Cymedrolwr: Mr Gasyth
krustysnaks a ddywedodd:Os nad yw Dafydd Iwan hyd yn oed yn gallu ennill sedd ar Gyngor Gwynedd, does bosib ei fod yn addas i fod yn Llywydd y Blaid yn genedlaethol. Mae holl apêl Dafydd Iwan yn deillio o'i allu i apelio i'r "werin Gymraeg" ond mae'r political capital hynny wedi diflannu'n llwyr gyda'r saga yng Ngwynedd. Dwi'n meddwl bydd cyfnod Dafydd Iwan fel Llywydd yn cael ei weld fel anomaly llwyr mewn blynyddoedd i ddod, o gymharu ei ddylanwad gyda rhai bu yn y swydd ynghynt.
Garnet Bowen a ddywedodd:Chwarae gem blentynaidd ydi hyn.
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dim DI ydi'r unig un yn erbyn y datblygiad milwrol - mae'r ASE Jill Evans yn gyhoeddus wrthwynebus, a dim hi ydi'r unig un dwi'n siwr.
Dwi'n meddwl mai dy frawddeg olaf sy'n dy drechu - beth bynnag fo daliadau DI am bethau fel y datblygiad hwnnw, rôl y Llywydd ydi ysbrydoli'r aelodau, ac ar y cyfan mae hwnnw'n rhywbeth y mae DI yn dda yn gwneud. Prin iawn y gellid dweud yr un peth am Elfyn Llwyd, mi dybiaf.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai