gan Seonaidh/Sioni » Sad 17 Mai 2008 8:51 pm
Oh my goodness. Pan oeddwn ni'n weddol ifanc roedd na lot o drafferth efo pobl yn cael eu prisio allan o farchnad tai yng Nghymru oherwydd y sodding ail-gartrefi thing. Ar y pryd, roedd rhyw syniad o newid y trethi ac amodau cunllunio er mwyn gwrthwynebu hyn. Er enghraifft, petasai rhywun y gwerthu cartref gyntaf i neb oedd eisiau ail gartref, dylai hyn achosi cais cynllunio am "newid defnydd", sy'n golygu byddai rhaid i'r cyngor lleol ystyried y peth. O ran trethi, (a) mae'r sustem presennol (Council Tax) yn annheg gan ei bod yn daladwy gan y bobl sy'n BYW mewn ty yn hytrach na chan y bobl sy BERCHEN ar dy; ond (b) basai treth incwm leol yn waeth o lawer o ran hybu ail-gartrefi.
A be sy gennym ni yn yr Alban? Llywodraeth sy'n credu mewn treth incwm leol, cymunedau er enghraifft ar Ynys Sgei sy eisoes bron wedi diflannu dan orthrwm y frigad ail-gartref ac ymddeolwyr well-heeled - dyma'r Highland Clearances o newydd.
Y Guardian? Wel, be dych chi'n disgwyl o bapur sy'n cefnogi Plaid Treth Incwm Leol Prydain - y Rhyfeddol Demagogs.
A bheil thu gam aithneachadh?