Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan ceribethlem » Gwe 18 Gor 2008 1:10 pm

Norman a ddywedodd:
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Clwb yw clwb Ifor bach, a fel pob clwb arall rhaid fod yn 18+ i fynychu. O'r hyn ddeallaf dyna yw'r rheol trwy gydol y flwyddyn.


Na dwi'm yn meddwl - eitha pendant mod i di gweld nosweithiau ar gyfer pobl dan 18 yn CIB.

Nosweithi penodol dan 18 yw rhwini nage fe? H.y. nosweithi di-alcohol, os oes alcohol ar werth yna maent yn nosweithi 18+. A fel dywed Hedd does dim galw am gigs steddfod di-alcohol.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan geryrefail » Gwe 18 Gor 2008 1:16 pm

Mae'r awgrym na fyddai pobl ifanc yn cael mynd i mewn yn gyfreithlon i gigs yn y ddinas yn nonsens. Yn ystod tua'r flwyddyn ddiwethaf rwy wedi gyrru fy mhlant i weld Boyzone, Dolly Parton, Muse, Leona Lewis, Madonna, Springsteen, Y Stereophonics ayyb.

Mae'n dechrau dod yn amlwg i mi bod Eitha Tal Ffranco a Cowbois Rhos Botwnnog yn llawer rhy beryglus i bobl ifanc Cymru.

Ydy hi'n wir fod Cymdeithas yr Iaith nawr yn rhoi elw alcohol o flaen dyfodol ein diwylliant? Ateb ar gerdyn post os gwelwch yn dda

ger
geryrefail
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 8
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2008 9:37 pm

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan sian » Gwe 18 Gor 2008 1:33 pm

geryrefail a ddywedodd:Ydy hi'n wir fod Cymdeithas yr Iaith nawr yn rhoi elw alcohol o flaen dyfodol ein diwylliant? Ateb ar gerdyn post os gwelwch yn dda


Er tegwch â'r Gymdeithas, dyma'r cyfle gorau y maen nhw'n ei gael mewn blwyddyn i wneud tipyn bach o arian.
Dw i'n meddwl bod mwy o gyfrifoldeb ar y Steddfod ei hunan.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan dawncyfarwydd » Gwe 18 Gor 2008 1:42 pm

geryrefail a ddywedodd:Ydy hi'n wir fod Cymdeithas yr Iaith nawr yn rhoi elw alcohol o flaen dyfodol ein diwylliant? Ateb ar gerdyn post os gwelwch yn dda
Wyt ti'n dweud y dylai gigs y Gymdeithas fod yn ddi-alcohol felly?
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 18 Gor 2008 1:49 pm

geryrefail a ddywedodd:Ydy hi'n wir fod Cymdeithas yr Iaith nawr yn rhoi elw alcohol o flaen dyfodol ein diwylliant? Ateb ar gerdyn post os gwelwch yn dda


Iesu goc, dyma ydi anwybodaeth!

Tydi'r Gymdeithas ddim wedi gweld ceiniog o'r arian sy'n cael eu gwario ar alcohol yn eu gigs erioed hyd y gwn i. Pres y drws sy'n mynd i'r Gymdeithas (i gyfro costau, nid gwneud elw!) felly os rywbeth mae polisi 18+ yn anfanteisiol iddyn nhw.

Y lleoliad, boed o'n glwb, tafarn, clwb rygbi sy'n elwa o arian y bar, nhw sydd a'r drwydded a nhw felly sydd yn gyfrifol am y polisi mynediad.

Pam wyt ti mor awyddus i dy blant fynd allan i yfed Ger? Pan oeddwn i'n 16 roedd fy rhieni yn gneud pob ymdrech i'm cadw allan o dafarndai, ac yn gwaredu ar sut oedden ni'n cael ein gadael i mewn o gwbl!
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan Darth Sgonsan » Gwe 18 Gor 2008 1:54 pm

sian a ddywedodd:Roedd Maes C yn dda iawn llynedd ond dydi Mynediad am Ddim a Delwyn Siôn ddim wir yn apelio at yr oed yna!


ma Hanner Pei yn chwara Maes C nos Sadwn ola - tipyn mwy hip na'r Myneds a Delwyn, weden ni...ar ol tri blantos, 'hanar pei i ddiwadd y bydymdym
He who makes a beast of himself gets rid of the pain of being a man
Darth Sgonsan
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 736
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:43 am
Lleoliad: yn pesgi ar farwolaeth mamwlad dlawd

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan S.W. » Gwe 18 Gor 2008 2:03 pm

Mae 'na glwb nos yn Wrecsam,. Central Station sy'n aml yn trefnu gigs hefo bandiau mawr Saesneg - Funeral For a Friend oedd dwetha dwi'n meddwn, ble mae modd mynd yno os ydych yn 14+, mae'r bar dal ar agor, mae'r rhai dros 18 yn dal i yfed. Mae'r clwb yn rhoi band garddwn a llwiau arbennig i bobl wrth iddynt ddod drwy'r drws, bandiau sy'n dangos oedran y pobl sy'n dod i fewn ac yn amlwg i staff y bar a bouncers ac ati iw gweld. Mae'n siwr gen i fod yr un trwydded gan Clwb Ifor ag sydd gan y lle yma.

Efallai y dylid edrych os oes digon o amser i edrych i fewn i hyn ar gyfer y gigs hyn, neu os nad oes amser edrych i fewn i gwneud hyn yn y dyfodol?

Credu bod pwynt da ynglyn a'r ffaith bod dim byd 'cool' i bobl 14-16 ei neud ar y maes, byddan nhw'm isio eistedd yn y carafan hefo mam a dad, felly be di'r odds newn nhw ffeindio cwrw o rhywle a just meddwl ar eu ben eu hunain heb unrhyw oruchwyliaeth?

I ymateb yn sydyn i bwynt Rhys, dwi'm yn meddwl gelli di rhoi'r bai ar mudiadau neu sefyldiadau Cymraeg am hyn yn unig. Byddai gwyl mewn unrhyw iaith ddim mor poblogaidd heb alcohol. Yn sicr byddwn i'n fwy anhebygol o fynd yno os na allaf gael peint o gwrw yn fy llaw. Mae'n ran o'r sîn.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan eusebio » Gwe 18 Gor 2008 2:16 pm

geryrefail a ddywedodd:Yn ystod tua'r flwyddyn ddiwethaf rwy wedi gyrru fy mhlant i weld Boyzone, Dolly Parton, Muse, Leona Lewis, Madonna, Springsteen, Y Stereophonics ayyb.


Blydi hell ... oes gan unrhyw un rif i'r NSPCC??
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan Macsen » Gwe 18 Gor 2008 2:20 pm

Allen nhw ffeindio rywbeth i'w wneud yng Nghaerdydd does bosib. Mae na quasar laser yna! Sinema 15 sgrin! Techniquest! Amgueddfa efo mamothiaid blewog yna fo!

OK dydi o'm yn ddiwylliant Cymraeg on do'n i'm wir yn poeni am hynna pan o'n i'n 14 oed, chwaith. Geith nhw boeni am warchod enaid y genedl pan mae nhw'n 16.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan geryrefail » Gwe 18 Gor 2008 2:46 pm

Braf gweld bod cymaint o ni'n rhydd brynhawn Gwener!

Does dim bwriad gyda fi ddanfon criw o blant 15 oed allan i yfed.........gigs yw beth mae nhw eisiau. Dwi ddim wedi eu casglu nhw o gigs dan ddylanwad erioed......

Beth yw'r siawns y gall Clwb Ifor a'r Undeb Myfyrwyr gael system o wristbands ar gyfer pob oed i ganiatau i bobl 15 oed fynd i fwynhau am y noson ....... mae'r sefyllfa fel y mae hi yn sarhad ar ein pobl ifanc. Mae pythefnos gan y trefnwyr i ddod i drefniant. Ydy hi'n amhosib?

ger
geryrefail
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 8
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2008 9:37 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 35 gwestai

cron