gan Prysor » Maw 03 Meh 2008 10:56 pm
Anhygoel! Ro'n i'n hanner disgwyl i ryw gyw cenedlaetholwr wrthwynebu'r ddeiseb am fod y fersiwn Saesneg yn dod cyn y Gymraeg. Ond hyn???!!
Deiseb gwrth-Arwisgo (sy'n ymateb i gynlluniau pendant, gyda llaw), ac mae'r ymateb cyntaf ac ail ar Maes-e (gan 'genedlaetholwyr') yn rhai gwrthwynebus a dilornus. (Synnu dim mai Pleidwyr pro-cau ysgolion ydi'r ddau ohonach chi, chwaith, deud gwir)
Does neb yn honni fod y ddeiseb yn chwyldro (Dylan - paid a pregethu i fi be ydi 'chwyldro'. Dwi wedi bod yn rhan o un - wyt ti?) Mae methu gweld mai pwynt rhethregol cyffredinol i ateb pwynt gor-athronyddol penodol dawncyfarwydd oedd y cyfeiriad at chwyldro, yn dangos dipyn mwy na diffyg galluedd i ddeall y galw dros ddeiseb. Dysgwch fwy am eich gelyn, am eich hanes, am wleidyddiaeth a mechanisms y wladwriaeth Brydeinig yng Nghymru, cyn dod allan efo'ch dadleuon bach hollti-blew, hunanbwysig sydd yn gwneud i bawb ond chi eich hunain weld faint mor gwbwl pathetig a di-asgwrn cefn ydach chi'n swnio.
Mae'r ddeiseb yn ymateb i ymgyrch bropaganda Brydeinig a chynlluniau sydd eisoes ar y gweill i baratoi'r ffordd i'r Arwisgiad nesaf. Dyna mae pobol yn neud, defnyddio safleoedd deiseb ar-lein i ymateb i gynlluniau'r wladwriaeth. Wrth ei rhoi i fyny yma, ar fforwm drafod fawr y Cymry Cymraeg, roeddwn i'n meddwl mod i'n gneud ffafr â'r trefnwyr, gan mai yma, ar fforwm drafod fawr radical y Cymry Cymraeg, y byddai'r gefnogaeth fwyaf. Er, dylwn wybod yn well, o sylwi faint o fynd sydd ar bynciau llosg cenedlaetholgar/cyfansoddiadol Cymreig yn y lle 'ma.
Rydach chi'n gwrthwynebu'r ddeiseb am nad ydach chi'n credu y dylid gweithredu na thynnu sylw at gynlluniau'r llywodraeth nes y maent yn cael eu gweithredu - (hence y pwynt gennyf am ffwcian o gwmpas yn 'ystyried' tra mae'r cynlluniau eisoes yn mynd rhagddynt). A'ch 'rhesymeg' yw 'aros nes mae'r bobl wedi'u cyflyrru, eu brenwashio a'u gorfodi i dderbyn mai anatod yw William fel Prins of Wêls'!
A dyna waith paratoi y wladwriaeth wedi cael dechrau da! Defnyddio taeogrwydd a diffyg asgwrn cefn cenedlaetholwyr 'home rule' y 'Sefydliad Cymreig' i gynnal Prydeindod! Dyna wnaeth y Brit State erioed. Fel y Royal National Eisteddfod, Lloyd George yn 1911, Cynan, ac yn y blaen ac yn y blaen.
Mae pawb yn gwybod be ddigwyddodd yn 1969 - hyd yn oed wedi cyhoeddi'r dyddiad a chyhoeddi'r cynlluniau, hyd yn oed wedi blynyddoedd o weithredu poblogaidd, a hyd yn oed ymgyrch fomio, aeth mwyafrif llethol y Cymry efo'r syniad, a hynny mewn cyfnod o 'ddeffroad cenedlaethol'! Pam aeth y Cymry efo'r wladwriaeth Brydeinig? Am ei bod wedi eu cyflyrru gan weision y wladwriaeth ers blynyddoedd, a bod y cyflyrru hynny wedi cael ei ganiatau gan yr apolojists o blith cenedlaetholwyr diwylliannol Cymru.
A mae peth uffarn mwy o Saeson yn byw yng Nghymru heddiw. Heb anghofio'r ffaith fod mass media heddiw gymaint yn gryfach hefyd. A pha gyfnod hawddach na rwan iddyn nhw - Cymru'n dal i ddod i ddygymod â datganoli, cenedlaetholdeb mewn false state of security, cenedlaetholdeb radical yn ddi-drefn wrth aros canlyniad y state of flux yma, ac yn y blaen ac yn y blaen. Pa gyfle gwell i fanteisio ar ein gwendid a diffyg ffocws clir, a'n clymu'n dynnach i mewn i Brydeindod?
Deffrwch! Mae'r gwaith ar y gweill eisoes gan y Wladwriaeth. Mae nhw'n testio'r dyfroedd ers blynyddoedd bellach, a mae angen dangos iddyn nhw bod yma wrthwynebiad cryf o hyd, ac y bydd unrhyw gynlluniau i Arwisgo Wil yn ysgogi gweithredu torfol di-drais gan genedlaetholwyr, gweriniaethwyr a phobl gyffredin Cymru.
Mae Cymry'n cael ei thagu tra da chi'n consyltio'ch peli crisial.
Os da chi'n erbyn gwrthwynebu'r Arwisgiad arfaethedig, peidiwch arwyddo'r ddeiseb. Ond peidiwch â mynd gam ymhellach, a chreu rhwygiadau diangen trwy ddadlau'n erbyn y rhai hynny sy'n barod i wneud y gwaith diflas o gadw ymwybyddiaeth genedlaethol i fynd trwy gownter-bropagandeiddio o fis i fis, o flwyddyn i flwyddyn. Yn enwedig o weld fod eich rhesymeg fel bwcad o groen gogor.
Ac os ydi dweud hyn o feirniadaeth yn mynd i bigo'ch swigod-egos chi, i'r graddau y byddwch yn ffraeo efo fi, wel - er na fyddwn yn croesawu hynny - rhaid deud na fydd uffar o bwys gen i, achos alla i - a Chymru - wneud heb eich math chi yn y rhengoedd.
"The Scots have their whiskey, the Welsh have their speech,
Their poets are paid around ten pence a week,
Provided no harsh words of England they speak,
Oh Lord what a price for devotion!"
- The Sea Around Us
"Wylit, wylit, Lywelyn
Wylit waed pe gwelit hyn!"