Dwi'n gweithio mewn llywodraeth leol, ac rydw i wedi bod yn streicio ddoe a heddiw.
Tydw i ddim yn hoff iawn nac yn aelod o unison nac yn gefnogol o'r streic yma, ond toeddwn i ddim am groesi'r llinell biced.
Yn bersonol, dwi'm yn gweld fod 6% yn unman agos i realistig ar hyn o bryd. Yndi mae 2.45% o dan chwyddiant, ond ffordd dwi'n ei gweld hi, mae'n godiad yn yr hyn dwi'n mynd adref bob mis. Yn edrych ar y newyddion heddiw, yn gweld fod 23 yn colli eu swyddi yn y Bala, roedd jyst yn neud i fi deimlo'n hollol embarrased o fod yn gweithio i'r Cyngor, sy'n streicio dros beth mor bathetig ar amser pan mae cymaint, drwy'r wlad yn colli eu gwaith oherwydd stad yr economi. jyst dros 50% o aelodau unsain wnaeth bleidleisio wneud dros ymgyrchu diwydiannol. Beth wnaeth wylltio fi yw na wnaeth unsain gyhoeddi'r canran wnaeth bleidleisio. Y llynedd ni gafwyd streic gan nad oedd digon o fandad oherwydd ymateb gwael i'r ballot. Dwi'n amau fod yr ymateb yn wael dros ben eto, a dyna pam na gyhoeddwyd y nifer a bleidleiswyd.
Fel ddudis i, dwi dim yn hoff o unsain, mae'r geiriau piss-up a brewery yn dod i'r meddwl mewn gwirionedd. Mae'r streic yma dros ein cyflogau o ebrill 08 ymlaen - mae hi'n ffycin ganol Gorffennaf yn barod. Gyda chwyddiant fel mae, a llog da i gal ar arbedion - byddai cael 2.45% yn ol yn mis ebrill werth dros 3% erbyn rwan dybiwn i.
Y realiti ydi nad yw'r broses negodi cyflogau yn gweithio. mae'n gostus i'r trethdalwyr ac i aelodau'r undebau - hen bryd dod i gytundebau hir -dymor, nid ar ffigwr penodol, ond fel rhyw gyfaddawd rhwng y ffigyrau CPI ac RPI (achos y ddau ffigwr yma, sydd ddim mor bell o'u gilydd, sydd wastad yn sail y dadlau plentynaidd, yn cymryd misoedd i'w datrys), fel fod pawb yn gwybod ble maent yn sefyll. ond wrth gwrs.....fyddai gan arweinwyr yr undebau ddim i gyfianwhau eu cyflogau wedyn amwn i na fyddai!!