FFRIC: Mae dadansoddiad anorak o ganlyniadau'r is etholiadau'n drylwyr ond am un peth. Mi oedd y blaid lafur yn addo yn union yr un peth a phlaid cymru erbyn diwedd eu hymgyrch, namyn bod yr ysgol newydd am gael ei lleoli yn Grangetown
Ond mae hwn yn wahaniaeth sylfaenol iawn: roedd Plaid Cymru yn dadlau dros agor ysgol newydd yn yr ardal ac roedd Llafur yn sôn am agor ysgol mewn ardal gwbwl wahanol.
Mae'n bwysig i ddeall taw nid bwriad Llafur oedd/yw trawsblannu Ysgol Treganna i Grangetown, ond yn hytrach agor ysgol Gymraeg yno ar gyfer y rhieni yn Grangetown sy'n danfon eu plant i ysgol Gymraeg arall Treganna (yr ardal, h.y.), sef Ysgol Pwll Coch. (Dwi'n ychwanegu gwybodaeth fydd o help i bobl y tu allan i Gaerdydd yma, nid ceisio bod yn nawddoglyd!) Rhesymeg Llafur oedd/yw os gaiff Grangetown ei hysgol ei hun, mi fydd hyn yn rhyddhau mwy o lefydd yn Ysgol Pwll Coch ar gyfer rhieni Treganna/Canton, ac felly yn diwallu'r galw yn yr ardal. Safbwynt Plaid Cymru oedd y byddai hyn – yn ei hun - yn annigonol (o gofio'r gorlenwi enbyd yn Ysgol Treganna) a bod angen felly blaenoriaethu ehangu'r ddarpariaeth yn Nhreganna h.y. hyd yn oed o agor ysgol Gymraeg yn Grangetown rhywbryd yn y dyfodol bod angen dwy ysgol Gymraeg yma yn Nhreganna.
Daeth strategaeth Llafur i'r amlwg yn y cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd yn Ysgol Lansdowne fis Ionawr pan gwelwyd ymgais lwyddiannus gan y Cynghorydd Patel i gymylu pethau wrth iddo ddadlau mai gwraidd y broblem oedd bod plant Grangetown yn teithio i Dreganna (ydyn ond nid i
Ysgol Treganna) i gael eu haddysg Gymraeg ac y dylid, yn ei eiriau ei hun, “eu danfon yn ôl i Grangetown”. (Dychmygwch, o ddifri calon, yr helynt pe bai gwleidydd o unrhyw blaid arall wedi datgan y fath eiriau – i'r rheiny ohonoch o du allan y Brifddinas, mae canran uchel o drigolion Grangetown o gefndir ethnig - â nifer calonogol yn mynychu addysg Gymraeg, gyda llaw.) Os am siniciaeth etholiadol go iawn, does dim angen edrych llawer pellach na hyn.
Hyd y gwn i, Plaid Cymru oedd yr unig Blaid i herio ensyniadau Llafur a'i honiadau ffals bod heidiau o blant Grangetown yn mynychu Ysgol Treganna (fel y dwedais eisioes, mae plant Grangetown yn mynychu ysgol arall yr ardal, Ysgol Pwll Coch). Plaid Cymru oedd yr unig blaid i herio polisi'r Blaid Lafur parthed agor ysgol yn Grangetown ac i ddadlau na fyddai'n helpu achos Ysgol Treganna un iot, a Phlaid Cymru oedd hefyd yr unig blaid i ddatgan bod sefyllfa bresennol Ysgol Treganna yn gwbwl annerbyniol.
Mae gan y Blaid bolisi gwahanol i'r hyn a gyflwynwyd gerbron rhieni a llywodraethwyr Ysgol Treganna gan y Rhyddfrydwyr Democrataidd – oes. Ond dydy hynny ddim yn gyfystyr â dweud bod y Blaid wedi bradychu'r rhieni hynny. Mae'r neges yn glir –mwy o ddarpariaeth Gymraeg yn Nhreganna, sy'n neges dra gwahanol i un y Blaid Lafur. Yn anffodus i bawb sy'n gefnogol i'r Gymraeg, ni ddisodlwyd cynghorwyr Llafur Treganna ac maent felly yn rhydd i barhau i greu ansicrwydd ac i gynhyrfu'r dyfroedd.