Newydd weld bod angen talu £5 y dydd neu £4.50 y dydd ymlaen llaw i ddefnyddio system parcio a theithio Steddfod Caerdydd.
Ar yr olwg gyntaf wnaeth hyn fy nharo i fel ymgais arall i wneud arian gan y Steddfod ar draul ei chefnogwyr - o dan gochl bod yn wyrdd.
Ond erbyn hyn, dw i ddim mor siwr - pam ddylai pobl sy'n dod ar fysys neu'n aros yn y Steddfod dalu am wasanaeth nad ydyn nhw'n ei ddefnyddio?
Ac os ydych chi'n dod yn 5 mewn car am y dydd, dim ond £1 yr un yw e.
Ond wedyn, os wyt ti'n gorfod dod mewn car ar dy ben dy hunan, mae'n neud y pris mynediad yn ddrud iawn.