Prifysgol Glyndwr

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Prifysgol Glyndwr

Postiogan HuwJones » Mer 16 Gor 2008 11:46 am

Tra fod Prifysgol Bangor wedi dropio'r "Cymru" o'i teitl mae 'Wrecsam Tec' yn newid ei enw i Brifysgol Glyndwr
http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_7500000/newsid_7508300/7508325.stm

Gallwn fod â balchder yn ein cysylltiad ag Owain Glyndŵr," meddai'r prifathro, Yr Athro Mike Scott.
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: Prifysgol Glyndwr

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sad 19 Gor 2008 7:46 pm

Warthus. Coleg Technegol Wrecsam yn dwyn yr enw "Prifysgol Glyndwr"? Swn i'n credu mai "Prifysgol Dyffryn Dyfrdwy" fasai'n addasach. A be dy'r fersiwn Saesneg - "Waterdene University"?
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Prifysgol Glyndwr

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 20 Gor 2008 10:12 am

Chwarae teg iddynt am ddewis yr Enw Prifysgol Glyndwr. Onid oedd Glyndwr yn wreiddiol o ardal Wrecsam?

Yn ôl sôn, mae'r unoliaethwyr yn yr ardal wedi bod yn cwyno am yr enw 'cenedlaetholgar' newydd yma

Cysylltwch gyda Swyddfa'r Wasg Prifysgol Glyndwr i'w llongyfarch: 01978290666 / press@newi.ac.uk

Dwi wedi, a derbyn yr ymateb yma:

Diolch am eich geiriau caredig. Pe hoffech dderbyn ein taflen am yr enw yr ydym wedi'i ddewis, anfonwch eich cyfeiriad post atom. Bydd manylion yn cael eu rhoi ar ein gwefan cyn hir hefyd.

Mae'n gyfnod cyffrous i ni ac yr ydym yn falch iawn o dderbyn eich cefnogaeth.


Dyma esboniad ar wefan Prifysgol Glyndwr yn esbonio pam ddewiswyd yr enw.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Prifysgol Glyndwr

Postiogan huwwaters » Sul 20 Gor 2008 10:43 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Chwarae teg iddynt am ddewis yr Enw Prifysgol Glyndwr. Onid oedd Glyndwr yn wreiddiol o ardal Wrecsam?

Yn ôl sôn, mae'r unoliaethwyr yn yr ardal wedi bod yn cwyno am yr enw 'cenedlaetholgar' newydd yma


Dyma be o ni'n meddwl.

Fydd yn codi ymwybyddiaeth am yr unigolyn yma ymysg pobol yr ardal.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Prifysgol Glyndwr

Postiogan S.W. » Sul 20 Gor 2008 11:20 am

Sioni, nid Coleg Technegol Wrecsam ydy hi bellach, di heb fod yn Goleg Technegol ers lot! Prifysgol ydy hi ers ddydd Gwener, ac er nad ydw i'n ffan yn bersonol o'i enwi'n Brifysgol - byddai'n well gen i ei weld yn cael ei alw'n Brifysgol Wrecsam, ac enwi'r campws yn Campws Glyndwr, does dim byd yn warthus o gwbl yn Wrecsam yn gwneud hyn yn hytrach nag unrhyw sefydliad arall.

Bydde Prifysgol Dyffryn Dyfrdwy braidd yn wirion o feddwl nad yw'r dre, sef ble mae'r Brifysgol newydd wedi ei leoli yn ran o Ddyffryn Dyfrdwy!

I ymateb i bwynt Hedd, o Lyn Dyfrdwy oedd Owain Glyndwr yn dod sy'n ran o Sir Ddinbych, ond tafliad carreg o Wrecsam ydy hynny a roedd ganddo hefyd gysylltiadau a ardal Hanmer sydd ar gyrion y dref. Felly mae'r cysylltiadau rhwng Owain Glyndwr a'r dre a'r Sir yn rhai amlwg.

Mae rhai Unoliaethwyr yn siwr o gwyno, ond o be dwi wedi ei weld mae'r trwch yn hapus iawn a'r enw felly dwi'm yn gweld o'n cael ei newid.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: Prifysgol Glyndwr

Postiogan Seonaidh/Sioni » Llun 21 Gor 2008 9:58 pm

Wel, chwarae teg - mae na gyswllt. Ond rhaid gyfadde fod yn gas gen i weld prifysgolion newyddion yn cymryd enwau pobl, e.e. Oxford Brookes, De Montfort, Heriot Watt, Brunel. Nid jest prifysgolion, neu lefydd newydd - Robert Gordon Institute of Technology, Rutherford College, Lady Margaret Hall - ac lle dw i'n aros mae'r hen Fife College a'r hen Glenrothes College wedi ymuno a ffurfio - Adam Smith College! Ych a fi!
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha


Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 31 gwestai

cron