Prysor a ddywedodd:Mae PC yn draddodiadol saff yn Meirionnydd-Dwyfor, ydi. Ond nid oherwydd ei chefnogwyr traddodiadol yn gyfangwbl, ond hefyd oherwydd cefnogaeth gryf o blith mewnfudwyr (mae Elfyn Llwyd a Dafydd El yn aelodau etholaeth cryf iawn - mi weithiant yn galed dros eu hetholaeth a'u hetholwyr).
Ond mae'r cynllun cau ysgolion yng Ngwynedd, ynghyd â esgeulusdod y Blaid yn ei hardaloedd 'saff' Cymraeg (fel Blaenau Ffestiniog, tref y mae Cyngor Gwynedd yn ei gadael i redeg i lawr i'r ddaear) yn bygwth bwyta i mewn yn sylweddol i bleidlais y Blaid ymysg Cymry a mewnfudwyr Meirionnydd (alla i ddim siarad am Dwyfor, ond mae'n amlwg fod drwgdeimlad tuag at y Blaid yno hefyd, gan i ymgeiswyr cryf y Blaid golli eu seddi).
Ym Meirionnydd, mae'r Blaid wedi colli tir i Lais Gwynedd mewn ardal Gymraeg gadarn Plaid Cymru (Blaenau - 2 gynghorydd sir Llais Gwynedd... ac ie dwi'n gwbod mai cipio o Lafur wnaethpwyd yn un sedd, yn dilyn marwolaeth Ernest Williams, ond aeth Ernest ond i mewn yn wreiddiol oherwydd gwrthwynebiad personol i ymgeisydd Plaid (sydd bellach yn aelos LLG !!). Mae'r Blaid hefyd wedi colli tir a sedd yn ardaloedd Seisnig de y sir.
Mae Plaid Cymru hefyd wedi colli sedd yn ei chadarnle fwyaf - Llanuwchllyn, cartref Elfyn - i genedlaetholwr annibynol poblogaidd lleol.
Er bod Meirionnydd yn draddodiadol saff i Plaid, felly, does dim dwywaith fod potensial i PC wneud colledion yn yr etholaeth yn dilyn ffiasco cynllun Cyngor Gwynedd i gau ysgolion, ac felly mae'n gwbwl resymol i ddyfalu mai political positioning yw prif gymhelliad Elfyn wrth sefyll.
Rwy'n cytuno efo llawer yr wyt yn dweud Prysor. Yn ddi-os mae 'na anniddigrwydd yn erbyn Plaid Cymru ym Meirion (a Dwyfor hefyd, o bosib). Mae'r anniddigrwydd yn mynd yn ddyfnach nag achos cau ysgolion. Mae cau ysgolion megis
peg cyfleus i grogi côt yr anniddigrwydd arno.
Mae cenedlaetholdeb pobl Meirion yn seiliedig ar frogarwch. Rwy'n caru Cymru oherwydd bod y trefi sydd agosaf at fy nghalon (Dolgellau a'r Bermo) yn digwydd bod yng Nghymru, yn yr un modd ag yr wyt ti yn caru Cymru fel y wlad sy'n cynnwys Traws a'r Blaenau. Ers dyddiau creu'r hen Sir Gwynedd ac yn sicrach ers creu'r Gwynedd newydd, mae yna deimlad ym Meirion bod y
sir yn gwasanaethu Bangor a Chaernarfon yn hytrach na Thywyn a'r Bala, ac mae
Plaid Caernarfon yw Plaid Cymru.
Yn ddi-os mae Llais Gwynedd wedi llwyddo i fwydo ar yr anniddigrwydd yna ac wedi denu nifer o bleidleisiau oddi wrth Blaid Cymru.
Petai Lais Gwynedd yn sefyll ymgeisydd Sansteffan ym Meirion, mi fydd Llais yn codi nifer fawr o bleidleisiau'r anniddig.
Mi fydd bron yn amhosibl i Lais codi digon o bleidleisiau i guro'r sedd. A gan fod bron pob un o seddi Llais wedi eu hennill mewn brwydrau lle nad oedd trydydd ymgeisydd (call) yn sefyll, teg yw tybied bod nifer o'r cynghorwyr wedi eu hethol ar bleidlais gan wrthwynebwyr cenedlaetholdeb: Torïaid a Llafurwyr yn cefnogi unrhyw un ond y Blaid!
Mewn etholiad lle bydd y Blaid yn sefyll yn erbyn Ceidwadwyr, Llafurwyr, Rhyddfrydwyr, UKIP y BNP a Llais Gwynedd, does dim modd i Lais cipio digon o bleidleisiau i roi'r sedd i un o'r pleidiau eraill chwaith.
Ar ben hynny mae Llais Gwynedd eisoes yn dioddef, mewn rhannau o Feirion, o fod yn llai brogarol nag oedd rhai yn tybied.
Llais Sir Gaernarfon yw Llais Gwynedd: gormod o sylw i Seimon, Gwynys ac Ali G! Lle mae Gwilym Euros, Daf Du neu Gethin yn y "set up"?
Ar y gorau gall Llais rhoi cic yng nghwd y Blaid yn Nwyfor-Meirionnydd, lleihau'r mwyafrif. Ond yn ddi-os Elfyn Llwyd bydd AS nesaf Dwyfor a Meirion.
Wrth gwrs gall "rhwyg" yn Nwyfor a Meirion cael effaith ar etholaethau eraill a rhoi tymor arall i Albert a Mark a cholli Arfon i Lafur, heb son am ddifrodi gobeithion y Blaid yn Aberconwy a Llanelli. Bydd hynny yn cael ei gyfrif fel llwyddiant, o ryw fath i Lais Gwynedd mae'n siŵr!