Oes rhywun arall wedi darllen adroddiad Cymdeithas Cledwyn...
Cymdeithas Cledwyn (Plaid Lafur)
Y Fro: Ennill pleidleisiau yn y Gymru Gymraeg
Mehefin 2008
http://www.welshlabourmeps.org.uk/downl ... AL-Cym.pdf
Cymedrolwr: Mr Gasyth
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Oes rhywun arall wedi darllen adroddiad Cymdeithas Cledwyn...
Cymdeithas Cledwyn (Plaid Lafur)
Y Fro: Ennill pleidleisiau yn y Gymru Gymraeg
Mehefin 2008
http://www.welshlabourmeps.org.uk/downl ... AL-Cym.pdf
Dylai’r Blaid Lafur yng Nghymru fod yn ffyddiog nad magwrfa i gefnogwyr y
cenedlaetholwyr yw ysgolion Cymraeg. Gallwn ni sicrhau hynny drwy annog
cefnogwyr Llafur i ymwneud yn weithgar â rheoli eu hysgolion cyfrwng Cymraeg
lleol.
Rhys Llwyd a ddywedodd:Hwn yw fy hoff ran i ohono:Dylai’r Blaid Lafur yng Nghymru fod yn ffyddiog nad magwrfa i gefnogwyr y
cenedlaetholwyr yw ysgolion Cymraeg. Gallwn ni sicrhau hynny drwy annog
cefnogwyr Llafur i ymwneud yn weithgar â rheoli eu hysgolion cyfrwng Cymraeg
lleol.
Hynny yw y dylai cefnogwyr Llafur ymwneud yn weithgar â rheoli eu hysbolion cyfrwng Cymraeg a parhau i fwydo'r plant a phropeganda Prydain, cario mlaen a ddysgu am hanes Lloegr ac nid Hanes Cymru etc etc... ych.
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dwi'm wedi gallu darllen y ddogfen yn fanwl, ond o beth y medra' i weld ac o beth dwi wedi clywed 'does fath o gyfeiriad at y ffaith bod y Blaid Lafur yn cael ei hamgyffred fel plaid wrth-Gymraeg ymhlith siaradwyr Cymraeg. Does dim dwi wedi'i glywed o du Llafur yn cydnabod hynny; yn wir maen nhw'n wfftio'r syniad.
Os maen nhw wir am ennill ardaloedd Cymraeg, a phleidleisiau Cymry Cymraeg ledled Cymru, yn ôl, rhaid iddyn nhw gydnabod y ddirnadaeth honno. Da gweld hyd yn oed ar eu gwannaf ei bod yn rhy falch i fedru gwneud hynny. Dweud y cyfan, dydi.
johnkeynes a ddywedodd:Lot o eiriau cynnes yn yr adroddiad - ond a fyddent yn eu weithredu?
Rhys Llwyd a ddywedodd:Hwn yw fy hoff ran i ohono:Dylai’r Blaid Lafur yng Nghymru fod yn ffyddiog nad magwrfa i gefnogwyr y
cenedlaetholwyr yw ysgolion Cymraeg. Gallwn ni sicrhau hynny drwy annog
cefnogwyr Llafur i ymwneud yn weithgar â rheoli eu hysgolion cyfrwng Cymraeg
lleol.
Hynny yw y dylai cefnogwyr Llafur ymwneud yn weithgar â rheoli eu hysbolion cyfrwng Cymraeg a parhau i fwydo'r plant a phropeganda Prydain, cario mlaen a ddysgu am hanes Lloegr ac nid Hanes Cymru etc etc... ych.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai