Kez a ddywedodd:Odd boi gyda fi yn yr ysgol a'i enw fe odd Jeremy Snotgrass ac fi'n ffili'n lan a deall pam nag odd e wedi newid ei ffycin enw - ond dewis yr unigolyn yw hi yn y diwedd.
Efalla gan fod ganddo enw freakin' lejynderi?
Cymedrolwr: Mr Gasyth
Kez a ddywedodd:Odd boi gyda fi yn yr ysgol a'i enw fe odd Jeremy Snotgrass ac fi'n ffili'n lan a deall pam nag odd e wedi newid ei ffycin enw - ond dewis yr unigolyn yw hi yn y diwedd.
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Union yr un peth gyda fy nheulu i. Lleucu Meinir, Carys Rhian, Angharad Clwyd, Hedd Gwynfor, Gwenno Teifi, Siriol Teifi, Ioan Teifi (wnaeth fy rhieni redeg allan o enwau erbyn y diwedd! ) dim Ffransis na Francis yn unman.
Mr Gasyth a ddywedodd:Dwi'n gwbod am gwpl o enghreifftiau tebyg i Dylan, gyda un enghraifft ble mae gan y fam, y tad, y frawd a'r chwaer i gyd gyfenwau cwbl wahanol!
Mr Gasyth a ddywedodd:Hedd Gwynfor a ddywedodd:Union yr un peth gyda fy nheulu i. Lleucu Meinir, Carys Rhian, Angharad Clwyd, Hedd Gwynfor, Gwenno Teifi, Siriol Teifi, Ioan Teifi (wnaeth fy rhieni redeg allan o enwau erbyn y diwedd! ) dim Ffransis na Francis yn unman.
Dwi'n siwr i ti gael dy alw yn Hed Gwynfor Ffransis wrth i ti briodi naddo ddim? Ac roedd post yn dod i gyn-gartref dy chwaer i Angharad Clwyd Ffransis hefyd. Pam felly?
Dwi'n gwbod am gwpl o enghreifftiau tebyg i Dylan, gyda un enghraifft ble mae gan y fam, y tad, y frawd a'r chwaer i gyd gyfenwau cwbl wahanol!
Lot o enwau merched sydd yn cael eu hystyried yn enwau Cymraeg 'da' yn enwau Ffrengig/Normanaidd wedi cael eu Cymreigio. e.e. Sian, Sioned, Luned, Siwan, Elin... Dyddio'n ol i'r amser pan oedd hi'n ffasiynol cael gwraig o dras Normanaidd er mwyn dod ymlaen yn y byd.Chickenfoot a ddywedodd:Fedra i'm diodda Jen chwaith. Sian neu Jane - dewisiwch un.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai