Rheilffordd de-gogledd

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Rheilffordd de-gogledd

Postiogan S.W. » Iau 29 Mai 2008 12:58 pm

Hen Rech Flin a ddywedodd:
S.W. a ddywedodd:Sori wrach bod yr A470 yn bwysig i'r ychydig bobl sy'n byw yn agos ati, ond bydde trwch poblogaeth Gogledd Cymru byth yn breuddwydio dreifio lawr yr A470 i gyrraedd Caerdydd, nid oherwydd ei fod yn ffordd wael ond gan ei fod ddim yn hwylus. I ni yn y Googledd Ddwyrain y fordd hawsaf ydy i fynd i Wrecsam a lawr y ffin drwy Llwydlo ayyb.


Rwy'n byw o fewn lled poeriad i'r A470, er hynny o fynd i Gaerdydd yn y car, byddwyf yn mynd i lawr trwy swyddi'r Amwythig a Henffordd gan fod y ffordd trwy Loegr yn well. Dyna bwynt fy nghwyn bod teithio yn fewnol yng Nghymru yn anobeithiol. A gan fod pobl y Bae yn credu mai Caerdydd yw'r unig le yng Nghymru bydda rywun o'r gogledd yn dymuno mynd iddi, maent yn ddigon hapus i weld pob cysylltiad de/gogledd yn mynd trwy Loegr.

Dwi ddim yn hunanol parthed yr A470, bydda draffordd yn lle'r A487 yn gwneud tro yn iawn.


Ond di hynny ddim yn ymateb i fy mhwynt i.

Dydy'r A470 ddim mor bwyusig a mae pobl yn awgrymu. Yn sicr nid traffordd yn ei le yw'r ateb - a nid mewnfudwr gwyrdd honedig sy'n siarad yma. Mae angen gwella'r A470 wrth reswm ond mae angen newid mwy na dim ond hynny. Byddai'n llawer gwell a siwr braidd haws i newid ein ffordd o weithredu fel cenedl - cael y Cynulliad i gwrdd yn llawn tu allan i Gymru fel y mae'r Undeb Ewropeaidd yn ei wneud (am rwan) rhwng Brwsel a Strasbwrg, gwella ein defnydd o dechnoleg modern felly bod llai o angen deithio i'r dinasoedd yn y de o ran gwaith, gwella system drafniadiaeth cyhoeddus fel y trenau felly bod hi'n llawer haws a chynt i neidio ar dren yng Nghaergybi, Llandudno, Rhyl neu Wrecsam i fynd i Gaerdydd, Casnewydd neu Abertawe.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: Rheilffordd de-gogledd

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sad 31 Mai 2008 7:52 pm

Wrth gwrs, y ffordd hawsaf o gael rheilffordd rhwng y Gogledd a'r De fyddai i symud Amwythig, Llwydlo, Llanllieni a Henffordd i mewn i Gymru...
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Rheilffordd de-gogledd

Postiogan S.W. » Sad 31 Mai 2008 8:42 pm

Diolch am y sylw hynod gwerthfawr yne Sioni. :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: Rheilffordd de-gogledd

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 31 Mai 2008 11:19 pm

Ail agor y trac rhwng Caerfyrddin a Aberystwyth sydd angen!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Rheilffordd de-gogledd

Postiogan Hen Rech Flin » Sul 01 Meh 2008 5:04 am

S.W. a ddywedodd:Ond di hynny ddim yn ymateb i fy mhwynt i.

Dydy'r A470 ddim mor bwyusig a mae pobl yn awgrymu. Yn sicr nid traffordd yn ei le yw'r ateb - a nid mewnfudwr gwyrdd honedig sy'n siarad yma. Mae angen gwella'r A470 wrth reswm ond mae angen newid mwy na dim ond hynny. Byddai'n llawer gwell a siwr braidd haws i newid ein ffordd o weithredu fel cenedl - cael y Cynulliad i gwrdd yn llawn tu allan i Gymru fel y mae'r Undeb Ewropeaidd yn ei wneud (am rwan) rhwng Brwsel a Strasbwrg, gwella ein defnydd o dechnoleg modern felly bod llai o angen deithio i'r dinasoedd yn y de o ran gwaith, gwella system drafniadiaeth cyhoeddus fel y trenau felly bod hi'n llawer haws a chynt i neidio ar dren yng Nghaergybi, Llandudno, Rhyl neu Wrecsam i fynd i Gaerdydd, Casnewydd neu Abertawe.


Tynnu coes, eithafiaeth, yw fy ngalw am draffordd rhwng y de a'r gogledd, roeddwn yn credu bod hynny yn amlwg yn fy mhyst. Ond mae gwir angen gwell cysylltiadau mewnol yng Nghymru

Y prif reswm pam fy mod i'n teithio o'r Gogledd i'r de'r dyddiau hyn, yn anffodus, yw er mwyn cynhebrwngu perthnasau i amlosgfa Trefforest, ac mae'n daith arteithol, hyd yn oed yn y car, oherwydd bod y ffordd yn gac.

Bydda Video Link i'r amlosgfa dim cweit yr un peth, bydda gael y Cynulliad i symud o Gaerdydd i Wrecsam pob hyn a hyn yn gwneud dim gwahaniaeth, ac rwy'n methu gweld Arriva yn trefnu gwasanaeth bws cyfleus o Lan Conwy i Drefforest (heb son am reilffordd) rhywsut.

Nid anghenion gwleidyddol yw anghenion cysylltiadau, ond rhai personol. Sut bod modd imi deithio yn rhwydd i weld Mam yn Nolgellau neu anti Meri yn Aberystwyth? Yw'r cwestiwn. Nid be sy'n gyfleus i Ieuan, Ffred, Gareth a Darren?

Yn anffodus ateb poblem Ieuan, Ffred, Gareth a Darren, yw ymateb y Cynulliad parthed cysylltadau mewnol pob tro, nid ateb fy mhrolem i!
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Rheilffordd de-gogledd

Postiogan Nanog » Sul 01 Meh 2008 7:36 pm

Mewn 6 blynedd.....Olew wedi codi o $12 hyd tua $130 y barel. Ydy cyflogau pobl ar y maes wedi codi 1000%? Mae'r defnydd o olew yn cynnyddu'n flynyddol. Mi fydd rhaid i bobl newid eu ffordd o fyw. Mi fydd hyn yn bwrw'r ardaloedd gwledig cymaint os nag yn fwy na neb. Mae Cymru i raddau mawr yn wledig. Gobeithio fod ein gwleidyddion yn talu sylw. Nid yw pawb yn byw yng Nghaerdydd nac yn agos i un o orsafoedd y 'Valley lines'.
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Rheilffordd de-gogledd

Postiogan Nanog » Llun 02 Meh 2008 5:40 pm

Nanog a ddywedodd: Gobeithio fod ein gwleidyddion yn talu sylw. Nid yw pawb yn byw yng Nghaerdydd nac yn agos i un o orsafoedd y 'Valley lines'.


Mae'n amlwg for Ieuan heb ddarllen yr edefyn hyn eto.

"Cafodd cynlluniau £52 miliwn i wella rhwydwaith rheilffyrdd yn ne Cymru eu cyhoeddi."

.........................................

"Mae'r £30 miliwn ar gyfer Caerdydd a'r Cymoedd a £200 miliwn Network Rail ar gyfer signalau newydd yn ardal y brifddinas. "

http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_7 ... 431838.stm
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Rheilffordd de-gogledd

Postiogan mabon-gwent » Llun 02 Meh 2008 9:36 pm

Nanog a ddywedodd:
Nanog a ddywedodd: Gobeithio fod ein gwleidyddion yn talu sylw. Nid yw pawb yn byw yng Nghaerdydd nac yn agos i un o orsafoedd y 'Valley lines'.


Mae'n amlwg for Ieuan heb ddarllen yr edefyn hyn eto.

"Cafodd cynlluniau £52 miliwn i wella rhwydwaith rheilffyrdd yn ne Cymru eu cyhoeddi."

.........................................

"Mae'r £30 miliwn ar gyfer Caerdydd a'r Cymoedd a £200 miliwn Network Rail ar gyfer signalau newydd yn ardal y brifddinas. "

http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_7 ... 431838.stm


Does dim rhaid i ni cael mwy yn y de, maen nhw'n adeiladu ffordd newydd dros y cymoedd o'r Fenni ac heb os mae'r M4 da ni. Mae'r M4 hefyd yn mynd syth i Llundain ac mae'n llawer mwy gyflym mynd i'r dwyrain i Lloegr na mynd i ogledd ein Gwlad. Dwy a hanner awr o'r Fenni i'r Drenewydd drwy Gymru mewn car, lot mwy mewn trên, ac ti'n mynd rown y houses.

Darllenais i gerdd rhai amser yn ôl am y dau ffordd yn mynd drwy'r de a'r gogledd, cysylltu ni â Lloegr ac nid gyda'n gilydd. Byddai'n eitha neis gweld Llywodraeth "Cymru'n Un" wna'r gwahaniaeth, ond dyna ni.
Rhithffurf defnyddiwr
mabon-gwent
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2008 4:00 am

Re: Rheilffordd de-gogledd

Postiogan Nanog » Mer 04 Meh 2008 7:52 pm

Dwi'n gwybod fy mod i'n arall-gyfeirio rhywfaint o bwnc yr edefyn sef 'rheilffordd de-gogledd' ac yn dadlau dros fwy neu lai rhwydwaith o linellau ar draws Cymru lled nad oes dim yn bodoli yn awr. Mi fydd y rhain yn help i'r cymunedau mwy gwledig i oroesi a ffynnu yn y dyfodol sy'n debygol iawn o fod yn galetach na'r rhai blaenorol.

Mae'r asesiad yma yn diddorol ac yn codi ofn 'fyd:


Outlook for Long Dated Oil

$500 oil in 2015? Am I crazy? Well, I’m not predicting an exact price of oil in 2015, but there is evidence that makes $500 per barrel a possibility. It includes

The mega-projects work of analyst Chris Skrebowski and others that suggest a drought of new oil fields coming on stream after 2010 and a dramatic fall off in 2014. (Yes I know about Brazil’s Tupi field and it will be wonderful…by 2020.)
Charlie Maxwell’s prediction that crude oil production will peak around 2012.
The increasing cost of recovery of new oil projects that are coming on stream, such as oil sands or fields that are miles deep and many miles offshore or the Caspian Sea with its killer winter conditions that have helped to put that project far behind schedule
The hundreds of millions of poor young people in China, India, the Far and Middle East, Russia, and Mexico who are striving for the economic benefits so common in OECD countries where per capita oil use is many multiples of the global average.
What would $500 oil do to stock prices? It would presage extreme stagflation, the economic scourge of the 1970s. In such a world, stock prices could crash on a 1929 scale. We would probably see rationing in the U.S., economic weakness that would rival or exceed the 30s, possibly military adventurism, and, needless to say, an awful lot of human suffering. The thing to remember is that $500 oil means less oil available to the world and that means less economic activity, a world without growth. We live with the assumption of perpetual growth. So what $500 oil means is a different world........................................In sum, the price of oil in 2015 will have to be sufficiently high to destroy about 12 mb/d of demand. Before looking at what price will be required to destroy that much demand, let’s think about where the demand destruction will occur. The moderately affluent and wealthy will not be priced out of the market because oil costs are a small part of their total expenditures. Also, it will not happen in the countries that export oil, although they are responsible for about 35% of the global growth in oil demand. Those countries, many of which already subsidize their domestic oil prices, will make sure their local populations have all the oil they need. So the demand destruction will first occur among the poorer people around the world in both rich and poor countries. Let’s say they account for about 5 mb/d of demand. The other 7 mb/d will have to come out of the upwardly mobile part of the population of developing countries like China, India and other non-oil-exporting developing countries – in other words, it will come out of the global economic growth rate.

I do not know – and nobody else knows either – what price of crude oil will be needed to destroy 7 mb/d of demand in the dynamic parts of the developing countries of the world. Clearly $100 has had little impact. $200 would have more. $300 would seem to possibly have a lot of impact. Is $500 too high or not high enough? That is not at all clear. It sounds like a lot of money now, but remember that it occurs in seven years, which is a lot of time for the world to become used to much higher oil prices. After all, $100 per barrel is a lot less scary to us now than it would have been five years ago when oil was $25 per barrel.



Linc

Un peth sy'n sicr.....a hynny yw na fod yna unrhyw sicrwydd........ond wedi dweud hynny, gobeithio fod ein gwleidyddion yn dechrau paratoi nid yn unig ar gyfer Cwpan Ryder ac felly'n gwella'r gorsaf yng Nhasnewydd, ond hefyd am amser pryd fydd hi'n debygol y bydd prisiau olew llawer yn uwch nag yw nhw yn awr. Mi fydd gwella trafnidiaeth gyhoeddus fel ail-osod rheilffyrdd yn mynd yn bell tuag at gwneud hyn.
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Rheilffordd de-gogledd

Postiogan Nanog » Maw 30 Rhag 2008 8:47 pm

Erthygl diddorol:

Dr Beeching turned the country I have come to love into an outpost of empire. The Welsh rail map is a classic indicator of an extractive economy, with lines extended towards London and the ports


http://www.guardian.co.uk/commentisfree ... and-debate



Map o rheilffyrdd Cymru ar y funud:

Delwedd


http://www.systemed.plus.com/New_Adlest ... _Atlas.pdf - Fel yr oedd hi'n arfer bod cyn Beeching.

Diolch i Flog Vaughan Roderick am dynnu sylw at erthygl Monbiot.
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron