Macsen a ddywedodd:Na, jesd disgwyl di tan bod Charles yn frenin a Camilla'n frenhines a gweld pa mor hir mae cariad pobol tuag at y teulu brenhinol yn para.
Nonsans llwyr. Lle mae Philip the Lip yn y popularity stakes? Mae cymaint o sgandals brenhinol wedi bod, a'u poblogeiddrwydd yn mynd i lawr, ond mae nhw wastad yn bownsio'n nôl, gyda help y wasg a'r cyfryngau. Ar un adeg doedd fiw i Charles gael ei weld yn gyhoeddus efo Camilla. Rwan mae wedi ei phriodi. Ar un adeg roedd Harri'n drunken nazi yob. Rwan mae'n arwr rhyfel. ayb, ayb ad nauseam
Y wladwriaeth sy'n lliwio'r farn gyhoeddus, Macsen, a dyna un o hanfodion ein gwahaniaeth barn yn yr edefyn yma. Waeth pa mor boblogaidd neu amhoblogaidd ydyn nhw, ti'n meddwl aiff y Roials i ffwrdd? Ti'n meddwl wnaiff y wladwriaeth adael iddyn nhw fynd i ffwrdd? Mae nhw'n asset rhy werthfawr o ran eu rôl i gynnal Prydeindod (sydd yn ei dro yn cynnal y wladwriaeth). Tra pery Prydain, pery'r teulu brenhinol, doed a ddel.
Ac yn y cyfamser? Be sy'n digwydd i hunaniaeth cenedlaethol Cymreig - sydd eisoes dan bwysau enbyd yn ddemograffyddol, cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol? Tra ti'n 'anwybyddu' y prosesau hynny sy'n rheoli ein ffawd?
Eniwe, Macsen, dwi wedi deud hyn o'r blaen, ond ti ddim i weld yn darllen gan dy fod mor brysur yn tyllu dy ffordd allan o dwll, ond dio ddim bwys faint mor amherthnasol ydi'r frenhiniaeth ym mywyadau pobl gyffredin, y ffaith yw mai pypets y wladwriaeth ydyn nhw, sy'n cael eu defnyddio - er diddordeb y wladwriaeth - i fanipiwleiddio'r farn gyhoeddus a hybu cenedlaetholdeb Prydeinig. Mae'r pwynt yma yn gwneud dy bwynt di am eu 'amherthnasedd' - a dy alwad am anwybyddu a gadael iddyn nhw farw'n araf - yn obselete. Non-point. Gei di anwybddu hyn a mynd mlaen a mlaen fel tiwn gron, ond wnaiff dim byd newid y ffaith hynny.
Dwi'n meddwl hefyd fod gen ti olwg aeddfed iawn ar genedlaetholdeb, ond overview anaeddfed iawn ohono, ac o ran lle mae Cymru'n sefyll fel cenedl heddiw. Petai Cymru'n genedl annibynnol, oddifewn y gymanwlad o hyd, byddai dy ddadl yn dal dŵr (er y byddwn, fel gweriniaethwr, yn dy wrthwynebu). Ond y gwir amdani yw, hyd nes y caiff Cymru senedd ddeddfwriaethol lawn, does gennym ddim y gallu i dorri'n rhydd o'r hen feddylfryd taeog, nac i fagu hyder yn yr hyn sydd gennym ni'n hunain, ein hanes, ein diwyllliant, ein treftadaeth, ein gallu i dyfu'n genedl annibynol, nac i ymwrthod a thueddiadau unffurfiaeth yr oes cyfryngau torfol hon. Ar hyn o bryd mae Prydain yn rheoli ein economi, ein diwylliant poblogaidd, ein cyfryngau, ein demograffeg, ein natur cymdeithasol, a - trwy ddwylo'r pleidiau Unoliaethol - ein system addysg. Hynny yw, yr holl bethau hynny sy'n llunio a chynnal ein hunaniaeth.
Rydym ar fympwy gwladwriaeth estron sydd â'i bryd ar ein cadw yn rhan o'r system estron honno, er eu budd nhw, dim ein budd ni. Mae dwyrain ein gwlad yn Brydeinig o ran demograffeg, diwylliant, iaith, arferion a phatrymau cymdeithasol, ethnigrwydd ayb ayb. Mae canol ein gwlad yn apathetic, a mae'r gorllewin yn Gymreig a Chymraeg, efo rhywfaint o annibyniaeth barn ar y mater cyfansoddiadol.
Tra'r ydym yn y sefyllfa ddiymadferth hon, does gennym ddim y grym na'r modd i ymwrthod â phrosesau gwleidyddol a chyflyrru cyfryngol, a dim modd canolog o gryfhau ein hunaniaeth cenedlaethol i ymwrthod a'r rhain ychwaith.
Yn wyneb hyn, mae digwyddiadau gwleidyddol symbolaidd fel yr Arwisgiad yn cael dylanwad andwyol ar ein hunaniaeth ac ar ddyfodol ein cenedl. Rydym yn cael ein portreadu - ar ein cyfryngau ni'n hunain - fel y bobl mae'n meistri isio i ni fod. Ac ar hyn o bryd does gennym ni mo'r adnoddau i gyflwyno portread amgen, gwrthgyferbyniol a chywir o'n hunain i'n pobl. Hyd nes y bydd gennym y grym cyfansoddiadol i wneud hynny'n effeithiol mae'n ddyletswydd arnom i ymwrthod â'r manipiwleiddio a'r propaganda hyn.
A dyna, gyda llaw, yw'r rheswm dros wrthwynebiad cenedlaetholwyr i bypedau'r wladwriaeth (y Frenhiniaeth). Dio'm yn 'obsesiwn' o gwbwl, fel wyt wedi geisio'i ddadlau. Yr unig un sy'n swnio'n obsesd yn fan hyn ydi chdi dy hun, yn rantio yn erbyn rhyw ffantym cenedlaetholgar sy'n bygwth rhwygo'n cymunedau'n racs mewn rhyfel cartref. A'r oll dwi wedi gofyn am yw i bobl arwyddo deiseb...
Ti'n ymddangos yn hynod o naif pan mae'n dod i modus operandi'r wladwriaeth Brydeinig. Mae dy amgyffred o'r farn gyhoeddus (fod mwyafrif y Cymry'n apathetic i'r frenhiniaeth) yn gywir. Ond mae dy amgyffred na fyddai'r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu sgubo i ffwrdd ar y don o Brydeindod pan ddeuai'r Arwisgiad heibio, yn gableddus o ffol.
Pam ti'n meddwl fod y cyfryngau'n cuddio'r protestwyr allan o'r shot wrth ohebu ar ymweliad un o'r Roials? Am eu bod isio marjinaleiddio gwrthwynebwyr (a'u pigeon-holiofel crancs a 'protestwyr iaith'), er mwyn i Gymru gredu fod pawb call yn lyfio Cwini a'i theulu. Pam fod nhw isio i ni feddwl hynny? Achos eu bod nhw'n gwybod ei fod o'n gweithio!
A dyna'n union fydd Arwisgiad di-wrthwynebiad yn ei wneud, ond x50.
gyda llaw, bydd fy nghyfraniadau i'r edefyn yma'n rhai byr dros y dyddiau nesaf, gan fod fy nain wedi marw pnawn 'ma. Ond peidiwch a meddwl mod i am adael chi off yr hwc y diawliad!