Garnet Bowen a ddywedodd:Yn y bon, does gan hyn ddim oll i'w wneud a rol y llywydd. Mae Elfyn Llwyd yn cachu brics bod y busnes cau ysgolion yn mynd i olygu ei fod o'n colli ei sedd yn yr etholiad nesaf. Felly mae o'n chwilio am ffordd o ddangos ei fod o'n erbyn y cynllun drwy ymladd brwydr bersonol ddibwys yn erbyn un o bensaeri'r cynllun ad-drefnu addysg gynradd. Yn y pen draw, dwi ddim yn meddwl bod ganddo ots os mai ef yw'r llywydd neu beidio. Drwy herio Dafydd Iwan, mae'n dangos ei ochr i gefnogwyr traddodiadol Plaid Cymru ym Meirion a Dwyfor, yn y gobaith y bydden nhw'n parhau i'w gefnogi yn yr etholiad. Chwarae gem blentynaidd ydi hyn.
chwarae teg rwan Bowen, roedd Elfyn Llwyd ar ddalen flaen Y Cymro flwyddyn dweutha yn nodi'n glir fod o ddim yn hapus efo'r ad-drefnu ysgolion ar ei bats o. felly mae o'n gyhoeddus ei gondemniad o'r cynllun 'bondigrybwyll' (hawlfraint:Alwyn Gruffudd) ers ache
fel pleidiwr rhonc, dwi'n synnu dy fod yn darlunio cymhellion Elfyn Llwyd fel rhai sinicaidd a phlentynaidd - beth sydd mor ddrwg am apelio at gefnogwyr traddodiadol ddy Blaid ym Meirion a Dwyfor?
(mae'r etholiad lleol diwethaf wedi profi nad cachu ar y cefnogwyr craidd ydi'r ffordd o fynd o'i chwmpas hi)
ymhell o fod yn frwydr bersonol ddibwys, mae'n gyfel i drafod cyfeiriad y Blaid a, gobeithio, fydd pobol yn medru edrych ar weledigaeth y ddau ymgeisydd ar gyfer Cymru yfory