Pobl Cymraeg sy'n newid eu henwau i rywbeth 'mwy Cymraeg'

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pobl Cymraeg sy'n newid eu henwau i rywbeth 'mwy Cymraeg'

Postiogan Chickenfoot » Sad 07 Meh 2008 11:26 am

Kez a ddywedodd:Odd boi gyda fi yn yr ysgol a'i enw fe odd Jeremy Snotgrass ac fi'n ffili'n lan a deall pam nag odd e wedi newid ei ffycin enw - ond dewis yr unigolyn yw hi yn y diwedd.


Efalla gan fod ganddo enw freakin' lejynderi?
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Pobl Cymraeg sy'n newid eu henwau i rywbeth 'mwy Cymraeg'

Postiogan Mr Gasyth » Sul 08 Meh 2008 9:50 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Union yr un peth gyda fy nheulu i. Lleucu Meinir, Carys Rhian, Angharad Clwyd, Hedd Gwynfor, Gwenno Teifi, Siriol Teifi, Ioan Teifi (wnaeth fy rhieni redeg allan o enwau erbyn y diwedd! :winc: ) dim Ffransis na Francis yn unman.


Dwi'n siwr i ti gael dy alw yn Hed Gwynfor Ffransis wrth i ti briodi naddo ddim? Ac roedd post yn dod i gyn-gartref dy chwaer i Angharad Clwyd Ffransis hefyd. Pam felly?

Dwi'n gwbod am gwpl o enghreifftiau tebyg i Dylan, gyda un enghraifft ble mae gan y fam, y tad, y frawd a'r chwaer i gyd gyfenwau cwbl wahanol!
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Pobl Cymraeg sy'n newid eu henwau i rywbeth 'mwy Cymraeg'

Postiogan sian » Sul 08 Meh 2008 11:40 am

Mr Gasyth a ddywedodd:Dwi'n gwbod am gwpl o enghreifftiau tebyg i Dylan, gyda un enghraifft ble mae gan y fam, y tad, y frawd a'r chwaer i gyd gyfenwau cwbl wahanol!


Busnes ddrud i ailgyfeirio'r post os ydyn nhw'n symud ty - mae eisiau talu am bob cyfenw ar ôl cyfnod rhyw gyfnod.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Pobl Cymraeg sy'n newid eu henwau i rywbeth 'mwy Cymraeg'

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 08 Meh 2008 11:35 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Union yr un peth gyda fy nheulu i. Lleucu Meinir, Carys Rhian, Angharad Clwyd, Hedd Gwynfor, Gwenno Teifi, Siriol Teifi, Ioan Teifi (wnaeth fy rhieni redeg allan o enwau erbyn y diwedd! :winc: ) dim Ffransis na Francis yn unman.


Dwi'n siwr i ti gael dy alw yn Hed Gwynfor Ffransis wrth i ti briodi naddo ddim? Ac roedd post yn dod i gyn-gartref dy chwaer i Angharad Clwyd Ffransis hefyd. Pam felly?

Dwi'n gwbod am gwpl o enghreifftiau tebyg i Dylan, gyda un enghraifft ble mae gan y fam, y tad, y frawd a'r chwaer i gyd gyfenwau cwbl wahanol!


Oce, mae'n uffach o gymhleth ond, nid oedd Ffransis i fod ar Dystysgrif Geni Lleucu, Carys, Angharad a fi, ond nid oedd tystysgrif o gwbwl gyda fi tan fy mod yn 7 oed (Lleucu yn 12) gan bod fy rhieni wedi gwrthod llenwi un mewn protest am rywbeth neu'i gilydd. Roedd y teulu am fynd ar wylie ym 1987 ac roedd rhaid cael passport, ond nid oedd modd cael passport heb dystysgrif geni, felly archebwyd dystysgrifau geni y 4 ohonom gan roi'r enwau Lleucu Meinir, Angharad Clwyd, Carys Rhian a Hedd Gwynfor, ond daeth rhain nôl gyda Ffransis ar y diwedd (er nad oedd fy rhieni wedi nodi Ffransis ar y ffurflen)! Felly er fod Ffransis ar dystysgrif geni y 4 hena, camgymeriad oedd hyn, ond nid oedd modd eu newid mewn amser neu bysen ni wedi colli'r gwylie!! Does dim Ffransis ar dystysgrifau Geni Gwenno Siriol a Ioan, a does dim Ffransis i fod ar ein tystysgrif geni ni chwaeth, a ni heb ddefnyddio'r cyfenw erioed :? Roedd rhaid i mi briodi fel ffransis gan mai dyma oedd ar y tystysgrif geni, ond wedi newid fy enw yn swyddogol yn ôl i Gwynfor yn unig wedi priodi, ac mae fy ngwraig yn defnyddio Gwynfor hefyd fel cyfenw erbyn hyn (er mod i wedi ei hannog i gadw ei chyfenw hi!)
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Pobl Cymraeg sy'n newid eu henwau i rywbeth 'mwy Cymraeg'

Postiogan Gari Mynach » Llun 09 Meh 2008 10:47 pm

Dwi'n adnabod rywun wnaeth newid ei henw o Sophie i Soffi. Dwi'n eitha hoffi o. Fyswn i byth yn newid fy enw i ond dwi'n eitha lwcus fod gen i enw reit Gymraeg. Enw ydi enw a dewis Mam a Dad oedd o a dwi am barchu eu dewis :lol:
Gari Mynach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 30
Ymunwyd: Gwe 21 Maw 2008 9:21 pm

Re: Pobl Cymraeg sy'n newid eu henwau i rywbeth 'mwy Cymraeg'

Postiogan LLewMawr » Llun 30 Meh 2008 11:50 pm

cyfenw fi yw John

mae hwnna yn naillai dod o ap Sion neu ap Ioan

enw fy nhad i yw Malcolm felly sdim pwynt newid e, ond ambell waith ry ni'n galw e yn Maldwyn am jôc .
...pleidiol wyf i'm gwlad...
Rhithffurf defnyddiwr
LLewMawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 88
Ymunwyd: Maw 08 Ebr 2008 10:47 am
Lleoliad: Penybont, De Cymru

Re: Pobl Cymraeg sy'n newid eu henwau i rywbeth 'mwy Cymraeg'

Postiogan 7ennyn » Maw 01 Gor 2008 8:06 pm

Chickenfoot a ddywedodd:Fedra i'm diodda Jen chwaith. Sian neu Jane - dewisiwch un.
Lot o enwau merched sydd yn cael eu hystyried yn enwau Cymraeg 'da' yn enwau Ffrengig/Normanaidd wedi cael eu Cymreigio. e.e. Sian, Sioned, Luned, Siwan, Elin... Dyddio'n ol i'r amser pan oedd hi'n ffasiynol cael gwraig o dras Normanaidd er mwyn dod ymlaen yn y byd.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Nôl

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai