Heb os , y run gorau - Elin Jones. Mae hi di bod yn weinidog arbennig o effeithiol. Bach iawn iawn o lwyddiannau sydd di dod allan o'r glymblaid Plaid/Llafur. Ond y run llwyddiant sydd yn sefyll allan yw gwaith Elin Jones fel Gweinidog Materion Gwledig.
Y gwaetha? Wel, dwi methu meddwl am un sydd yn sefyll allan. Mae na ambell i ymgeisydd - Rhodri Glyn yn un da'r shambles mae di creu dros y flwyddyn diwetha, Brian Gibbons yn un arall - gweinidog gwan, aneffeithiol. Jane Hutt, ddim yn edrych fel bod lot a siap arni
O ran y siomedigaeth mwya - Edwina Hart. Gyda'i phersenoliaeth cryf, ac o weld yn y gorffennol ei arweindeb cryf, byddwn wedi disgwyl iddi fod yn weinidog iechyd effeithiol. Ond, yn anffodus, nid yw hwnna wedi bod yn wir . Mae'r gwasanaeth iechyd yng Ngnymru dal mewn stad ofnadwy, a dyw hi ddim wedi neud dim i wella'r sefyllfa, oni bai am wario lot o arian y trethdalwyr ar refiws...
Felly Elin Jones y gweinidog gorau heb os, a bach o tysl ar gyfer pwy yw 'Derby County' gweinidog Cymru