Rhys Llwyd a ddywedodd:Trafodaeth ddifyr. Gyda llaw, dwi ddim yn gweld bai ar y Steddfod yn derbyn arian Magnox, dim ond agor y drafodaeth oedd fy mwriad! Er mod i'n gweld ystyriaethau dwys yma dwi ddim yn meddwl mod i wedi deud mod i'n ei wrthwynebu, rhyfedd sut mae pawb wedi cymryd hynny yn ganiataol. Mynegi fy niddordeb i weld beth fyddai ymateb y Blaid ac CND oeddw ni.
Dwi, ond dim on jest, o blaid mwy o bwerdai Niwclear i Gymru oherwydd bydd yn cryfhau'r ddadl dros annibyniaeth. Os na fydd gan Gymru orsafoedd ac os bydd datblygiadau gwynt a hydro mor araf ac maen nhw ar hyn o bryd fe ddoith Cymru yn llwyr llwyr ddibynnol ar fewnforio trydan o Loegr ac mi fyddai hynny yn glamp o ddadl dda i'r gwrth-Ddatganolwyr.
Sori. Wnes i gymryd yn ganiataol bod
Rhys Llwyd a ddywedodd:Ar un golwg, ac un golwg yn unig y mae'r buddsoddiad yma yn newyddion da
yn golygu dy fod yn gwrthwynebu i'r Eisteddfod dderbyn arian Magnox.