Cymedrolwr: Mr Gasyth
Tshiffalaffs a ddywedodd:Mae magu plant - a faint o blant rydych chi'n dewis eu cael - wrth gwrs yn fater personol, a phreifat. Eto i gyd, y gwir amdani yw bod y dewis mae'r rhieni'n eu gwneud yn effeithio arnom ni fel cymdeithas. Mae'n costio i'r trethdalwyr trwy'r budd-daliadau, mae'n rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau addysg ac iechyd, mae hefyd yn costio mwy nes ymlaen o ran torcyfraith ac 'ymddygiad gwrthgymdeithasol', heb sôn am y ffwdan i'r bobl sy'n gorfod byw o gwmpas y teulu hwn. Ac fel ateb i sylw Prysor a dwedodd mod i'n rhy barod i feirniadu a neidio i gasgliadau, wel i ba gasgliadau ddylwn i fod wedi dod? Ydy'r plant yn y rhaglen yn cael chwarae teg? Ydy nhw'n cael gofal a magwraeth go iawn? Ydy nhw'n cael eu dysgu sut i ymddwyn yn iawn y tu allan i'r cartref? Ydy'r plant yn cael cefnogaeth i lwyddo o ran addysg a datblygiad personol? Mwy na thebyg, bod yn rhiant yw'r jobyn pwysicaf yn y byd a sut allwn ni ddisgwyl i'r plant hyn fod yn rhieni tamaid gwell i'w plant os taw dyma yw ei profiad nhw o rianta? Roedd rhai o'r wyrion yn byw yn y ty gyda nhw - felly, mae'r niwed yn cyrraedd y genedlaeth nesaf yn barod! Ar bwy mae'r cyfrifoldeb? Yr athrawon? Yr heddlu? Y Cynulliad? Beth am y cwmni a gynhyrchodd y push-chair a thorodd o dan bwysau'r holl duniau o Strongbow?

eifs a ddywedodd:£27k y flwyddyn mewn benefits neud i mi deimlo braidd yn sal
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai