Tudalen 1 o 2
Cefnogaeth de Valera i ymgyrch Tryweryn
Postiwyd:
Llun 23 Meh 2008 6:26 pm
gan dawncyfarwydd
Dwi ddim yn siwr iawn pa mor enwog ydi'r neges hon - do'n i erioed wedi clywed amdani. Mae'n ymddangos i'r ymgyrch benderfynu peidio â'i defnyddio hi er mwyn osgoi cael eu cysylltu ag eithafwyr Gwyddelig treisgar. Mae'n neges werth ei darllen a'i chofio - Eamon wedi'i dallt hi!
Re: Cefnogaeth de Valera i ymgyrch Tryweryn
Postiwyd:
Llun 23 Meh 2008 6:37 pm
gan osian
O'dd hwnna yn rhan o'r pecyn gatho ni wrth neud gwaith cwrs am foddi Tryweryn llynadd, dwi rioed 'di weld o'n nunlla arall chwaith.
Re: Cefnogaeth de Valera i ymgyrch Tryweryn
Postiwyd:
Maw 24 Meh 2008 1:30 pm
gan Prysor
difyr iawn dawncyfarwydd. wyddwn i ddim amdano chwaith.
Re: Cefnogaeth de Valera i ymgyrch Tryweryn
Postiwyd:
Maw 24 Meh 2008 4:43 pm
gan 7ennyn
I bwy y cyfeirwyd y llythyr yma? O'n i'n meddwl fy mod i wedi gweld pob sgrap swyddogol o bapur yn ymwneud a'r boddi a gynhyrchwyd gan y Pwyllgor Amddiffyn a gan Gyngor Sir Feirionnydd, ond does gen i ddim cof o ddod ar draws hwn.
Re: Cefnogaeth de Valera i ymgyrch Tryweryn
Postiwyd:
Maw 24 Meh 2008 10:01 pm
gan dawncyfarwydd
Dim syniad. Ges i gopi gan bregethwr lleyg sy'n fêts efo un o Cylch yr Iaith, a dwi'm yn gwbod mwy na be dwi 'di ddeud.
Re: Cefnogaeth de Valera i ymgyrch Tryweryn
Postiwyd:
Maw 24 Meh 2008 10:45 pm
gan Hazel
A allwch chi'n gofyn i Meic Stephens. Mae o'n gwybod am llawer o'r rhain. Mae o wedi ysgrifennu llyfr efo llawer o ddyfyniadau.
Re: Cefnogaeth de Valera i ymgyrch Tryweryn
Postiwyd:
Mer 25 Meh 2008 12:42 pm
gan osian
7ennyn a ddywedodd:I bwy y cyfeirwyd y llythyr yma? O'n i'n meddwl fy mod i wedi gweld pob sgrap swyddogol o bapur yn ymwneud a'r boddi a gynhyrchwyd gan y Pwyllgor Amddiffyn a gan Gyngor Sir Feirionnydd, ond does gen i ddim cof o ddod ar draws hwn.
Oni'n meddwl ma' i'r pwyllgor amddifyn oedd o.
Re: Cefnogaeth de Valera i ymgyrch Tryweryn
Postiwyd:
Mer 25 Meh 2008 4:03 pm
gan Cardi Bach
Roedd Dev a Gwynfor Evans wedi cyfarfod ar rhai achlysuron i drafod gwahanol bethau.
Efallai fod Gwynfor wedi codi y mater pan yn llythyru neu mewn sgwrs a Dev.
Re: Cefnogaeth de Valera i ymgyrch Tryweryn
Postiwyd:
Iau 26 Meh 2008 10:49 am
gan Sleepflower
Pam fod rhaid cael sel bendith cenedlaetholwr o wlad arall?
Re: Cefnogaeth de Valera i ymgyrch Tryweryn
Postiwyd:
Iau 26 Meh 2008 10:51 am
gan Sleepflower
Sleepflower a ddywedodd:Pam fod rhaid cael sel bendith cenedlaetholwr o wlad arall?
Sori, mae gen i agwedd eitha pesamistig heddi.
Da iawn, ta beth.