Tshiffalaffs a ddywedodd:Mae magu plant - a faint o blant rydych chi'n dewis eu cael - wrth gwrs yn fater personol, a phreifat.
Ydy o ? Oes gan bobl hawl i blanta heb falio am edrych ar eu hol, nag am ddyfodol y gymdeithas ? Yma yn y dwyrain canol mae'na fom-amser aruthrol yn datblygu yn sydyn iawn, gan na fedr y brodorion uno fel cymdeithas a camu allan o'u harferion tylwythol, sef trio cael gymaint o hogiau a fedran nhw, er mwyn creu 'tylwyth cryf'. Maent yn gweld plant fel cyfoeth - h.y. mwy o blant gei di, cyfoethocaf y byddi pan yn hyn, gan y byddent i gyd (yr hogiau) yn gyrru arian i ti i dy gadw. Mae hyn hefyd yn golygu y cei roi gorau i weithio yn ieuengach cyn gynted fod gennyt ddigon o feibion yn gweithio. Mae rhai o'r brodorion addysgedig yn dechrau cael teuluoedd llai, ond mae'r rhan fwyaf ohonynt yn planta cyn gynted ag y gallent. Credaf mai chwech neu saith plentyn ydy'r norm yma.
7/2=3.5 bob cenhedlaeth
7, 24.5, 85.75, 300
O un cwpwl i 300 o bobl mewn 4 cenhedlaeth. Dewis personol a phreifat ?