Hen Rech Flin a ddywedodd:S.W. a ddywedodd:Sori wrach bod yr A470 yn bwysig i'r ychydig bobl sy'n byw yn agos ati, ond bydde trwch poblogaeth Gogledd Cymru byth yn breuddwydio dreifio lawr yr A470 i gyrraedd Caerdydd, nid oherwydd ei fod yn ffordd wael ond gan ei fod ddim yn hwylus. I ni yn y Googledd Ddwyrain y fordd hawsaf ydy i fynd i Wrecsam a lawr y ffin drwy Llwydlo ayyb.
Rwy'n byw o fewn lled poeriad i'r A470, er hynny o fynd i Gaerdydd yn y car, byddwyf yn mynd i lawr trwy swyddi'r Amwythig a Henffordd gan fod y ffordd trwy Loegr yn well. Dyna bwynt fy nghwyn bod teithio yn fewnol yng Nghymru yn anobeithiol. A gan fod pobl y Bae yn credu mai Caerdydd yw'r unig le yng Nghymru bydda rywun o'r gogledd yn dymuno mynd iddi, maent yn ddigon hapus i weld pob cysylltiad de/gogledd yn mynd trwy Loegr.
Dwi ddim yn hunanol parthed yr A470, bydda draffordd yn lle'r A487 yn gwneud tro yn iawn.
Ond di hynny ddim yn ymateb i fy mhwynt i.
Dydy'r A470 ddim mor bwyusig a mae pobl yn awgrymu. Yn sicr nid traffordd yn ei le yw'r ateb - a nid mewnfudwr gwyrdd honedig sy'n siarad yma. Mae angen gwella'r A470 wrth reswm ond mae angen newid mwy na dim ond hynny. Byddai'n llawer gwell a siwr braidd haws i newid ein ffordd o weithredu fel cenedl - cael y Cynulliad i gwrdd yn llawn tu allan i Gymru fel y mae'r Undeb Ewropeaidd yn ei wneud (am rwan) rhwng Brwsel a Strasbwrg, gwella ein defnydd o dechnoleg modern felly bod llai o angen deithio i'r dinasoedd yn y de o ran gwaith, gwella system drafniadiaeth cyhoeddus fel y trenau felly bod hi'n llawer haws a chynt i neidio ar dren yng Nghaergybi, Llandudno, Rhyl neu Wrecsam i fynd i Gaerdydd, Casnewydd neu Abertawe.