GT a ddywedodd:IDS, Thatcher, Heath mewn blynyddoedd cymharol ddiweddar - mae yna gryn restr os ydi dyn yn mynd yn ol i hanes y Blaid Doriaidd.
falle wir GT ond gad i ni ystyried y ffeithiau;
Thatcher 1990 - cangymeriad fe honnaf ond a fydde hi wedi ennill etholiad 1992? Ymddengys fod yna resymeg yn y penderfyniad (er y byddwn hefyd yn derbyn y byddai colli yn '92 wedi bod yn haws)
Heath - colli yn 1966 a cholli ddwy waith yn 1974. Cafodd ei gyfle dwi'n credu ac anodd honni fod yna unrhyw elfen dan din mewn disodlo arweinydd gollodd dri allan o bedwar etholiad.
IDS - dwi'n credu fod y wasg wedi cyfrannu'n helaeth at ddisodli IDS ac dwi hefyd o'r farn fod ganddo gyfraniad i'w wneud yn y Llywodraeth Geidwadol nesaf. Fodd bynnag o ytyried y naratif o'r wasg credaf fod y penderfyniad yn un pargmataidd fwy na dichelger.
GT a ddywedodd:'Dwi'n credu i Wigley ddweud iddo ymddiswyddo am resymau iechyd. Efallai dy fod ti yn credu, neu'n gwybod yn gwahanol - ond nid oes dadl mai cyllell a gafodd y tri uchod.
O tyrd flaen GT. Ti ddim yn ddiniwed a ti ddim yn dwp. Os ti'n pedlo'r spin cachlud am ymddiswyddo ar sail iechyd ti'n euog o fod yn hollo ddiniwed neu'n gwbl gelwyddog. I mi cyllell yng nghefn ydi cynllwynio yn erbyn arweinydd llwyddiannus sydd newydd ddychwelyd i'w waith yn dilyn salwch. Dyna ddigwyddodd i Wigley. Yn achos dy dri esiampl Ceidwadol da ni'n gallu cyd-weld (efallai) yn achos Thatcher ond nid felly Heath nac IDS a gafodd bleidlais agored - pa broses agored gafwyd efo cael gwared o Dafydd Wigley? Na, cyllell gafodd DW - ti'n gwybod hynny, dwi'n gwybod hynny ac hefyd pawb sy'n lled ymddiddori mewn gwleidyddiaeth Gymreig.
Wrth gwrs, yn wahanol i achos Thatcher cafodd Brutus dy Blaid wobr am ei drafferth hefyd!
GT a ddywedodd:'Does gen i ddim rheswm tros dy helpu di wrth gwrs - ond mae dy ddamcaniaethu ynglyn a chymhellion ELl yn weddol agos ati efallai. Mae gweddill y damcaniaethu yn methu'r targed o gryn dipyn.
Pa weddill? Un ddamcaniaeth dwi wedi gynnig sef fod Elfyn yn cachu brics ac felly am ymbellau oddi wrth DI cynted a phosib. Mae ymddygiad Plaid yng Ngwynedd ers yr etholiad hefyd yn dangos patrwm tebyg sydd, o safbwynt newidiadau polisi a bodlonrwydd i herio swyddogion, yn llawn haeddu cefnogaeth ta ots am y cymhelliad.
Ac felly yn ôl at y cwestiwn gwreiddiol (rhaid ateb sgwarnogod GT gan eu bod yn gymharol ddifyr) sut bu cefnogaeth Rhanbarth Arfon yn unfrydol i DI os ydi Hywel Williams yn aelod? Ddaru o newid ei feddwl? Oedd o'n sal? Ddaru o feth troi fyny?