Dafydd Iwan v Elfyn Llwyd

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Dafydd Iwan v Elfyn Llwyd

Postiogan GT » Mer 23 Gor 2008 3:36 pm

Giaman bach - 'dwi wedi dweud wrthyt o'r blaen am dy Syndrom Hotel California - rhaid i ti ddysgu peidio dy hun yn sal am wleidyddiaeth mewnol dy gyn blaid.

Mae HW wedi cymryd un safbwynt, mae ei Bwyllgor Rhanbarth lleol wedi cymryd safbwynt arall - mae'r pethau ma'n digwydd.

Dim ond aelodau o'r Blaid sydd efo pleidlais ar y mater - mater mewnol ydi'r llywyddiaeth. Ymlacia, mwynha'r haul wir dduw yn lle gweithio dy hun i stad am faterion nad oes wnelo nhw ddim a ti.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Dafydd Iwan v Elfyn Llwyd

Postiogan Cath Ddu » Mer 23 Gor 2008 3:49 pm

GT a ddywedodd:Giaman bach - 'dwi wedi dweud wrthyt o'r blaen am dy Syndrom Hotel California - rhaid i ti ddysgu peidio dy hun yn sal am wleidyddiaeth mewnol dy gyn blaid.


Tydw i ddim - ond diolch am dy gonsyrn :lol:

GT a ddywedodd:Mae HW wedi cymryd un safbwynt, mae ei Bwyllgor Rhanbarth lleol wedi cymryd safbwynt arall - mae'r pethau ma'n digwydd.


Dwin' deall hynny - ond felly ai'r awgrym yw fod y Cadeirydd wedi dweud celwydd wrth y Cymro? Os 'di Hywel yn dal i gefnogi Elfyn sut yn y byd oedd modd disgrifio y penderfyniad fel un oedd yn unfrydol?

Ti'n gwneud pethau'n waeth GT!
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Re: Dafydd Iwan v Elfyn Llwyd

Postiogan GT » Mer 23 Gor 2008 4:16 pm

Wrth gwrs nad oes neb yn dweud celwydd wrth y Cymro - fedri di ddim dweud celwydd am benderfyniad pwyllgor wrth y wasg - byddet yn cael dy gywiro yn gyhoeddus yn y rhifyn nesaf.

Gweithia pethau allan trostot dy hun wir Dduw.

Mae datganiad y cadeirydd yn wir.

Mae safbwynt yr Aelod Seneddol a'r pwyllgor yn gwahanol.

Petai'r AS wedi newid ei farn byddai wedi gwneud datganiad i'r perwyl hwnnw am wn i.

Mae'r AS ar y pwyllgor - ond nid yw'n gorfod mynychu pob cyfarfod - a nid yw o anghenrhaid yn pleidleisio ar pob cynnig.

Rwan, mae sawl eglurhad posibl tros dy broblem - take your pick - 'dwi ddim yn mynd i wneud sylw ar y we ynglyn a thrafodaethau preifat - a 'dwi'n synnu dy fod yn disgwyl i mi wneud hynny.

Roedd dy thesis ar ddechrau'r edefyn hwn yn amrywiaeth ar yr arferol - y Plaid Cymru Gwynedd drwg, drwg, drwg 'na sydd pob amser yn gwneud penderfyniadau am resymau maleisus, yn pellhau oddi wrth DI mewn ymdrech i ail 'sgwennu hanes parthed y cynllun ail strwythuro ysgolion. Ond ddaru hynny ddim digwydd i bob pwrpas - llond dwrn o unigolion blaenllaw o fewn y Blaid yn y sir sydd wedi datgan eu cefnogaeth i ELl. Felly dyma fynd ar ol sgwarnog llwyr - sgwarnog sy'n eff ol o dy fusnes di yn y bon.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Dafydd Iwan v Elfyn Llwyd

Postiogan Cath Ddu » Mer 23 Gor 2008 8:16 pm

GT a ddywedodd:Wrth gwrs nad oes neb yn dweud celwydd wrth y Cymro - fedri di ddim dweud celwydd am benderfyniad pwyllgor wrth y wasg - byddet yn cael dy gywiro yn gyhoeddus yn y rhifyn nesaf.


Da clywed hynny ond dweud ddaru mi fod dy gyfraniad yn agor y drws i'r posibilrwydd hwnnw.

GT a ddywedodd:Mae datganiad y cadeirydd yn wir.
Mae safbwynt yr Aelod Seneddol a'r pwyllgor yn gwahanol.
Petai'r AS wedi newid ei farn byddai wedi gwneud datganiad i'r perwyl hwnnw am wn i.
Mae'r AS ar y pwyllgor - ond nid yw'n gorfod mynychu pob cyfarfod - a nid yw o anghenrhaid yn pleidleisio ar pob cynnig.


Pe na byddai wedi pledleisio yna ni fyddai'n bleidlais unfrydol gan y byddai yna aelod o'r pwyllgor HEB gefnogi'r penderfyniad. Pe na byddai yn y cyfarfod yna fe allai'r datganiad fod yn ffeithiol gywir ond serch hynny y mae'n ddilornus iawn o farn yr AS i gyhoeddi penderfyniad 'unfrydol' hyd yn oed os nad oedd HW yn y cyfarfod gan ei fod yn aelod gweddol amlwg o'r Pwllgor Rhanbarth.

GT a ddywedodd:Roedd dy thesis ar ddechrau'r edefyn hwn yn amrywiaeth ar yr arferol - y Plaid Cymru Gwynedd drwg, drwg, drwg 'na sydd pob amser yn gwneud penderfyniadau am resymau maleisus, yn pellhau oddi wrth DI mewn ymdrech i ail 'sgwennu hanes parthed y cynllun ail strwythuro ysgolion. Ond ddaru hynny ddim digwydd i bob pwrpas - llond dwrn o unigolion blaenllaw o fewn y Blaid yn y sir sydd wedi datgan eu cefnogaeth i ELl. Felly dyma fynd ar ol sgwarnog llwyr - sgwarnog sy'n eff ol o dy fusnes di yn y bon.


O GT druan - dwi di cyffwrdd nerf?

O ran Elfyn - ydi mae o'n fusnes i mi. Fel AS dros ran sylweddol o Aberconwy fe fyddai'n dda gennyf ei weld yn brysur efo'r llywyddiaeth. Pawb ai fys......
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Re: Dafydd Iwan v Elfyn Llwyd

Postiogan GT » Mer 23 Gor 2008 8:53 pm

Cath Ddu a ddywedodd:O ran Elfyn - ydi mae o'n fusnes i mi. Fel AS dros ran sylweddol o Aberconwy fe fyddai'n dda gennyf ei weld yn brysur efo'r llywyddiaeth. Pawb ai fys......


Cweit - ac wrth gwrs HW ydi dy Aelod Seneddol di.

Os ydi'r peth yn dy boeni cymaint a hynny, beth am ei e bostio a gofyn. Byddai mynd i lygad y ffynnon yn fwy effeithiol na holi ar faes e siawns gen i. :winc:
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Dafydd Iwan v Elfyn Llwyd

Postiogan Cath Ddu » Mer 23 Gor 2008 9:22 pm

GT a ddywedodd:
Cath Ddu a ddywedodd:O ran Elfyn - ydi mae o'n fusnes i mi. Fel AS dros ran sylweddol o Aberconwy fe fyddai'n dda gennyf ei weld yn brysur efo'r llywyddiaeth. Pawb ai fys......


Cweit - ac wrth gwrs HW ydi dy Aelod Seneddol di.

Os ydi'r peth yn dy boeni cymaint a hynny, beth am ei e bostio a gofyn. Byddai mynd i lygad y ffynnon yn fwy effeithiol na holi ar faes e siawns gen i. :winc:


Falle bydde cyfeirio y stori at ambell newyddiadurwr (trwy gyfrwng Maes E) hefyd yn gwneud y tric. O ran dy bwynt am Hywel - ti'n llygad dy le. Mae'r ffaith fod fy AS wedi methu dylanwadu ar ei blaid o fewn ei etholaeth yn fater o bwys i etholwyr Arfon fe dybiaf - ddaru mi ddim meddwl am hynny!

Ar fater arall - ti'n marcio yn yr etholiad mawr 'fory? :gwyrdd:
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Re: Dafydd Iwan v Elfyn Llwyd

Postiogan GT » Mer 23 Gor 2008 9:36 pm

Cath Ddu a ddywedodd:
Ar fater arall - ti'n marcio yn yr etholiad mawr 'fory? :gwyrdd:


Fydda i byth, byth yn marcio - er mai fi sy'n trefnu i bobl eraill wneud hynny.

Fi (ymhlith eraill) fydd yn sicrhau bod y straglars sydd heb ddod allan erbyn tua 6 yn cael galwad yn eu hatgoffa.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Dafydd Iwan v Elfyn Llwyd

Postiogan rebel » Iau 24 Gor 2008 7:16 am

Ma grwp ar Facebook dan yr enw Etholwch Elfyn Llwyd fel Llywydd Plaid Cymru i roi chydig o gefnogath i'r boi :winc:
rebel
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 24
Ymunwyd: Mer 15 Meh 2005 9:38 pm
Lleoliad: Rhywle

Nôl

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron