Gweinidog gorau a gwaethaf Cymru

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gweinidog gorau a gwaethaf Cymru

Postiogan Rhods » Iau 15 Mai 2008 11:50 pm

Heb os , y run gorau - Elin Jones. Mae hi di bod yn weinidog arbennig o effeithiol. Bach iawn iawn o lwyddiannau sydd di dod allan o'r glymblaid Plaid/Llafur. Ond y run llwyddiant sydd yn sefyll allan yw gwaith Elin Jones fel Gweinidog Materion Gwledig.

Y gwaetha? Wel, dwi methu meddwl am un sydd yn sefyll allan. Mae na ambell i ymgeisydd - Rhodri Glyn yn un da'r shambles mae di creu dros y flwyddyn diwetha, Brian Gibbons yn un arall - gweinidog gwan, aneffeithiol. Jane Hutt, ddim yn edrych fel bod lot a siap arni

O ran y siomedigaeth mwya - Edwina Hart. Gyda'i phersenoliaeth cryf, ac o weld yn y gorffennol ei arweindeb cryf, byddwn wedi disgwyl iddi fod yn weinidog iechyd effeithiol. Ond, yn anffodus, nid yw hwnna wedi bod yn wir . Mae'r gwasanaeth iechyd yng Ngnymru dal mewn stad ofnadwy, a dyw hi ddim wedi neud dim i wella'r sefyllfa, oni bai am wario lot o arian y trethdalwyr ar refiws...

Felly Elin Jones y gweinidog gorau heb os, a bach o tysl ar gyfer pwy yw 'Derby County' gweinidog Cymru
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: Gweinidog gorau a gwaethaf Cymru

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 16 Mai 2008 7:06 am

Rhaid i mi ddweud 'na Elin Jones ddaeth i'm mhen (hyngover iawn) yn syth o feddwl am y gorau: mae hi'n arbennig o weinidog yn fy marn i.

Byddwn i'n mynd yn syth bin am RhGT hefyd ond mae hynny oherwydd fy ngwleidyddiaeth yn fwy na dim. Gan ddweud hynny, mae'r rhan y gwnest grybwyll i gyd yn eithaf gwan: mae'n ffaith drist am wleidyddiaeth Cymru y gallwn enwi sawl gweinidog gwan ond dim ond un wirioneddol cryf!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Gweinidog gorau a gwaethaf Cymru

Postiogan Sleepflower » Gwe 16 Mai 2008 8:51 am

Mae rhaid i fi tynnu fy het off i Rhodri Morgan fan hyn - fi'n credu bod e wedi bod yn effeithiol, os gredwch chi â'i wleidyddiaeth neu beidio. Meddyliwch lle bydde datganoli ar hyn o bryd petai Alun Michael dal wrth y llyw...
Rhithffurf defnyddiwr
Sleepflower
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1442
Ymunwyd: Iau 20 Tach 2003 6:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Gweinidog gorau a gwaethaf Cymru

Postiogan Garnet Bowen » Gwe 16 Mai 2008 9:01 am

O safbwynt cenedlaetholgar, Rhodri Glyn yw'r gweinidog gwaethaf, heb os. Am y tro cyntaf erioed, mae Plaid Cymru yn cael cyfle i lywodraethu yn genedlaethol - ac yn well na hynny, mae nhw'n cael dal y weinidogaeth bwysicaf i genedlaetholwyr, sef yr un sydd a chyfrifoldeb dros yr iaith a'r diwylliant Cymraeg. A wedi cael y cyfle euraidd hwn, mae RhGT yn ei ddefnyddio i geisio hybu buddianau pleidiol cul, drwy ymddwyn yn fwy Llafurol na Llafur. Oherwydd y gagendor rhwng disgwyliadau a chanlyniadau does dim amheuaeth mai RhGT sy'n haeddu'r llwy bren.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Re: Gweinidog gorau a gwaethaf Cymru

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 16 Mai 2008 9:09 am

Sleepflower a ddywedodd:Mae rhaid i fi tynnu fy het off i Rhodri Morgan fan hyn - fi'n credu bod e wedi bod yn effeithiol, os gredwch chi â'i wleidyddiaeth neu beidio. Meddyliwch lle bydde datganoli ar hyn o bryd petai Alun Michael dal wrth y llyw...


Mae Rhodri Morgan wedi bod yn effeithiol o ran y Blaid Lafur: pe byddai Alun Michael dal wrth y llyw dynag wyr beth fyddai sefyllfa'r Blaid Lafur erbyn hyn. O ran buddiannau pleidliol, Rhodri oedd y dyn iawn i gadw goruchafiaeth Lafuraidd yng Nghymru - fydda'r un arall ohonynt wedi.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Gweinidog gorau a gwaethaf Cymru

Postiogan Sleepflower » Gwe 16 Mai 2008 9:25 am

Oeddwn i'n siarad gyda fy wncwl sy'n ffarmwr. Dwedodd ei fod yn amhosib iddo fe dewis rhwng Elin jones a Carwyn Jones fel y Gweinidog amaeth gorau - ond bod y dau llawer gwell na Christine Gwyther.

Beth am Ieuan Wyn Jones? Am flynyddoedd, oedd pawb yn treail cael gwared ohono, ond nawr, dyma fe'n Dirprwy Brif Weinidog, a'i Blaid mewn grym yn y Cynulliad. Mae'r galwadau am ei ymddiswyddiad wedi taweli'n llwyr dros y ddwy flynedd diwethaf. Goroeswr heb ei ail. Fi'n aelod o Blaid Cymru, a 100% tu ôl arweinyddiaeth Ieuan Wyn Jones.
Rhithffurf defnyddiwr
Sleepflower
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1442
Ymunwyd: Iau 20 Tach 2003 6:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Gweinidog gorau a gwaethaf Cymru

Postiogan Rhods » Gwe 16 Mai 2008 9:37 am

Dwi yn cytuno Sleepflower, ma'r cryfder dangosodd IWJ ar ol slump Plaid yn 2003, i'w edmygu. Byddai ran fwyaf o wleidyddion di rhoi'r ffidl yn y to - ond chware teg iddo, nath e ymladd nol.

O ran gweinidog? Wel, ma fe di cael bach o isi ride. Lot o spin, lot o gyhoeddiadau ond ddim wedi neud dim rili ble ma pawb di cymryd sylw mawr. Rhaid dweud tho, yn amlwg ma gweinidog yn amddiffyn record llywodraeth y mae'n aelod o, ond i weld IWJ yn siambr yn ddiweddar yn amddifyn teyrnasiad blaenorol Llafur (pam oeddynt yn llywodraethu ar ben ei hun), braidd yn hileriys !!!Amddiffyn y 12 mis diwetha ers ir llywodraeth fod yn Plaid/Llafur iw ddisgwyl, ond y terynasiad cyn hynny? :rolio:

iWJ fel gweinidog? - Ddim y gwaetha, ond yn sicr ddim y gore. Mid-table falle
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm


Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai