Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan geryrefail » Gwe 18 Gor 2008 10:14 am

Ydyw hi'n rhy hwyr i newid pethau ar gyfer y Steddfod?

Yn siomedig bythefnos yn ol i weld Gigs Mici Plwm yn gwahardd pobl dan 18 oed. Ond dim ots, gigs i rinclis oedd ei fwriad yn y lle cyntaf. Roeddwn yn siwr y byddai popeth yn iawn - gigs y Gymdeithas a Gigs Maes B yn dal i fod yn OK. Dychmygwch y siom ar wynebau'r 5 person ifanc sy'n dod i'r steddfod dan fy ngofal pan sylweddolon nhw wrth ddarllen Golwg bod neb dan 16 yn cael mynd i Gigs Maes B a neb dan 18 i rai'r Gymdeithas.

Gwarth ar bob un ohonoch y trefnwyr. Bydd criwiau mawr o bobl ifanc yng Nghaerdydd dros y Steddfod yn mynd i weld South Pacific, Batman, ac unrhywbeth arall y gallan nhw fynd iddo gyda'r nos - am fod y Cymry yn methu ag edrych ar ol ein pobl ifanc adeg yr Eisteddfod. Oes syndod bod ein gigs yn wag? Ble bydd yr iaith ymhen cenhedlaeth os mai ysgol yn unig sydd ar gael i Gymreigio'n pobl ifanc? Stopiwch ffysian am safbwynt ieithyddol Boots a Tesco os na allwch ddangos ffordd bositif i'n hifanc adeg y Steddfod.

Rwy'n wirioneddol gandryll - roedd gofalu am 5 person 14-15 oed yn mynd i fod yn OK wrth fynd a'u gadael mewn gigs a'u casglu am 1 y bore. Efallai byddai'n well i mi fynd a nhw i Lorient yn lle Caerdydd adeg Eisteddfod eleni - o leia mae pob ymdrech yn cael ei wneud (yn erbyn y cerrynt) i ddenu'r ifanc yn Llydaw.

Cywilydd ar Gymdeithas yr Iaith a chywilydd ar drefnwyr Maes B.

Ger
geryrefail
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 8
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2008 9:37 pm

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan Cardi Bach » Gwe 18 Gor 2008 10:22 am

geryrefail a ddywedodd:Ydyw hi'n rhy hwyr i newid pethau ar gyfer y Steddfod?

Wy'n cydymdeimlo a'th safbwynt di, ond nid rheol Cymdeithas yr Iaith yw rhwystro pobl dan 18 rhag mynychu, ond rheol y lleoliad. Yr un modd felly hefyd Maes B yn yr Undeb Myfyrwyr mae'n siwr. Mae'n bur debyg ei fod yn rhan o amod eu trwyddedau.

A ddylid wedi eu trefnu yn rhywle arall? Wel galla i ddim siarad ar ran y Gymdeithas, ond o adnabod y trefnwyr ac o fod wedi cynorthwyo i drefnu yn y gorffenol rwy'n siwr eu bod nhw wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau y trefniant gorau posib.

Bydden i feddwl y dylid cyfeirio dy lid tuag at adran drwyddedu yr awdurdod lleol.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan sian » Gwe 18 Gor 2008 10:39 am

Mae hwn yn bwynt pwysig iawn. Beth yn union mae pobl ifanc 12-15 oed i fod i neud gyda'r nos yn Steddfod?
Roedd Maes C yn dda iawn llynedd ond dydi Mynediad am Ddim a Delwyn Siôn ddim wir yn apelio at yr oed yna!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan dawncyfarwydd » Gwe 18 Gor 2008 10:53 am

sian a ddywedodd:Mae hwn yn bwynt pwysig iawn. Beth yn union mae pobl ifanc 12-15 oed i fod i neud gyda'r nos yn Steddfod?
Chitty Chitty Bang Bang.

Y broblem ydi bod maes b wedi bod, yn answyddogol, yn derbyn yn llawen blantos bychain ac yn darparu intocsiceshon iddyn nhw, ne o leia ddim yn eu rhwystro nhw rhag meddwi. Rwan bod dim posib bod yn answyddogol, maen nhw mewn twll. Yn ddigon haeddiannol a deud y gwir.

Ella neith hyn yn siwr fod 'na gigs Frizbee a Vanta i dinejyrs o hyn ymlaen, mewn rhyw le disgo. Sa hynny'n win-win yn bysa. Sa'r lle yn hifing, sa gigs Steddfod yn rhydd o blant dosbarth canol meddw, sa plant dosbarth canol yn cael eu hyfforddi yn y grefft o fynd i maes b ond heb yr anfoesoldeb, a sa'u rhieni nhw yn cael meddwi'n ffri a dibryder.

Ew, dwi'n hypocrit. Ond dwi jyst ddim yn licio'r teip Glanaethwyaidd del iei-steddfod-so-gai-yfad talentog ar-chwal.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan geryrefail » Gwe 18 Gor 2008 10:55 am

Diolch am yr ymateb - ond oni ddylai ymwneud a'n pobl ifanc fod yn un o nodau a blaenoriaethau'r Gymdeithas a Maes B?

Mae pobl yn arddegau yn mynd i gigs yn rheolaidd yng Nghaerdydd - felly mae hi weld yn gwbl boncyrs bod wythnos y Steddfod yn un lle mae nhw'n cael eu gwahardd - hyd yn oed os awn nhw gydag oedolyn.

Rwy wedi bod a phobl 14-15 oed i weld pob math o fandiau dros y blynyddoedd diwethaf ac mi fyddwn yn hapus i'w llofnodi nhw i mewn ar gyfer gigs steddfod. Mae'r ffaith nad oes hyd yn oed opsiwn o wneud hynny yn ddim byd llai na gwarth.

Ger :ing:
geryrefail
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 8
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2008 9:37 pm

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 18 Gor 2008 11:10 am

Ger, Clwb yw clwb Ifor bach, a fel pob clwb arall rhaid fod yn 18+ i fynychu. O'r hyn ddeallaf dyna yw'r rheol trwy gydol y flwyddyn. Dwi'n siwr dy fod yn iawn bod rhai pobl dan-18 yn mynd i gigs yno yn rheolaidd, ond dim ond y rhai sy'n edrych 18+. Mae wastad potensial i'r bownsars ofyn am ID. Dyma'r rheol ar gyfer tafarndai yn gyffredinol o'm mhrofiad i, yn enwedig gyda'r hwyr. Does dim llawer o ganolfannau i gael yng Nghaerdydd, ac fe gollodd y Gymdeithas un o'r canolfannau hynny 'The Point' ar y funud olaf.

Mae'r Gymdeithas wedi llwyddo i ganiatau pobl 14+ i gael mynediad ar y Nos Sul.

Dwi'n cytuno bod angen adloniant gyda'r hwyr i bobl ifanc 12-16ish, efallai gigs di-alcohol rhwng 7-11 neu rhywbeth, ond a fyddai pobl ifanc WIR eisiau mynd i ddigwyddiadau o'r fath?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan dawncyfarwydd » Gwe 18 Gor 2008 11:30 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Dwi'n cytuno bod angen adloniant gyda'r hwyr i bobl ifanc 12-16ish, efallai gigs di-alcohol rhwng 7-11 neu rhywbeth, ond a fyddai pobl ifanc WIR eisiau mynd i ddigwyddiadau o'r fath?
Wrth gwrs ddim - ond mi fysa'u rhieni isio iddyn nhw fynd, a dwi'n credu bod cyfrifoldeb ar y Steddfod i ddarparu ar gyfer y grwp oedran yma. Mae o'n un o'r rhai mwya sensetif, a gofyn am drwbwl ydi peidio darparu dim o gwbwl ar ei gyfer o - dwi'n cymryd bod y maes campio yn agored i bawb, so fydd plant 14-16 oed yn fanno'n meddwi a chavs Caerdydd yn cymyd mantais ar genod bach ni.

Er mwyn osgoi unrhyw fai y dylai'r Steddfod wneud hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 18 Gor 2008 12:17 pm

Yr ateb amlwg yw venue di-alcohol ond yn anffodus mae alcohol yn bwysicach na'r gerddoriaeth a'r diwyllian. Trist.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 18 Gor 2008 12:23 pm

Yr ateb amlwg ydi gofyn am ID, swni'n feddwl. :?
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan Norman » Gwe 18 Gor 2008 1:02 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Clwb yw clwb Ifor bach, a fel pob clwb arall rhaid fod yn 18+ i fynychu. O'r hyn ddeallaf dyna yw'r rheol trwy gydol y flwyddyn.

Na dwi'm yn meddwl - eitha pendant mod i di gweld nosweithiau ar gyfer pobl dan 18 yn CIB. O ran diddordeb, beth oedd y trefniant am fod yn y Point ?
allan o afal dy gyrraedd dychmygol
|
Chwyliwch amdanai ar Flickr, YouTube, Ebay, Facebook, MySpace, Fotopic & Strydoedd Caerdydd!
Rhithffurf defnyddiwr
Norman
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1335
Ymunwyd: Mer 10 Medi 2003 6:44 pm
Lleoliad: Porthmadog/Caerdydd

Nesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 32 gwestai