Camarwain Cynghorwyr Gwynedd?

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Camarwain Cynghorwyr Gwynedd?

Postiogan Waen » Maw 17 Meh 2008 1:13 pm

A’i llithriad neu ymdrech fwriadol i gam-arwain Cynghorwyr Gwynedd sydd yn tanseilio democratiaeth ydi hyn?

Dyma un o benderfyniadau y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc ar 5-6-08 –

"Unrhyw fater arall y mae’r gweithgor yn ei benderfynu sydd yn berthnasol."

Linc I’r ddogfen- http://www.gwynedd.gov.uk/gwy_doc.asp?cat=6011&doc=21276&Language=2

Yr oedd y bleidlais yn 10 i 10 a chariwyd y cynnig gyda phleidlais fwrw Cadeirydd y Pwyllgor Craffu, Y Cyng. Dyfrig Siencyn.
Mewn adroddiad gan Harri Thomas ac Iwan Trefor Jones Jones [awduron y ddogfen], sydd i gael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn 19-6-08 mae’r geiriad wedi newid i-

“Ymdrin ag unrhyw fater arall yn nhyb y Gweithgor sy’n berthnasol i greu cyfundrefn gynaliadwy.”

Linc i’r ddogfen- http://www.gwynedd.gov.uk/gwy_pwyllgorau.asp?cat=5819&doc=20972 (eitem11)
Y mae’r ystyr wedi newid yn gyfan gwbl! :drwg:

Mae hyn yn fater difrifol iawn, ac mae’n codi nifer o gwestiynau.
Pwy awdurdododd y newid a pham? Pwy wnaeth y newid? Pwy oedd yn rhan o’r mater a phwy oedd yn gwybod bod y newid yn cael ei wneud? Mae angen ymchwiliad i’r mater yn syth, a dyma’r math o gwestiynau y bydd rhaid cael atebion iddynt. Atebolrwydd, tryloywder, a gonestrwydd yw congl-feini democratiaeth, ac mae’n rhaid i’r Cyngor ymdrin â’r mater yn gadarn.
Rhithffurf defnyddiwr
Waen
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 227
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 2:45 am

Re: Camarwain Cynghorwyr Gwynedd?

Postiogan Cylchgrawn Barn » Maw 17 Meh 2008 9:53 pm

Helo 'na,
Dwi'n digwydd bod yn aelod o'r pwyllgor craffu, ac yn un o'r rhai a gefnogodd y gwelliant o dan sylw. Fedra i ddim taflu goleuni ar sut na pham y digwyddodd y newid, mae gen i ofn. Ond dwi ddim yn siwr os yw'r aralleiriad yn cynrychioli newid ystyr sylfaenol. Hynny yw, mae pwy bynnag ddrafftiodd y fersiwn ddiweddaraf wedi ychwanegu "i greu cyfundrefn gynaliadwy", ond dwi ddim yn gwybod a yw hyn yn newid yr ystyr. I fod yn gwbl deg, mae'r frawddeg wreiddiol yn amhenodol - mae'n cyfeirio at "unrhyw fater arall.....sydd yn berthnasol" ond heb ddiffinio perthnasol i be. Felly dwi'n tybio mai ymgais i wneud y frawddeg yn fwy ystyrlon ydi ychwanegu'r cymal. Ac yn gwbl bersonol, fyddai gen i ddim gwrthwynebiad i bleidleidio dros yr ail frawddeg.
Serch hynny, dwi'n gynrychiolydd etholedig, ac yn atebol i'r etholwyr. Felly fe wna i godi'r peth - yn anffurfiol o leiaf - gyda rai o aelodau eraill y Pwyllgor.
Dyfrig
Cylchgrawn Barn
Swyddfa Barn,
Y Llwyfan,
Ffordd y Coleg,
CAERFYRDDIN,
SA31 3EQ.

cylchgrawnbarn[malwen]googlemail.com
Cylchgrawn Barn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 20
Ymunwyd: Mer 20 Medi 2006 1:45 pm

Re: Camarwain Cynghorwyr Gwynedd?

Postiogan Lleucu Roberts » Maw 17 Meh 2008 11:07 pm

Dwi’n synnu nad wyt yn gweld fod y gwahaniaeth yma – ychwanegu ‘i greu cyfundrefn gynaliadwy’ - yn newid yr ystyr yn llwyr. Cynaliadwy yng ngeiriadur y Cyngor yw ‘ariannol gynaliadwy’. Dyna holl gyfeiriad y ddogfen ad-drefnu a fu.

Yr ystyriaeth bwysicaf i ni fel Cymry Cymraeg yma yng Ngwynedd ydi cynnal a sicrhau twf yr iaith a’r diwylliant Cymraeg. Y gwahaniaeth rhwng y ddwy frawddeg yma ydi fod un yn caniatau lle i roi ystyriaeth i hyn sef y gyntaf a gynigiwyd gan y Cynghorydd Wyn Williams o Abersoch sef “Unrhyw fater arall y mae’r gweithgor yn ei benderfynu sydd yn berthnasol” lle mae’r ail frawddeg “Ymdrin ag unrhyw fater arall yn nhyb y Gweithgor sy’n berthnasol i greu cyfundrefn gynaliadwy” wedi sefydlu’r prif faen prawf, sef yr arbediad ariannol na fydd yn rhoi unrhyw le i ystyried gwerth cymdeithasol o ran Cymreigio nac unrhyw werth arall.

Oni fyddai’n fwy cynaliadwy i ni roi’r gorau i gyfieithu dogfennau a darparu offer cyfieithu, oni fyddai’n fwy cynaliadwy i ni gyd symud i’r dref fel na fyddwn ni’n ddibynnol ar wasanaeth bws, system ffyrdd ac ati? Dyna’r meddylfryd globaleiddiol sy’n treiddio trwy bopeth.

Mae cynnal iaith a diwylliant yn costio. Mae cynnal rhagoriaethau addysgol yn costio. Dadleuon celwyddog yw’r rhai sy’n ceisio honni fod addysg plant mewn ysgolion llai yn dioddef, ag arolwg ar ôl arolwg yn dangos i’r gwrthwyneb. Holl wendid y ddogfen addysg fel a fu oedd y pwyslais ar y cynaliadwy ar draul y gwerthfawr, gweld pris popeth a gwerth dim.

Gonestrwydd, ymddygiad didwyll a chyfrifol sydd ei angen rwan. Nid chwarae gemau gwleidyddol gan gynghorwyr, a chwarae efo geiriau gan swyddogion. Mae gwerth ein hiaith a’n diwylliant Cymraeg yn haeddu gwell parch ac mae gen i ofn nad ydi mor hawdd rhoi pris arno.
Lleucu Roberts
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 10
Ymunwyd: Sad 27 Hyd 2007 5:35 pm

Re: Camarwain Cynghorwyr Gwynedd?

Postiogan Lleucu Roberts » Maw 17 Meh 2008 11:20 pm

O.N.

Ystyriwch: 15 o Gynghorwyr a nifer o swyddogion ar gyflogau sylweddol a chynrychiolwyr eraill wedi teithio rai milltiroedd i eistedd yn trafod materion am rai oriau. Wedi’r trafod a rhoi ystyriaeth ofalus i oblygiadau yr hyn y mae nhw’n ei gefnogi neu wrthod byddant yn ol y drefn ddemocrataidd yn cael y cyfle i gynrychioli eu hetholwyr drwy bleidleisio ar y mater.

Ond mewn gwirionedd pan ddaw hi’n amser mynd i’r Pwyllgor Craffu nesa’, yr hyn ddylid ei wneud, mae'n siwr, yw sefydlu cyfundrefn fwy cynaliadwy sef pawb i aros adra a’r swyddog perthnasol i ysgrifennu ei sylwadau ar y materion dan sylw.

!
Lleucu Roberts
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 10
Ymunwyd: Sad 27 Hyd 2007 5:35 pm

Re: Camarwain Cynghorwyr Gwynedd?

Postiogan BOT » Iau 19 Meh 2008 4:07 pm

Be' ddigwyddodd yn y cyfarfod cyngor llawn heddiw Lleucu?
Rhithffurf defnyddiwr
BOT
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 71
Ymunwyd: Sad 05 Ebr 2008 8:18 am

Re: Camarwain Cynghorwyr Gwynedd?

Postiogan GT » Iau 19 Meh 2008 5:34 pm

BOT a ddywedodd:Be' ddigwyddodd yn y cyfarfod cyngor llawn heddiw Lleucu?


Liz wedi cael diwrnod da iawn yn ol yr hyn a ddaeallaf.

Y cymal am gyfundrefn gynaladwy wedi ei dileu, a chymal wedi ei hychwanegu at y cynnig am greu rhestr o ysgolion i'w cau yn ychwanegu rhywbeth fel 'os ydi'r gweithgor yn ystyried hynny'n briodol'.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Camarwain Cynghorwyr Gwynedd?

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 19 Meh 2008 9:25 pm

Newyddion Gwych. Wele ymateb Cymdeithas yr Iaith.

Cymdeithas yr Iaith yn croesawu y newid llwyr ym mholisi ysgolion Gwynedd.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu datganiad y Cynghorydd Liz Saville (deiliad portffolio Addysg Cyngor Gwynedd) fod yr hen gynllun ad-drefnu ysgolion wedi dod i ben ac nad oes bellach unrhyw restr o ysgolion i'w cau, nac ychwaith gynlluniau gorfodi newid ar ysgolion eraill. Croesawn ei datganiaid yn siambr y Cyngor heddiw fod y Cyngor am symud ymlaen trwy gydsynio a thrwy gydweithio gyda Chynghrair Ysgolion Gwynedd a Chymdeithas yr Iaith. Dilewyd y cymal o'r cynnig yn gofyn i'r gweithgor newydd'llunio rhestr o ysgolion i'w cau.'
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Camarwain Cynghorwyr Gwynedd?

Postiogan Waen » Gwe 20 Meh 2008 1:05 am

Dywedodd Y Cyng. Liz Saville-Roberts, Deilydd y Portffolio Addysg – fod barn pobl Gwynedd wedi ei ddatgan a’i glywed. Pleidleisiwyd yn unfrydol i sefydlu gweithgor trawsbleidiol i edrych ar yr holl dystiolaeth. Roedd Llais Gwynedd yn croesawu newid gan Blaid Cymru. Cafwyd gair o rybudd gan y Cyng. Penri Jones – y bydd sawl un yn edrych yn fanwl iawn iawn ar beth fydd y Gweithgor yn ei gyflwyno, a hynny ar draws y pleidiau. Bydd Y Gynghrair Ysgolion a Chefnogwyr hefyd yn cadw golwg manwl iawn.
:D
Rhithffurf defnyddiwr
Waen
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 227
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 2:45 am


Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai