Dafydd Iwan v Elfyn Llwyd

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Dafydd Iwan v Elfyn Llwyd

Postiogan Deiniol » Sad 28 Meh 2008 11:15 am

Dim ond ambell i bwynt i'w hystyried am y frwydr yma rhwnd DI ac Elfyn.Os mai rol y Llywydd ydi cynrychioli barn yr aelodau cyffredin gellid dadlau fod DI mewn sefyllfa gwell i wneud hynny fel aelod cyffredin bellach sydd ddim yn dal unrhyw swydd arall o fewn y Blaid. Ond mae ei record ( dim pyn!) o wrando ar yr aelodau hynny yn mynd yn ei erbyn.Mae Elfyn yn wr galluog a phendant ei farn ac yn siwr o fod yn Lywydd saff ond all o ysbrydoli aelodau?

Dwi'n meddwl ei bod hi'n bechod mai dau o Wynedd sy'n cynnig gan fod hynny yn golygu gallai sylw y frwydr am y Llywyddiaeth droi o amgylch polisi ysgolion Gwynedd.Os ydi Elfyn ac eraill eisiau gweld newid tybed fyddai rhywun ieuengach o tu allan i'r Sir wedi bod yn fwy o ysbrydoliaeth i aelodau Cymru gyfan? Os oedd yr Aelodau Seneddol am gynnig ymgeisydd oni fyddai Adam Price yn well ymgeisydd?
Deiniol
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 48
Ymunwyd: Mer 02 Ebr 2008 10:34 am

Re: Dafydd Iwan v Elfyn Llwyd

Postiogan Iwan Rhys » Sul 29 Meh 2008 1:13 pm

Cytuno da Deiniol. Adam Price fydde fy newis i hefyd. Mae'n rhagorol yn annerch stafell o bobol. A mae'n edrych i fi fel bod ganddo fe weledigaeth bendant. Wedi dweud hynny, mae'n gwneud gwaith da fel swyddog etholiadol y Blaid (ddim yn siwr beth yw'r teitl swyddogol), a falle y bydde'n well ei gadw fan hyn am gyfnod, a wedyn ei gael yn llywydd mewn chydig flynyddoedd. Ei gael i'r cynulliad fydde'n ddelfrydol.
Fel mollusc yn syrthio i gysgu, neu fel dwy falwen yn caru, siwr o bleser yw blasu'n ara' deg y gwyn a'r du.
Iwan Rhys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 219
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 11:28 pm
Lleoliad: Wellington, Seland Newydd

Re: Dafydd Iwan v Elfyn Llwyd

Postiogan Hen Rech Flin » Maw 01 Gor 2008 2:23 am

Garnet Bowen a ddywedodd:Yn y bon, does gan hyn ddim oll i'w wneud a rol y llywydd. Mae Elfyn Llwyd yn cachu brics bod y busnes cau ysgolion yn mynd i olygu ei fod o'n colli ei sedd yn yr etholiad nesaf.


Dydy'r ddadl yma ddim yn dal dŵr. Heb ymgeisydd Llais Gwynedd does dim ddwywaith bydd Plaid Cymru yn ennill etholaeth Dwyfor a Meirion efo'r mwyafrif cadarnaf o holl etholaethau Cymru, bydd pleidlais Plaid Cymru ym mhell dros 60%. Nid rhagfarn bleidiol yw dweud y fath beth ond ffaith o ran natur yr etholaeth.

Gall ymyrraeth Llais Gwynedd ddryllio gobeithion y Blaid o ddangos ei hun fel Plaid gadarnaf Cymru, ond y gwaethaf all digwydd yn yr etholaeth yw i'r Blaid ennill efo llai na 50% o'r bleidlais a cholli rhywfaint o “sglein” ar y fuddugoliaeth.

Ond mae'n wir mae nid brwydr am gorff ac enaid y Blaid mo'r frwydr am y llywyddiaeth. Nid achos o aelod trefol sosialaidd Seisnig yn brwydro yn erbyn Cymro Cymraeg geidwadol ddiwylliannol. Dau glôn o bleidiwr traddodiadol yw Dafydd Iwan ac Elfyn Llwyd.

Fy nhybiaeth i yw bod Elfyn yn brwydro yn erbyn Ieuan Wyn, yn hytrach na Dafydd Iwan am yr hawl i fod yn “llais” y Blaid ar y cyfryngau yn ystod etholiadau Ewrop y flwyddyn nesaf ac yn bwysicach yn ystod Etholiad San Steffan wedyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Dafydd Iwan v Elfyn Llwyd

Postiogan Prysor » Maw 01 Gor 2008 9:09 am

Mae PC yn draddodiadol saff yn Meirionnydd-Dwyfor, ydi. Ond nid oherwydd ei chefnogwyr traddodiadol yn gyfangwbl, ond hefyd oherwydd cefnogaeth gryf o blith mewnfudwyr (mae Elfyn Llwyd a Dafydd El yn aelodau etholaeth cryf iawn - mi weithiant yn galed dros eu hetholaeth a'u hetholwyr).

Ond mae'r cynllun cau ysgolion yng Ngwynedd, ynghyd â esgeulusdod y Blaid yn ei hardaloedd 'saff' Cymraeg (fel Blaenau Ffestiniog, tref y mae Cyngor Gwynedd yn ei gadael i redeg i lawr i'r ddaear) yn bygwth bwyta i mewn yn sylweddol i bleidlais y Blaid ymysg Cymry a mewnfudwyr Meirionnydd (alla i ddim siarad am Dwyfor, ond mae'n amlwg fod drwgdeimlad tuag at y Blaid yno hefyd, gan i ymgeiswyr cryf y Blaid golli eu seddi).

Ym Meirionnydd, mae'r Blaid wedi colli tir i Lais Gwynedd mewn ardal Gymraeg gadarn Plaid Cymru (Blaenau - 2 gynghorydd sir Llais Gwynedd... ac ie dwi'n gwbod mai cipio o Lafur wnaethpwyd yn un sedd, yn dilyn marwolaeth Ernest Williams, ond aeth Ernest ond i mewn yn wreiddiol oherwydd gwrthwynebiad personol i ymgeisydd Plaid (sydd bellach yn aelos LLG !!). Mae'r Blaid hefyd wedi colli tir a sedd yn ardaloedd Seisnig de y sir.

Mae Plaid Cymru hefyd wedi colli sedd yn ei chadarnle fwyaf - Llanuwchllyn, cartref Elfyn - i genedlaetholwr annibynol poblogaidd lleol.

Er bod Meirionnydd yn draddodiadol saff i Plaid, felly, does dim dwywaith fod potensial i PC wneud colledion yn yr etholaeth yn dilyn ffiasco cynllun Cyngor Gwynedd i gau ysgolion, ac felly mae'n gwbwl resymol i ddyfalu mai political positioning yw prif gymhelliad Elfyn wrth sefyll. Mae'r ddadl 'cadw'r blaid yng nghrlan ei chefnogwyr traddodiadol' yn sgwarnog, achos mewnfudwyr yw hanner ei hetholwyr ym Meirionnydd. Mae DI y gwleidydd, yr hen gradur, yn ddiawledig o amhoblogaidd ar lawr gwlad ers rhai blynyddoedd. Efallai nad yw'n haeddu'r rhan fwyaf o'r drwgdeimlad/bai, ond tydi hynny'n newid dim ar y teimlad ar lawr gwlad (y gwelltyn a laddodd y camel oedd ei gefnogaeth i'r cynllun cau ysgolion - hara-kiri gwleidyddol a ffolineb llwyr ar ei ran).

Dwi'n meddwl fod Elfyn yn gwybod hynny - a dwi'n meddwl ei bod yn bryd i Bleidwyr weld a derbyn hynny hefyd, neu parhau i suddo i'r gors wnaiff y Blaid yng Ngwynedd.

Does'na ddim gwahaniaeth eidiolegol rhwng DI ac Elfyn. Mae'r ddau yn genedlaetholwyr o'r union yr un anian.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Dafydd Iwan v Elfyn Llwyd

Postiogan Cymro13 » Maw 01 Gor 2008 10:31 am

Prysor a ddywedodd:Mae Plaid Cymru hefyd wedi colli sedd yn ei chadarnle fwyaf - Llanuwchllyn, cartref Elfyn - i genedlaetholwr annibynol poblogaidd lleol.


Dwi di clywed taw aelod o Blaid Cymru yw'r person sydd wedi ennill y sedd yn Llanuwchllyn jest ei fod yn sefyll yn annibynol oherwydd yr un person sydd wedi bod yn cynriochioli'r set am flynyddoedd

Un peth hoffwn i bwyntio allan hefyd yng Ngwynedd - Mae ymladd etholiadau cyngor yn un peth, ond pan ydych yn ymladd etholiad cyffedinol neu etholiadau'r cynulliad mae'n gên hollol wahanol, ac un peth sen i'n dweud yw os yr Llais Gwynedd yn penderfynnu herio'r Blaid yn yr etholiadau yma mi fydd yn gweithio i ffafriaeth y Blaid Lafur (yn enwedig yn sedd Caernarfon lle mae'n bosib i Lafur ei chipio yn yr etholiad cyffredinol)
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Re: Dafydd Iwan v Elfyn Llwyd

Postiogan Prysor » Maw 01 Gor 2008 11:28 am

Cymro13 a ddywedodd:
Prysor a ddywedodd:Mae Plaid Cymru hefyd wedi colli sedd yn ei chadarnle fwyaf - Llanuwchllyn, cartref Elfyn - i genedlaetholwr annibynol poblogaidd lleol.


Dwi di clywed taw aelod o Blaid Cymru yw'r person sydd wedi ennill y sedd yn Llanuwchllyn jest ei fod yn sefyll yn annibynol oherwydd yr un person sydd wedi bod yn cynriochioli'r set am flynyddoedd



falla'n wir fod y mater lleol yn ffactor gweddol gryf

ond y pleidleiswyr sydd yn penderfynu pwy mae nhw isio i'w cynrychioli, nid yr ymgeiswyr. Mae Llanuwchllyn yn un o gadarnleoedd cadarnaf PC, os nad y cadarnaf yng Nghymru. Felly mae teyrngarwyr Plaid Cymru wedi pleidleisio i genedlaetholwr annibynnol yn hytrach na PC, gan olygu fod gan PC un sedd yn llai ar y cyngor.

Er fod y ffaith fod ganddyn nhw genedlaetholwr ifanc cydwybodol, gweithgar a phoblogaidd o'r pentref, fel dewis amgen, yn gwneud y penderfyniad yn haws, mae'r ffaith i dros hanner pleidleiswyr PC yr etholaeth benderfynu bacio'r annibynwr yn awgrymu i mi fod anniddigrwydd â Phlaid Cymru yng Ngwynedd hefyd yn ffactor cryf. Mentraf hefyd mai'r busnes cau ysgolion oedd cnewyllyn yr anniddigrwydd hwnnw. Cofiwch fod 'pawb' yn Llanuwchllyn yn perthyn i 'bawb' ym mhentref Y Parc (a'u hanner yn perthyn i fi!), jesd dros y bryn - ble mae ysgol y pentref wedi ei chlustnodi i gau.

Fentra i y byddai pobl Llanuwchllyn byth, byth yn pleidleisio i unrhyw blaid arall heblaw Plaid Cymru mewn unrhyw etholiad cyffredinol. Ond fentra i hefyd eu bod wedi cael cyfle, yn Al Ty Coch, i leisio eu hanniddigrwydd â Phlaid Cymru ar y lefel sirol. Mae Elfyn Llwyd yn wleidydd â hygrededd sydd yn gwrando ar ei etholwyr. Mae'n byw yn Llanuwchllyn, ac yn mynd am beint yn yr Eagles. Mae o'n gwybod ac yn deall yr anniddigrwydd yma, ac mae'n ymwybodol ei fod yn gynrychioladol o anniddigrwydd drwy'r sir i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Dafydd Iwan v Elfyn Llwyd

Postiogan Hen Rech Flin » Mer 02 Gor 2008 12:41 am

Prysor a ddywedodd:Mae PC yn draddodiadol saff yn Meirionnydd-Dwyfor, ydi. Ond nid oherwydd ei chefnogwyr traddodiadol yn gyfangwbl, ond hefyd oherwydd cefnogaeth gryf o blith mewnfudwyr (mae Elfyn Llwyd a Dafydd El yn aelodau etholaeth cryf iawn - mi weithiant yn galed dros eu hetholaeth a'u hetholwyr).

Ond mae'r cynllun cau ysgolion yng Ngwynedd, ynghyd â esgeulusdod y Blaid yn ei hardaloedd 'saff' Cymraeg (fel Blaenau Ffestiniog, tref y mae Cyngor Gwynedd yn ei gadael i redeg i lawr i'r ddaear) yn bygwth bwyta i mewn yn sylweddol i bleidlais y Blaid ymysg Cymry a mewnfudwyr Meirionnydd (alla i ddim siarad am Dwyfor, ond mae'n amlwg fod drwgdeimlad tuag at y Blaid yno hefyd, gan i ymgeiswyr cryf y Blaid golli eu seddi).

Ym Meirionnydd, mae'r Blaid wedi colli tir i Lais Gwynedd mewn ardal Gymraeg gadarn Plaid Cymru (Blaenau - 2 gynghorydd sir Llais Gwynedd... ac ie dwi'n gwbod mai cipio o Lafur wnaethpwyd yn un sedd, yn dilyn marwolaeth Ernest Williams, ond aeth Ernest ond i mewn yn wreiddiol oherwydd gwrthwynebiad personol i ymgeisydd Plaid (sydd bellach yn aelos LLG !!). Mae'r Blaid hefyd wedi colli tir a sedd yn ardaloedd Seisnig de y sir.

Mae Plaid Cymru hefyd wedi colli sedd yn ei chadarnle fwyaf - Llanuwchllyn, cartref Elfyn - i genedlaetholwr annibynol poblogaidd lleol.

Er bod Meirionnydd yn draddodiadol saff i Plaid, felly, does dim dwywaith fod potensial i PC wneud colledion yn yr etholaeth yn dilyn ffiasco cynllun Cyngor Gwynedd i gau ysgolion, ac felly mae'n gwbwl resymol i ddyfalu mai political positioning yw prif gymhelliad Elfyn wrth sefyll.


Rwy'n cytuno efo llawer yr wyt yn dweud Prysor. Yn ddi-os mae 'na anniddigrwydd yn erbyn Plaid Cymru ym Meirion (a Dwyfor hefyd, o bosib). Mae'r anniddigrwydd yn mynd yn ddyfnach nag achos cau ysgolion. Mae cau ysgolion megis peg cyfleus i grogi côt yr anniddigrwydd arno.

Mae cenedlaetholdeb pobl Meirion yn seiliedig ar frogarwch. Rwy'n caru Cymru oherwydd bod y trefi sydd agosaf at fy nghalon (Dolgellau a'r Bermo) yn digwydd bod yng Nghymru, yn yr un modd ag yr wyt ti yn caru Cymru fel y wlad sy'n cynnwys Traws a'r Blaenau. Ers dyddiau creu'r hen Sir Gwynedd ac yn sicrach ers creu'r Gwynedd newydd, mae yna deimlad ym Meirion bod y sir yn gwasanaethu Bangor a Chaernarfon yn hytrach na Thywyn a'r Bala, ac mae Plaid Caernarfon yw Plaid Cymru.

Yn ddi-os mae Llais Gwynedd wedi llwyddo i fwydo ar yr anniddigrwydd yna ac wedi denu nifer o bleidleisiau oddi wrth Blaid Cymru.

Petai Lais Gwynedd yn sefyll ymgeisydd Sansteffan ym Meirion, mi fydd Llais yn codi nifer fawr o bleidleisiau'r anniddig.

Mi fydd bron yn amhosibl i Lais codi digon o bleidleisiau i guro'r sedd. A gan fod bron pob un o seddi Llais wedi eu hennill mewn brwydrau lle nad oedd trydydd ymgeisydd (call) yn sefyll, teg yw tybied bod nifer o'r cynghorwyr wedi eu hethol ar bleidlais gan wrthwynebwyr cenedlaetholdeb: Torïaid a Llafurwyr yn cefnogi unrhyw un ond y Blaid!

Mewn etholiad lle bydd y Blaid yn sefyll yn erbyn Ceidwadwyr, Llafurwyr, Rhyddfrydwyr, UKIP y BNP a Llais Gwynedd, does dim modd i Lais cipio digon o bleidleisiau i roi'r sedd i un o'r pleidiau eraill chwaith.

Ar ben hynny mae Llais Gwynedd eisoes yn dioddef, mewn rhannau o Feirion, o fod yn llai brogarol nag oedd rhai yn tybied.

Llais Sir Gaernarfon yw Llais Gwynedd: gormod o sylw i Seimon, Gwynys ac Ali G! Lle mae Gwilym Euros, Daf Du neu Gethin yn y "set up"?

Ar y gorau gall Llais rhoi cic yng nghwd y Blaid yn Nwyfor-Meirionnydd, lleihau'r mwyafrif. Ond yn ddi-os Elfyn Llwyd bydd AS nesaf Dwyfor a Meirion.

Wrth gwrs gall "rhwyg" yn Nwyfor a Meirion cael effaith ar etholaethau eraill a rhoi tymor arall i Albert a Mark a cholli Arfon i Lafur, heb son am ddifrodi gobeithion y Blaid yn Aberconwy a Llanelli. Bydd hynny yn cael ei gyfrif fel llwyddiant, o ryw fath i Lais Gwynedd mae'n siŵr!
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Dafydd Iwan v Elfyn Llwyd

Postiogan Prysor » Mer 02 Gor 2008 9:57 am

Cytuno efo lot o be ti'n ddeud, HRF. Heblaw fod mwy na brogarwch yn ffactor yng nghefnogaeth Meirion (er ei fod yn ffactor cryf, yn ddi-os, yn enwedig yn ne y Sir).

Yng ngogledd Meirion mae cenedlaetholdeb Cymreig yn ffactor cyn gryfed, os nad cryfach, na brogarwch, fyddwn i'n deud.

Ond jysd i neud yn glir - tydw i ddim yn rhagweld Llais Gwynedd yn sefyll, heb son am ennill, sedd etholiad cyffredinol (Cymreig na Phrydeinig).

Dweud ydw i - fel tithau, dwi'n cymryd - fod Llais Gwynedd, fel y 'peg i hongian cot yr aniddigrwydd' (fel wyt yn ddweud) yn crisialu'r anniddigrwydd sydd efo Plaid Cymru, ac felly yn crisialu'r bygythiad i Plaid pe byddai'n parhau i fod yn esgeulus ac yn cadw at y llwybr penstiff a achosodd y fath chwalfa yn yr etholiadau sirol. Dyna sut mae Llais Gwynedd a'r anniddigrwydd ehangach wedi rhoi sgytwad i rai fel Elfyn Llwyd (os yw fy namcaniaeth o'i gymhelliad yn wir).

Ac wrth gwrs, mae unrhyw swing, ac unrhyw dent ym mwyafrif unrhyw Blaid yn newyddion drwg yn wleidyddol, ac yn cyfrannu at hinsawdd pelen eira, lle mae pobl - fel pac o gŵn - yn tueddu i droi ar y blaid sydd i'w gweld yn gwanio. Y meddylfryd "mae eraill yn teimlo fel fi, dwi'n iawn i feddwl ei bod yn cael ei haeddiant, stick the boot in!"

'Nip it in the bud' yw bwriad Elfyn, dybiaf.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Dafydd Iwan v Elfyn Llwyd

Postiogan osian » Mer 02 Gor 2008 10:23 am

Hen Rech Flin a ddywedodd:Wrth gwrs gall "rhwyg" yn Nwyfor a Meirion cael effaith ar etholaethau eraill a rhoi tymor arall i Albert a Mark a cholli Arfon i Lafur, heb son am ddifrodi gobeithion y Blaid yn Aberconwy a Llanelli. Bydd hynny yn cael ei gyfrif fel llwyddiant, o ryw fath i Lais Gwynedd mae'n siŵr!

Hm, dwi'n ama os fysa Llais Gwynedd yn 'sdyriad hynna yn llwyddiant rywsut...
fysa 'na rywun tu allan i Fon yn meddwl bod rhoi tymor arall i Albert Owen yn llwyddiant?
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: Dafydd Iwan v Elfyn Llwyd

Postiogan Hwntw Mawr » Sad 05 Gor 2008 10:24 pm

Yr hen gath ddu, rwyt ti'n llygad dy le ynglyn a Hywel Williams A.S. Mae ei din yn ddolurie byw rol iddo eistedd cyhyd ar y weiren bigog, un goes mewn un cae a'r goes arall yn hongian yn y cae dros y clawdd. Dyn eistedd ar y ffens fu efe o'r cychwyn. Sda fi ddim cof ohono yn y brwydre iaith etc pan oedd yn ifancach ac ni allaf hyd yn oed heddi ddwyn i gof unrhyw safiad gwiw dros Gymreictod yn San Steffan, fel holl ASau y Party of Wales. O leia, mae record Dafydd Iwan, er gwaetha'i annoethineb diweddar ar fater yr ysgolion, yn cymharu'n fwy na theilwng a record fregus HW (ac Elfyn Llwyd ran hynny). Gyrfa gaiff y flaenorieth mae gen i ofan.
Hwntw Mawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 17
Ymunwyd: Llun 04 Medi 2006 11:46 am
Lleoliad: Caerffili

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron