnu bod Ysgol Landsdowne yn aros ar agor, ac mae hyn am ddileu agor ysgol newydd Gymraeg am rhyw flwyddyn. Mae'n anghyfleus i rieni a phlant sy'n cael eu haddysg Gymraeg ar hyn o bryd, ac mae'r sefyllfa bresennol yn wir yn anerbyniol.

Serch hynny, nid plaid i Gymry Cymraeg Caerdydd ydi'r Blaid - mae'n blaid i bawb yn y brif ddinas a thu hwnt yng Nghymru. Mae mor briodol i Blaid Cymru edrych ar ol y bobl sydd yn anfon eu plant i Ysgol Heol Landsdowne nag ydyw iddynt edrych ar ol Cymry Cymraeg Treganna. Dwi'n meddwl bod y cytundeb yn gyfaddawd sy'n edrych ar ol y ddau grwp.

Hannah a ddywedodd:Mae rhieni Treganna'n teimlo'n ddiymadferth - ond mae 'na gythraul o ffeit ar y ffordd ac etholiadau yn y dyfodol lle y gellid codi ymgeiswyr annibynnol dros addysg Gymraeg i sefyll yn erbyn y Blaid pe bai angen.


Ahem - tri chynghorydd Llafur sydd yn Nhreganna os 'dwi'n deall yn iawn.
Golygwyd diwethaf gan GT ar Sul 18 Mai 2008 11:13 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Dem Rhyddfrydol a Plaid i Reoli Caerdydd

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sul 18 Mai 2008 8:49 pm

GT a ddywedodd:Ahem - tri chynghorydd Llafur sydd yn Nhreganna os 'dwi'n deall yn iawn.


Dim syniad gen i - ond rydw i'n derbyn hynny. Ydy Caerdydd yn nwylo'r Blaid Lafur? Yn ol be dw i wedi clywed yma, nag ydy. Efallai bydd Treganna'n datganu UDI... Na, rydw i'n credu fod Hannah'n awgrymu y gallai ymgeisyddion annibynnol sefyll yn erbyn cyngoryddion o'r glymblaid sy' mewn grym - ble bynnag y maen nhw - yn hytrach na sefyll yn Nhreganna yn arbennig.

A dyma fi, yn yr Alban, yn ceisio cael rhyw fath o addysg Aeleg i mab i. Does dim ysgol o gwbl yn Ffeiff sy'n cynnig Gaeleg. Mae ysgol ym Mherth - ond fyddai Cyngor Fife ddim yn fodlon talu am deithio yna. Mae Caerdydd yn llai o lawer na Ffeiff (o ran arwynebedd) - ac ymddengys fod na ryw fath ar addysg Gymraeg yno o hyd, er efallai nad yn gyfleus iawn. Brwydrwch eich brwydrau - pob llwyddiant - ond cofiwch ninnau yn yr Alban.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 19 gwestai

cron