Cwrddas i lan gyda fffind fi Rob pwy ddywrnod ac odd yffach o 'cob' arno. 'Co fe'n gwed wrtho i wedyn bo fa wedi bod yn dadlau 'ta'r arseholes 'ma odd yn lladd ar y Gymraeg - chi'n gwpod y teip o beth; tafodiaith Sysneg yw'r Gymraeg, sdim gair yn yr iaith am 'hoover' a bod y bobol ond yn ei siarad hi pan ddaw Sais i'r dafarn leol.
Athro yw Rob ac ma'n lico dadla nol , ond er hynny 'odd y dwli wetson nhw yn ei frifo fe. Dysgas i flynydda nol gin ryw ferch o Faesteg taw'r peth gora odd eu hanwybyddu - fi fan hyn ac rwyt titha fanna; felly ca dy geg, am bo fi ddim yn mynd i wastraffu fy amser wrth siarad a thi a dy fath. Bach yn gryf o bosib ond wi'n credu odd hi yn llygad ei lle a gwed y gwir - ma anwybyddu'r ffycars yn really pisho nhw off.
Walla bo fi ar fai ond pwy gyngor nelach chi roi i Rob?