Hogyn o Rachub a ddywedodd:
Mae cenedlaetholdeb pob cenedl yn wahanol; sefydlwyd un y Natsïaid ar hil, mae cenedlaetholdeb Arabaidd yn aml iawn yn ymwneud â chrefydd, yn aml diwylliant yw'r prif ffactor mewn cenedlaetholdeb Cymreig a Cheltaidd, ond nid yn hollol. Cymer amser i edrych ar genedlaetholdeb Cymreig, ei astudio a'i ddeall, a buan iawn y gwnei di sylweddoli nad oes elfen o hiliaeth yn perthyn iddi. Dweud beth y mynni, ond mae'n eithaf amlwg nad wyt yn gwybod llawer am genedlaetholdeb Cymreig mae arna' i ofn.
O ran yr economi, dyma her, heblaw am Zimbabwe (a ddim ymhob agwedd chwaith) faint o hen wledydd Ymerodraeth Prydain sy'n waeth ar ôl annibynniaeth? Wyt ti'n gallu meddwl am un? Dwi ddim. Ac rydym ni'n sôn am wledydd sydd hyd yn oed yn waeth eu stân na Chymru fan hyn. Beth am wladwriaethau newydd y byd, pa rai ohonynt sydd wedi troi'n disaster zone?
Wyt ti erioed wedi ystyried bod Cymru yn wlad dlawd oherwydd ei bod yn cael ei rheoli o Lundain a chan senedd sy'n rhoi buddiannau economaidd de-ddwyrain Lloegr cyn Cymru?
Cheek! Mae gen i hawl i fy marn, a rwyn gwbod mwy na be ti feddwl!!! Trio dweud wrtha i te pam mae gen i rhai ffrinidau sydd gen i sydd ddim yn siarad Cymraeg ac eto yn cael ei cyhuddo o fod yn 'english bastard' etc etc...mae rhain no doubt yn cenedlaetholwyr. Efallai di fod di ddim yn meddwl fel'na, ond mae pobl eraill yn. Mae yna ochr salw i POB ran cenedlaetholdeb - dyna pam mae pobl yn ofnus amdano fe. Mae yn wir, a mae yn rhaid i chi trio newid yr image yna, os da chi am mwy o votes.
O ran De Lloegr, ie roedd hynn yn wir yn yr 80au pan oedd Magi Thatcher yn rheoli...ond dim nawr. Mae gennym Cynulliad nawr, nhw sydd yn rhedeg y sioe nawr - a ddim yn neud job ffantastig o bell ffordd!!!Mwy o pwerau maent eisiau? Ffein! ond stopiwch beio Lloegr wedyn os ma pethe yn mynd yn rong. Mae rhaid i Gymru stopio hyn a get on with it, a datrys problemau y wlad yn lle beio a beio trwy'r amser. Oce falle roedd Lloegr wedi trin Cymru yn wael yn y gorffennol, ond y gorffennol yw hynny, amser hir iawn yn ol . Mae lot yn licio chware y victim role yn Nghymru, a rhoi'r argraff mae Cymru yw'r unig lle sydd yn diodde yn y byd,rhaid stopio hyn, os mae Cymru i lwyddo.