aled g job a ddywedodd:
O fynd a'r diwydiant "teimlo cam "hwn i'r pendraw, ni fydd posib dweud dim byd am neb yn y dyfodol!
Does dim posib cael unrhyw ateb mas o'n gwleidyddion fel y mae hi.......
Beth ddywedai Nelson Mandela petai e'n clywed am yr halabalw 'ma ynglyn a sylwadau Alun Cairns? Ydych chi'n cofio beth oedd ei neges 'e?
Gyda llaw.....mae un neu ddau wedi crybwyll fod rhywbeth fel rhan o'r meddylfryd Prydeinig.....sy'n hiliol......sy'n dilorni cenhedloedd arall. Efalle fod hynny'n wir.......ond i gymharu gyda'r rhan fwyaf o wledydd y byd......nid yw cynddrwg ag hynny. Dwi wedi cwrdd a llawer o Eidalwyr......sydd wedi setlo 'ma. Wedi aros ar ol y rhyfel. Roeddynt wedi cael sut groeso...hyd yn oed fel carcharorion rhyfel. Mae 'na lot o bobl o dde Asia 'ma sy'n llwyddiannus iawn gyda'u bwytau gyda'r natives yn hoff iaw o'u bwyd. Mae 'na Bwyliaid di-ri yn gwneud pob math o bethau......ac yn dweud wrth eu cyfeillion a'u teuluoedd i ddod draw gan fod pethau cystal. Mae'r Chineaid hefyd i weld fel petai nhw ar y cyfan yn gwneud yn iawn. Dwi'n cofio cwrdd a merch perchennog bwyty ym Mrwsel.......roedd hi'n astudio yn Lloegr. Dywedodd wrthyf eu bod am aros yno.....yn Lloegr. Finne'n gofyn pam? Oherwydd fod y pobl yn fodlon derbyn dieithriaid medde hi ac heb fod yn rhagfarnllyd. Groegwyr oeddynt. Dim cweit y pictiwr o hiliaeth rownd pob cornel mae rhai'n ceisio ei ddarlunio. Dwi'n gwybod am wraig o wlad Thai sydd yn byw yma sydd wrth ei bodd gyda'r holl gyfleodd sydd yma iddi. Sais yw ei gwr hi. Petai nhw'n wedi aros yno.....bydde fawr ddim o hawliau ganddo.....dim yr hawl i berchen tir....llai na 50% o unrhyw fusnes. Ewch i Siapan ac ni chewch chi fynd i mewn i rhai lefydd os nad ydych o'r wlad honno. Yn y 'wlad' ma mae AC yn cael pob math o feirniadaeth am talfyrru 'Japanese' i 'Japs'. Ceiswich agor Capel yn Sawdi Arabia....neu rywle tebyg.
Wrth gwrs, mae hiliaeth yn bodoli.....ond nid i'r graddau mae rhai yn ceisio dweud ei fod.....ac mae'n obsession gan rhai.....pobl gwyn dosbarth canol gan fwyaf......o ie....a'r BBC.
ON Dwi ddim wedi mynd yn uber-brit nat.....dim byd tebyg......ond whare teg......