Dylan a ddywedodd:dw i'n cytuno bod ymweliad i'r Eisteddfod braidd yn ddrud eisoes i deulu cyffredin. Ond fedra i weld y ddadl dros godi tâl am barcio. Wedi'r cyfan, petai'r gair yn lledaenu bod parcio am ddim i'w gael yng Nghaerdydd, gallwch fetio mai nid Eisteddfotwyr yn unig fyddai'n trio manteisio ar hynny. Byddai'n draed moch llwyr.
UN ateb byddai wrth barcio, rhaid prynu tocyn mynediad. Bydd y parcio wedyn am ddim i'r sawl sy'n mynychu'r maes. Os bydd rhai yn ceisio manteisio ar le i barcio am y dydd, yna bydd yr Eisteddfod wedi gwerthu tocyn(nau) ychwanegol.