Magnox yn noddi 'Steddfod Bala - arian budur?

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Magnox yn noddi 'Steddfod Bala - arian budur?

Postiogan Rhys Llwyd » Sad 07 Meh 2008 11:44 am

Mae perchnogion safle pŵer niwclear Trawsfynydd, Magnox, yn cyfrannu £50,000 at Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau, yn y Bala, y flwyddyn nesaf. A fydd CND a leftists Plaid Cymru (Jill Evans et. al.) yn cael ymgyrch a phrotest yn erbyn hyn yn enwedig gan gofio mae Rhodri Glyn (PC) yw'r Gweinidog a gofal dros y Brifwyl.

Diddorol bydd gweld ymateb CND a Jill Evans a hynny mewn Eisteddfod fydd yng nghanol cadarnle traddodiadol ei Phlaid.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Magnox yn noddi 'Steddfod Bala - arian budur?

Postiogan huwwaters » Sad 07 Meh 2008 12:01 pm

Dwi ddim yn ddallt pam bod nhw neud hwn. Ma Trawsfynydd mewn adeg o decomissioning, a fel ene fydd hi am ganoedd o flynyddoedd. Waeth derbyn pres gan y gawr o fusnes lleol, fel Tesco.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Magnox yn noddi 'Steddfod Bala - arian budur?

Postiogan Chickenfoot » Sad 07 Meh 2008 12:31 pm

Mae gymaint o ddadleuon gwrth-niwclear yn seiliedig ar gam-wybodaeth pobl fel CND a grwpiau protest eraill. Fel rywun sydd wedi gweithio yb Nhraws, dw i'n "pro-nuclear". 'Taswn i ar bwyllgor trefnu'r Eisteddfod, mi fuaswn yn ddiolgar ofnadwy iddynt.
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Magnox yn noddi 'Steddfod Bala - arian budur?

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 07 Meh 2008 11:32 pm

Chickenfoot a ddywedodd:Mae gymaint o ddadleuon gwrth-niwclear yn seiliedig ar gam-wybodaeth pobl fel CND a grwpiau protest eraill.


Ti eisiau ehangu ar hyn? Pa ddadleuon gwrth-niwclear yn union yr wyt ti'n cyfeirio atynt?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Magnox yn noddi 'Steddfod Bala - arian budur?

Postiogan Hen Rech Flin » Sul 08 Meh 2008 1:53 am

Nodyn cyfan gwbl oddi ar y pwnc! Pam bod yr Eisteddfod yn cael ei gynnal yn y Bala eto?

Mae'r eisteddfod wedi ei gynnal pedair gwaith yn ystod fy mywyd ym Meirion. Unwaith yng Nghorwen a theirgwaith yn y Bala. Be sy' mor spesial am y Bala? Be sy'n bod a Thywyn, Dolgellau, Y Bermo, Harlech neu'r Blaenau?

O ran arian Magnox, arian budur ydyw. Arian budr yn ceisio prynu parch. Fy nghyngor i i'r Eisteddfod bydda: (i ddyfynnu hen gan) Rho dy swllt yn nhwll dy din :!:
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Magnox yn noddi 'Steddfod Bala - arian budur?

Postiogan Hen Rech Flin » Sul 08 Meh 2008 2:00 am

Hen Rech Flin a ddywedodd:Nodyn cyfan gwbl oddi ar y pwnc! Pam bod yr Eisteddfod yn cael ei gynnal yn y Bala eto?

Mae'r eisteddfod wedi ei gynnal pedair gwaith yn ystod fy mywyd ym Meirion. Unwaith yng Nghorwen a theirgwaith yn y Bala. Be sy' mor spesial am y Bala? Be sy'n bod a Thywyn, Dolgellau, Y Bermo, Harlech neu'r Blaenau?

O ran arian Magnox, arian budur ydyw. Arian budr yn ceisio prynu parch. Fy nghyngor i i'r Eisteddfod bydda yateb trwy ddyfynnu hen gan: Rho dy swllt yn nhwll dy din :!:
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Magnox yn noddi 'Steddfod Bala - arian budur?

Postiogan Hogyn o Rachub » Sul 08 Meh 2008 10:37 am

Dydi hwn ddim yn arian budur yn y lleiaf. I fod yn arian budur byddai'n rhaid i rywun feddwl bod pawb sydd a wnelo a threfnu'r eisteddfod hon yn erbyn ynni niwclear, a phrin fod hynny'n wir. Mater o farn unigolyn ydyw a ydi hwn yn arian 'budur', a does a wnelo'r peth ddim a Phlaid Cymru na CND na neb mewn difri.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Magnox yn noddi 'Steddfod Bala - arian budur?

Postiogan Sleepflower » Llun 09 Meh 2008 3:53 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dydi hwn ddim yn arian budur yn y lleiaf. I fod yn arian budur byddai'n rhaid i rywun feddwl bod pawb sydd a wnelo a threfnu'r eisteddfod hon yn erbyn ynni niwclear, a phrin fod hynny'n wir. Mater o farn unigolyn ydyw a ydi hwn yn arian 'budur', a does a wnelo'r peth ddim a Phlaid Cymru na CND na neb mewn difri.


Cytuno at ti - dyw Magnox heb dorri'r gyfraith.

Mae nifer o gwmniau yn llawer fwy budur, ond does neb yn eu targedu nhw oherwydd dyw e ddim yn trendi i wneud hynny:-

Waitrose - neud y tro i ddarllenwyr y Guardian, ond yn warthus o ran bwyd free range.

Lloyds TSB - noddi'r Eisteddfod am flyddoedd, ond yn derbyn benthyciadau gan gwmniau arfau.

Apple - mae ei ipod yn denfyddio metalau sydd wedi'u prynu'n rhad o ardaloedd rhyfel (conflict zones) yn Affrica lle'n aml ygorfodir plant i weithio o dan amodau erchyll am ddim arian.

Ond mae cwmni fel Magnox yn darged llawer haws.
Rhithffurf defnyddiwr
Sleepflower
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1442
Ymunwyd: Iau 20 Tach 2003 6:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Magnox yn noddi 'Steddfod Bala - arian budur?

Postiogan ceribethlem » Llun 09 Meh 2008 6:36 pm

A ddylai'r 'Steddfod wrthod arian nawdd wrth unrhywun? Nid grwp pwyso ydyn nhw.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Magnox yn noddi 'Steddfod Bala - arian budur?

Postiogan Dylan » Llun 09 Meh 2008 9:51 pm

wela i ddim rheswm yn y byd pam ddylai'r Eisteddfod wrthod yr arian. A hyll o beth fyddai i'r llywodraeth ymyrryd yn y mater. Os nad oes rhyw broblem foesol ddifrifol, mater i'r Eisteddfod yn unig ydi hyn. A boed er gwell neu er gwaeth (ac mae'n sicr er gwell yn fy marn i) mae Magnox wedi chwarae rhan bwysig yn yr ardal dros y blynyddoedd.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Nesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron