Pol diweddara ar ddatganoli

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pol diweddara ar ddatganoli

Postiogan barack » Mer 28 Mai 2008 8:45 am

barack
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Mer 28 Mai 2008 8:35 am

Re: Pol diweddara ar ddatganoli

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 28 Mai 2008 10:16 am

Un o'r ffigyrau mwyaf diddorol o'r ymchwil, yn fy marn i, ydi mai 25% o'r bobl sy'n cefnogi'r Blaid sydd o blaid annibynniaeth (a dwi'n siwr bod yr ymchwil wedi'i chynnal yn 'wyddonol'). Dydi'r sampl ddim yn ddigon mawr a dweud y gwir, wrth gwrs, ond mae'n gwneud darllen diddorol.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Pol diweddara ar ddatganoli

Postiogan Ray Diota » Mer 28 Mai 2008 10:37 am

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Un o'r ffigyrau mwyaf diddorol o'r ymchwil, yn fy marn i, ydi mai 25% o'r bobl sy'n cefnogi'r Blaid sydd o blaid annibynniaeth (a dwi'n siwr bod yr ymchwil wedi'i chynnal yn 'wyddonol'). Dydi'r sampl ddim yn ddigon mawr a dweud y gwir, wrth gwrs, ond mae'n gwneud darllen diddorol.


Wel, sai'n gweld hynna'n gymain o syndod, wir... ma'r ddau opsiwn arall yn llawer mwy diriaethol na 'annibynniaeth' ondyn nhw? Fydden i'n gweud bo lot o'r rheiny sydd yn y grwp 'senedd' yn gefnogol o annibynniaeth ond eu bod nhw'n deall yn well beth yw 'senedd', ac yn gweld hwnnw fel y cam nesa'...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Pol diweddara ar ddatganoli

Postiogan barack » Mer 28 Mai 2008 10:46 am

Pam ma fe yn dod ir crunch i cefnogwyr Plaid, rhaid gofyn odi lot neu (or pol hwn) y ran fwya am fod yn annibynol a torri i ffwrdd o Brydain?

Y cwestiwn arall yw , a odi arweinwyr Plaid - fel IWJones, D Wigley, Dafydd El, Elfyn Llwyd, yn rili credu mewn annibyniaeth????? Synnw ni ddim , deep down nag yw nhw. Am weld Cymru cryfach ie, ond dim annibyniaeth.

Rhaid dweud, mae yn uffarn o risg mawr i Gymru fod yn annibynol. Tasa na refferndem fory, be bydd y canlyniad? 80/90% yn erbyn? Rhaid i'r pro-annibynwyr fod yn realistig - its not gonna happen guys!
barack
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Mer 28 Mai 2008 8:35 am

Re: Pol diweddara ar ddatganoli

Postiogan Ray Diota » Mer 28 Mai 2008 10:51 am

barack a ddywedodd:Pam ma fe yn dod ir crunch i cefnogwyr Plaid, rhaid gofyn odi lot neu (or pol hwn) y ran fwya am fod yn annibynol a torri i ffwrdd o Brydain?

Y cwestiwn arall yw , a odi arweinwyr Plaid - fel IWJones, D Wigley, Dafydd El, Elfyn Llwyd, yn rili credu mewn annibyniaeth????? Synnw ni ddim , deep down nag yw nhw. Am weld Cymru cryfach ie, ond dim annibyniaeth.

Rhaid dweud, mae yn uffarn o risg mawr i Gymru fod yn annibynol. Tasa na refferndem fory, be bydd y canlyniad? 80/90% yn erbyn? Rhaid i'r pro-annibynwyr fod yn realistig - its not gonna happen guys!


Wel, 'na'r peth - dwi'n cyfri fy hun fel cefnogwr brwd o annibyniaeth ond nid dy syniad hen-ffasiwn, cyfyngedig di o annibynniaeth, falle... hynny yw Cymru gryfach yw annibynniaeth, ma siarad am dorri ffwrdd o Brydain, fel se ni am hwylio Cymru fach lawr i'r Carribî yn hurt...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Pol diweddara ar ddatganoli

Postiogan barack » Mer 28 Mai 2008 11:20 am

Be real Raydiota! No offence, ond ma hyd yn oed da synaid di o annibyniaeth yn farn lleiafrifol...Dyw Cymru ddim am annibyniaeth, na'r gwirionedd.!!!! Dream on!!!!.. Ma hyd yn oed rhai pobl yn Plaid Cymru ddim am weld hi.!!!!..
barack
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Mer 28 Mai 2008 8:35 am

Re: Pol diweddara ar ddatganoli

Postiogan Macsen » Mer 28 Mai 2008 11:36 am

Sori Ray Diota, mae Barack yn amlwg yn gywir am ei fod o'n gosod amryfal ebychnodau ar ôl popeth mae'n ei ddweud.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Pol diweddara ar ddatganoli

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 28 Mai 2008 11:56 am

Ray Diota a ddywedodd:
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Un o'r ffigyrau mwyaf diddorol o'r ymchwil, yn fy marn i, ydi mai 25% o'r bobl sy'n cefnogi'r Blaid sydd o blaid annibynniaeth (a dwi'n siwr bod yr ymchwil wedi'i chynnal yn 'wyddonol'). Dydi'r sampl ddim yn ddigon mawr a dweud y gwir, wrth gwrs, ond mae'n gwneud darllen diddorol.


Wel, sai'n gweld hynna'n gymain o syndod, wir... ma'r ddau opsiwn arall yn llawer mwy diriaethol na 'annibynniaeth' ondyn nhw? Fydden i'n gweud bo lot o'r rheiny sydd yn y grwp 'senedd' yn gefnogol o annibynniaeth ond eu bod nhw'n deall yn well beth yw 'senedd', ac yn gweld hwnnw fel y cam nesa'...



Dwi'n dueddol o anghytuno: mae grymoedd a phwerau senedd ansofran, yn ddeddfwriaethol neu'n ariannol, yn gallu bod yn gymysg and yn anwastad, a grymoedd y senedd honno wedi'u pennu gan y llywodraeth sofran ei hun (sef Llundain yn anffodus), felly'n bersonol mae'r syniad o Gymru annibynnol sofran yn llawer cadarnhach i mi (ond fy marn i ydi hynny, wrth gwrs).

barack a ddywedodd:Y cwestiwn arall yw , a odi arweinwyr Plaid - fel IWJones, D Wigley, Dafydd El, Elfyn Llwyd, yn rili credu mewn annibyniaeth????? Synnw ni ddim , deep down nag yw nhw. Am weld Cymru cryfach ie, ond dim annibyniaeth


O'r rhai ti wedi enwi, dw i'm yn meddwl bod yr un ohonynt wir yn credu mewn annibynniaeth (sef, dywedwn ni er symlder, sefyllfa gyfansoddiadol fel Iwerddon), ond ar y llaw arall mae 'na ffigurau amlwg yn y Blaid, fel Elin Jones neu Adam Price, yn amlwg o'i phlaid.

Er mae dweud ei fod o ddim am ddigwydd yn lol, mae'n gwbl anochel, yn enwedig pan aiff yr Alban ei ffordd ei hun. Byddai neb wedi dweud 10 mlynedd yn ôl y byddai Montenegro yn annibynnol degawd yn ddiweddarach, ond wele dyma hi rwan yn wlad sofran. 'Sgen i ddim math o amheuaeth mai dyma fydd ffawd Cymru hefyd.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Pol diweddara ar ddatganoli

Postiogan Kez » Mer 28 Mai 2008 12:16 pm

barack a ddywedodd:Be real Raydiota! No offence, ond ma hyd yn oed da synaid di o annibyniaeth yn farn lleiafrifol...Dyw Cymru ddim am annibyniaeth, na'r gwirionedd.!!!! Dream on!!!!.. Ma hyd yn oed rhai pobl yn Plaid Cymru ddim am weld hi.!!!!..


Pych - lle mae menter pobol - some people wir yr!!

Hang on, I feel a song coming on :winc:

Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Pol diweddara ar ddatganoli

Postiogan garynysmon » Mer 28 Mai 2008 12:25 pm

Mae pob ymerodraeth wedi dod i ben yn y pendraw. Ymerodraeth ydi Prydain ac yn amlwg mae ar groesffordd. Mynd yn ffedral, neu ceisio cadw pethau fel mae nhw. Mae'n anochel bydd yn torri i fynnu rhywbryd, mae'n mater o bryd fydd hyn yn digwydd mwy na dim.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Nesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai