Prysor a ddywedodd:o ia - a pham ddylai Dan O'Neill draferthu i fwytho'i gath a chwerthin ar y 'Cymry croendenau' (dy eiriau di, Gymro) pan fo ganddo - ynot ti - ladmerydd perffaith i wneud y gwaith drosto?
Haha. Gen ti a Dan O'Neill rywbeth yn gyfarwydd, dweud pethau gwirion er mwyn cael ymateb
Pe bai Dan O'Neill yn ddyn sy'n sgwennu'n gall fel arfer ond gyda sglodyn mawr ar ei ysgwydd ynglyn a'r Gymraeg fe fyddwn i'n cytuno bod angen ei roi yn ei le. Ond dyma ddyn sy'n mynd ati i weindio pawb i fyny - dw i'n cofio darllen colofn ganddo unwaith lle'r oedd o'n argymell lladd cathod! Cue llong bag post o gwynion gan bobol sy'n caru cathod. A erthygl arall ble'r oedd o'n dadlau na ddylai merched gael mynd i gemau rygbi. Cue llond bag post o gwynion gan ferched sy'n hoffi rygbi. Ydach chi'n gweld y patrwm eto?
Oes ma na rai loonies yn mynd i ysgrifennu i mewn i gytuno gyda fo. Ambell un yn casau cathod hefyd, ambell un yn casau'r iaith, ambell un (gan gynnwys fy nhad cu innau) i gytuno na ddylai merched gael mynychu i gemau rygbi (go iawn!). Hen bobol o oes wahanol ydyn nhw, a dyw eu barn lleiafrifol a henffasiwn nhw ddim yn arbennig o berthnasol bellach.