barack a ddywedodd:Son ydw i am profiadau pobl. Dim mater o deall cenedlaetholdeb yw e. Rwyf yn son son am ffeithiau, incidents ble mae pobl wedi cael profiad gwael gan cenedlaetholwyr. Galle di ddim denaio hwn - mae yn digwydd. Be, wyt ti yn meddwl bod y bobl ma yn dweud, celwydd? Be ti yn dweud ir bobl yma, eh?
Gallet ti mynd ymlaen am y "pobl yma" mor gymaint ag wyt ti eisiau ond nid ffaith yw hi just oherwydd dy fod di yn dweud hynny! Tystiolaeth annecdotal ar y gorau!
barack a ddywedodd:O ran yr ysgol fomio - wel mae yn wir. Gallai bois ifanc di marw achos actions Saunders Lewis. Dim celwydd yw hwn. Ond gwir.
Sneb yn amau gallai pobl fod wedi marw. Ond eto gallai pobl fod wedi marw yn y Pol tax riots... nid wyt ti'n profi unrhywbeth wrth dadlau "what ifs" a beth gallai fod wedi digwydd.
barack a ddywedodd:Roedd ein gwlad ar byd yn gwynebu bygythiad Hitler, ond roedd Saunders Lewis wedi gwrthod cefnogi ein rhyfel. Roedd gan Plaid Cymru polisi swyddogol o 'dim barn'.
Ac felly beth oedd polisi Neville Chaimberlain o amgylch adeg helynt y Sudettenland? Neu ail feddianu'r Rheindir? Neu ailarfogi? Dere mlaen, roedd Plaid Cymru yn Gwrth rhyfel nid Pro Nazi! Mi wyt ti'n swnio fel George Bush yn fan hyn "If you're not with us then you're against us"
barack a ddywedodd:Rydw i dal yn dweud bod yna elfen salw i pob math o cenedlaetholdeb, a gall neb wadu bod yna elfen o hiliaeth gwrth-seisniig yn perthyn i llawer o pbol sydd yn cefnogi annibyniaeth. Gwir, gallwch chi ddim denaio hwnna
Mae yna elfen salw i sosialeth, ceidwadaeth a rhyddfrydiaeth hefyd. Ac mi allai "denaio" dy osodiad di gan ei fod yn osodiad oddrychol.