maes b a ddywedodd:benni hyll a ddywedodd:Dwi siwr o fod yn mynd i gymlethu pethau rwan (oni bai bod rhywun o a) Clwb Ifor neu b) Maes B neu c) Cymdeithas yn medru ymateb i glirio'r pwynt 'ma fyny) ond yn ystod y flwyddyn ddiwetha' dwi wedi bod i gig wedi trefnu gan Maes B oedd a'r bwriad o godi ymwybyddiaeth o'r Steddfod. Roedd y gig Maes B yn Clwb yn weddol ddiweddar gyda Derwyddon yn chwarae, ac roedd hi'n gig 14+. Roedd hi ar nos Wener ac roedd hi'n gorffen am tua 11.30pm. Gig oedd hi lle oedd y bobl dros 18 yn cael 'band garddwn' oedd yn nodi eu BOD nhw dros 18 ac felly, pan oedden nhw'n mynd i'r bar, roedd staff y bar yn gwybod eu bod nhw di cael eu "i.d.-o" yn barod, a hynny ar y drws gan y bouncers. Dyma'r drefn arferol mewn UNRHYW noson 14+ yn y ddinas (yr un drefn yn y Barfly er enghraifft).
Felly, os ydy'n bosib i hwnna ddigwydd ar nos Wener yn Clwb ar noson gafodd ei threfnu gan Maes B, pam nad yw'r Gymdeithas wedi gallu sicrhau'r fath drefniant ar gyfer gigs y Steddfod? Jyst gofyn ydw i, ella bod 'na ateb syml i hwn i gyd, ond ar ol bod yn y gig 14+ 'na cwpl o fisoedd yn ol, oni'n meddwl taw dyna fydde'r ffordd ymlaen gyda gigs y Steddfod yn Clwb, fel mae garyrefail wedi crywbyll, gan fod Clwb Ifor YN paratoi gigs o'r math beth bynnag trwy gydol y flwyddyn.
Unrhywun a'r ateb plis?
I neud pethe'n glir o ran gigs 14 + - ma nhw yn cael ei gynnal yn Clwb Ifor & yn yr Undeb OND ma angen iddynt orffen erbyn 11pm er mwyn ufuddhau efo rheolau trwyddedu.
O brofiad ma gigs Cymraeg sy'n gorffen yn gynnar yn anodd i ddenu cynulleidfa iddo felly yn ymarferol i'r Gymdeithas a Maes B ma disgwyl i'r gigs fynd ymlaen yn hwyr (2am yn achos Maes B).
Y drefn arferol gyda'r Undeb ar gyfer gigs sy'n gorffen wedi 11pm ydi bod pawb gorfod bod dros 18. Mi o'n i'n ymwybodol o hyn pan cafodd y lle ei archebu felly dyma ni yn mynd ati i drafod efo'r undeb a'r awdurdodau i weld os oedd modd sicrhau cael mynediad i bobl dros 16oed. Dyma ni'n llwyddo i wneud hyn ond fel da chi'n gwybod ma an amodau penodol o ran prynu alcohol mewn lle.
Gobeithio bod hyn yn neud pethe'n gliriach.
Diolch, Maes B! Felly, atebion gan Maes B a'r Gymdeithas; garyrefail - wyt ti'n hapus?!