Tudalen 1 o 2

Guardian yn hybu mewnfudwyr i Gymru

PostioPostiwyd: Sad 17 Mai 2008 1:57 pm
gan Mihangel Macintosh
Mae erthygl arall yn y Guardian heddiw yn cymeradwyo eu darllenwyr i ystyried symud i Gymru, er mwyn manteisio ar gwymp prisiau ein tai.

Re: Guardian yn hybu mewnfudwyr i Gymru

PostioPostiwyd: Sad 17 Mai 2008 3:13 pm
gan osian
Ma'r Guardian yn ddifrifol o safbwynt hyn. Ma 'na golofn chwydlyd yn y cylchgrawn Weekend o'r enw Let's move to. . .
oedd Cardigan arno fo chydig yn ol. o'dd cardigan yn cael ei ddarlunio yn hynod o ffafriol, heblaw, doddna'm un gair i awgrymu bod yna ffasiwn beth a diwylliant Cymraeg yn bodoli yna. nath i fi deimlo reit sal, a dosnam lot sy'n gneud hynny.

O'dd na fap mawr yn y canol o briffyrdd Prydain a lliwiau yn cynyrchioli faint o swn sy'n dod o bob un yn rhifyn heddiw hefyd.
ia, map o Brydain Fawr.





heblaw Cymru a'r Alban wrth gwrs.

Re: Guardian yn hybu mewnfudwyr i Gymru

PostioPostiwyd: Sad 17 Mai 2008 4:52 pm
gan celt86
'Wales with a Waitrose.'

Dim Adam Price ddwedodd, 'Holiday Home buyers are massing on the Welsh border' neu rhywbeth fel yna. Mae yna polisi o ran trethi yn Lloegr sydd yn gwneud ail-dai yn fwy costus na rhai yng Nhgymru.

Re: Guardian yn hybu mewnfudwyr i Gymru

PostioPostiwyd: Sad 17 Mai 2008 8:51 pm
gan Seonaidh/Sioni
Oh my goodness. Pan oeddwn ni'n weddol ifanc roedd na lot o drafferth efo pobl yn cael eu prisio allan o farchnad tai yng Nghymru oherwydd y sodding ail-gartrefi thing. Ar y pryd, roedd rhyw syniad o newid y trethi ac amodau cunllunio er mwyn gwrthwynebu hyn. Er enghraifft, petasai rhywun y gwerthu cartref gyntaf i neb oedd eisiau ail gartref, dylai hyn achosi cais cynllunio am "newid defnydd", sy'n golygu byddai rhaid i'r cyngor lleol ystyried y peth. O ran trethi, (a) mae'r sustem presennol (Council Tax) yn annheg gan ei bod yn daladwy gan y bobl sy'n BYW mewn ty yn hytrach na chan y bobl sy BERCHEN ar dy; ond (b) basai treth incwm leol yn waeth o lawer o ran hybu ail-gartrefi.

A be sy gennym ni yn yr Alban? Llywodraeth sy'n credu mewn treth incwm leol, cymunedau er enghraifft ar Ynys Sgei sy eisoes bron wedi diflannu dan orthrwm y frigad ail-gartref ac ymddeolwyr well-heeled - dyma'r Highland Clearances o newydd.

Y Guardian? Wel, be dych chi'n disgwyl o bapur sy'n cefnogi Plaid Treth Incwm Leol Prydain - y Rhyfeddol Demagogs.

Re: Guardian yn hybu mewnfudwyr i Gymru

PostioPostiwyd: Sul 18 Mai 2008 5:25 pm
gan r w jones
Mae hi fyny i'r cyngor lleol a ydyn nhw am godi ar dai haf. Mae hawl ganddyn nhw i wneud hynny. Mi fasa hi'n ddiddorol cyhoeddi rhestr o'r rheiny sy'n codi ar y ffycars, a rhestr o'r rheiny sydd ddim.

Re: Guardian yn hybu mewnfudwyr i Gymru

PostioPostiwyd: Llun 19 Mai 2008 11:42 am
gan Pryderi
Yr unig beth sy'n fy nghynddeiriogi i am y golofn Let's move to ... yw eu bod yn ystyried o dan y pennawd Well connected? dim ond hygyrchedd o safbwynt y trefi mawrion.

Os da'ch chi'n symud i Landudno i weithio yno, pa ots ydy hi pa mor hygyrch ydy Lerpwl neu Fanceinion?

Re: Guardian yn hybu mewnfudwyr i Gymru

PostioPostiwyd: Llun 19 Mai 2008 2:07 pm
gan m.c.macrall
Oed na linc i ymateb ayyb ?

Re: Guardian yn hybu mewnfudwyr i Gymru

PostioPostiwyd: Sul 25 Mai 2008 8:28 pm
gan LLewMawr
sdim angen y Guardian i neud pethe'n waith i Gymru- mae'r saes yn mewnlifo trwy'r amser. ta waith sdim lot o bobl yn darllen y Guardian.

Re: Guardian yn hybu mewnfudwyr i Gymru

PostioPostiwyd: Sad 02 Ebr 2011 1:59 pm
gan Cilan
Pen Llyn sy dan sylw heddiw: http://www.guardian.co.uk/money/2011/ap ... -peninsula.
"Now that Cornwall is full up, the more remote coastal reaches of Wales have become the fashionable retreats of that curious modern breed – the downshifter..."
Mae yna ambell i ymateb digon diddorol gan rai o ddarllenwyr y Guardian eangfrydig :seiclops: :
""Politeness', a local told me they are polite to your face. I live in a nicer part of Wales across the bay, the Ardudwy coast... The locals here can be a bit bitchy but they aren't as bad as the Llyn variety. The North West of Wales is a hotbed of racism and extremists, as in most parts of the UK locals can't afford to buy a house but the racists blame the incomers rather than the real culprits who are the myopic planners and extremist politicians (look up Simon Glyn). "

Re: Guardian yn hybu mewnfudwyr i Gymru

PostioPostiwyd: Sul 03 Ebr 2011 5:54 pm
gan Josgin
Hoff bapur 'trendy lefties' a ffeministiaid Plaid Cymru. Ydi o'n beth drwg, o safbwynt pobl eisiau dod yma, ein bod yn rhoi argraff wael ? .
Petaent yn meddwl amdanom fel pobl groesawus, ddiffuant ( a mi ydwi fi fy hun !), buasai'n waeth eto.