Dem Rhyddfrydol a Plaid i Reoli Caerdydd

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Dem Rhyddfrydol a Plaid i Reoli Caerdydd

Postiogan Kenny » Maw 20 Mai 2008 11:09 pm

Rydw I`n rhiant o plentyn syn disgybl yn Ysgol Lansdowne ac ar ol darllen rhau o "opinions " Ffric a Hanna dydw I ddim yn gally credi beth ydw in darllen. Mae`n dibygol ei fod nhu`n eithafwyr ac allwng I byth a credu hyn yw`r barn holl rhieni/athrawon a phobl Treganna. Rydw I wedi clywed o llawer o bobl mae mwyafrif o bobl Treganna yn meddwl syniad da yw hwn ac yn cytuno efo GT a phobl eraill ar y maes ac yn hapus dy fod Treganna yn mynd i cael ysgol hollol newydd ac yn falch fod Ysgol Lansdowne ddim yn cae.
My Ysgol Lansdowne yn ysgol bron top yn llawn efo 384 plant yn yr ysgol ac yn tyfu pob blwyddyn. Mae 6% or plant yn dod o Grangetown 20plant o 6teulu. Mae Lansdowne yn ysgol poblogaeth iawn a fel dywedodd GT ysgol poblogaeth am mwy na canrif.
Nid un waith clywaist unrhywin ddim yn cytuno ar faith fod Treganna eisiau ysgol newydd yn Ysgol Lansdowne ac ddylen ni`n gydau`n gilydd wedi bod yn ceisio am ysgol newydd i Treganna , ond mae rhau pobl o Treganna wedi bod yn rhedeg "sites" Campaining i cae ysgol Lansdowne a symud 384 plant o gwmpas Treganna a llefydd eraill ac yn anghofio mae addysg 384 plant mae nhw`n siarad am, mae`r drwg teumlad hyn yn rhywbeth sydd yn mund i aros efo`r rhieni phlant dysgyblion ar phobl syn byw yn Treganna am amser maeth iawn ac dyw`r drwg teumlad ar Campainig ddim wedi dod o Ysgol Lansdowne rydim wedi ymladd y cais hun ar ein hyn heb unrhyw help o pobl sydd yn gweithio ir Echo a phobl syn gwethio yn teledu a heb dweud unrhyw gair ddrwg am Ysgol Treganna o gwbl rydim yn gallu cerdded o gwmpas Treganna efon pen syth i fynu yn hollol sicur am hynu ac yn cadw ein "SELF RESPECT." Dermlaen Ffric a Hanna os hyn yw dy farn am yr holl Ysgol Treganna V Ysgol Lansdown yn lle cyddio ti ol ir Maes dywedwch i ni i gyd pwy ydich chi , mae barniau hollol grif efo`r ddau o ti ac yn anffodis yr wyt y ddau o ti`n gwneud mwy ddrwg na help yn y holl cynlluniau`r yma ,rhydich wedi gadael lawr "Cymry Gymraeg".
Kenny
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 1
Ymunwyd: Maw 20 Mai 2008 9:39 pm

Re: Dem Rhyddfrydol a Plaid i Reoli Caerdydd

Postiogan ffric » Mer 21 Mai 2008 7:20 am

Mi geisia i beidio a chwifio 'mreichiau'n ddigon hir i deipio GT.

Mae rhieni treganna yn erbyn cynllun PC.

Mae athrawon treganna yn erbyn cynllun PC.

Mae llywodraethwyr treganna yn erbyn cynllun PC.

Mae rhieni, athrawon a llywodraethwyr radnor yn erbyn cynllun PC.

Ydi pawb yn hysteraidd? Wyt ti mor hy a diystyri safbwynt yr holl bobol hynny? 'Sa'r cyfryngu mwya trahaus yn yr ysgol ddim efo'r fath hyder!

Toes 'na neb, neb yn treganna erioed 'di galw am gau lansdowne. Tasa rhywun 'di gofyn i bobol treganna be ma nhw'i isho dwi'n siwr y bysa 'na opsiwn lawar mwy synhwyrol i gael. 'Dwi'm 'di clywad neb o ysg tre yn galw am gau unrhyw ysgol saeneg. yn anffodus, does gin bobol treganna ddim tri cynghorydd llafur lleol yn ymladd ar eu rhan fel sgin lansdowne. ma un ohonynt 'di bod yn lledaenu sion ffiaidd bod add gym yn hiliol, yn eich enw chi Kenny. Chlywis ' ddim neb o lansdowne yn ei farnu am hynny. Chlywis i ddim neb o lansdowne chwaith yn cefnogi treganna, yn fwy na deud 'poor old treganna'. cwestiwn iti gnoi cul drosto - sud 'da chi yn lansdowne am benderfynnu pa blant fydd yn cael aros yn eich ysgol a pha rai fydd yn gorfod gadael pan fydd PC yn cau hanner eich ysgol? 'Da chi'n dallt mai dyna'u bwriad 'dach?

Mae'n rhaid i'r cyngor ymwarad a'r 90 lle gwag yn ysgol lansdowne. Nid fi, na neb o dreganna sy'n deud hynny ond y cynulliad!

Dwi'n dallt bod cyfarfod mawr heddiw rhwng y cyngor a'r grwpiau sy'n ymwneud ag ysgol treganna. Difyr fydd clywad canlyniad y trafo d hynny.
ffric
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 17
Ymunwyd: Llun 21 Ebr 2008 3:58 pm

Re: Dem Rhyddfrydol a Plaid i Reoli Caerdydd

Postiogan Darth Sgonsan » Mer 21 Mai 2008 11:32 am

GT a ddywedodd:
Darth Sgonsan a ddywedodd:. Pam goblyn y byddai LlG yn dod i fodolaeth yng Nghaerdydd?


am laff...ag i gael rwla i aros adag rygbi. dyna pam natho nhw agor cangan Cymuned Cdydd ia?
He who makes a beast of himself gets rid of the pain of being a man
Darth Sgonsan
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 736
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:43 am
Lleoliad: yn pesgi ar farwolaeth mamwlad dlawd

Re: Dem Rhyddfrydol a Plaid i Reoli Caerdydd

Postiogan hanna o dreganna » Mer 21 Mai 2008 11:06 pm

Kenny, wrth gwrs nad ydan ni'n mynd i gytuno ar sut i ddatrys sefyllfa ysgolion Treganna a dwi'n cydymdeimlo'n fawr gydag Ysgol Lansdowne a'i theuluoedd, ond dyma ychydig o ffeithiau am y sefyllfa:

- Cyhoeddodd Cyngor Caerdydd adroddiad yn dilyn ymchwil trwyadl oedd yn argymell cau Ysgol Lansdowne ac adleoli Ysgol Treganna ar ei safle gan symud plant Ysgol Lansdowne i safle Ysgolion Radnor/Treganna ac i ysgolion cynradd cyfrwng-Saesneg eraill Treganna. Roedd yr adroddiad yn dweud fod gormod o lefydd gwag yn ysgolion cyfrwng-Saesneg Treganna

- Mae’r cyfnod ymgynghori ar y gweill ac mae pawb wedi cael cyfle i fynegi barn ar y mater

- Cyhoeddodd Plaid Cymru eu bod am ffurfio clymblaid efo'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dilyn yr etholiad a bod yr unig obaith a oedd ganddon ni am ysgol addas i'n plant wedi diflannu. Yn lle hynny roedd Plaid Cymru am ddechrau o’r dechrau ac yn gobeithio codi ysgol filltir da i ffwrdd o ble roedd y plant y byw ar dir preifat, mae hyn yn amodol ar y cyllid angenrheidiol ac ar y ffaith fod angen i’r Cynylliad gytuno i fynd yn groes i’w polisi. Mae'n gwbl annerbyniol achos mae o y tu allan i'n cymuned ni.

- Mae cynlluniau’r Blaid yn cynnwys cau hanner Ysgol Lansdowne gan ei throi o fod yn ysgol ddeuffrwd i ysgol unffrwd ac i wneud yr un peth i Ysgol Radnor. Byddan yn cael gwared ar yr adeiladau sy’n weddill gan gynnwys safle presennol Ysgol Treganna.

Rydan ni isio sicrwydd o ysgol addas i'n plant yn ein cymuned ein hunain. Be sy'n bod ar hynny?
hanna o dreganna
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2008 7:23 pm

Re: Dem Rhyddfrydol a Plaid i Reoli Caerdydd

Postiogan ffric » Iau 22 Mai 2008 7:02 am

Kenny!

Kenny!!

Oh my God. Ma nhw 'di lladd Kenny!!!!!!
ffric
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 17
Ymunwyd: Llun 21 Ebr 2008 3:58 pm

Re: Dem Rhyddfrydol a Plaid i Reoli Caerdydd

Postiogan hanna o dreganna » Sad 24 Mai 2008 9:07 pm

Wel, bois, edrychwch ar hyn ta i gael hanes y bennod ddiweddara yn y sgandal. Erthygl ydi hi o South Wales Echo ddoe: 'Council Retreats from Welsh School Pledge'
http://icwales.icnetwork.co.uk/news/car ... -20962530/

Hefyd, llythyr rhieni Ysgol Treganna yn egluro pam gwrthwynebu'r cynllun gwallgo 'ma:
http://treganna.org.uk/?page_id=49
hanna o dreganna
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2008 7:23 pm

Re: Dem Rhyddfrydol a Plaid i Reoli Caerdydd

Postiogan hanna o dreganna » Iau 17 Gor 2008 8:30 pm

Dwi'n ailagor y drafodaeth yma yn dilyn datblygiadau diweddar yng Nghaerdydd.

Roeddan ni i fod i gael gwybod ynglyn a dyfodol Ysgol Treganna ganol Gorffennaf ond mae'r penderfyniad wedi ei ohirio tan yr Hydref bellach. Yn yr un wythnos hefyd mi gyhoeddodd Dan O'Neill erthygl hyll a hollol warthus yn ymosod ar y Gymraeg ac addysg Gymraeg yn yr Echo (mae edefyn yn trafod hyn eisoes).

Mae 51 disgybl yn dechrau yn nosbarth derbyn Treganna/Tan yr Eos fis Medi - er gwaetha'r ffaith fod gorlenwi'n risg iechyd a diogelwch, fod y plant yn cael eu gwasgu i bob twll a chornel i gael eu dysgu a bod yr ysgol ar wasgar dros gampws tair ysgol wahanol o flwyddyn nesa ymlaen (Treganna, Ninian Park a Radnor), mae rhieni dal am i'w plant gael eu haddysgu yno.

Mae dyfodol yr ysgol yn nwylo ein cynghorwyr Plaid Cymru a dwi'n poeni y byddan nhw'n cael eu llywio gan safbwyntiau tebyg i rai'r crinc O'Neill ma. Rydan ni isio addysg mewn adnoddau teilwng yn ein cymuned i'n plant a chymrwn ni mo'n bwlio gan hilgwn cibddall na chan wleidyddion barus-am-bleidlais.

Mae hi'n bryd i'r Blaid ddeall na wnaiff Dan O'Neill a'i debyg byth BYTH bleidleisio drostyn nhw, mwy na wnaiff rhieni Lansdowne. Wrth giat Treganna mae pleidlais draddodiadol Plaid Cymru. Os ydy'r Blaid am gymryd ei llywio gan farn y bobol yma mae'n rhaid iddyn nhw ddeall fod goblygiadau i hyn.
hanna o dreganna
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2008 7:23 pm

Nôl

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron