Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan dawncyfarwydd » Gwe 18 Gor 2008 3:17 pm

Ond ddim i 'gigs' fel y cyfryw ti wedi bod yn mynd a nhw, rili, yn nage? Mae digwyddiadau fel Boyzone, Dolly Parton, Muse, Leona Lewis, Madonna, Springsteen, Y Stereophonics ayyb yn hollol wahanol i be gei di yn Clwb Ifor o ran maint, awyrgylch a phwrpas.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan sian » Gwe 18 Gor 2008 3:20 pm

geryrefail a ddywedodd: Mae pythefnos gan y trefnwyr i ddod i drefniant. Ydy hi'n amhosib?



Ti wedi gofyn iddyn nhw?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan ceribethlem » Gwe 18 Gor 2008 3:33 pm

geryrefail a ddywedodd:Braf gweld bod cymaint o ni'n rhydd brynhawn Gwener!

Does dim bwriad gyda fi ddanfon criw o blant 15 oed allan i yfed.........gigs yw beth mae nhw eisiau. Dwi ddim wedi eu casglu nhw o gigs dan ddylanwad erioed......

Beth yw'r siawns y gall Clwb Ifor a'r Undeb Myfyrwyr gael system o wristbands ar gyfer pob oed i ganiatau i bobl 15 oed fynd i fwynhau am y noson ....... mae'r sefyllfa fel y mae hi yn sarhad ar ein pobl ifanc. Mae pythefnos gan y trefnwyr i ddod i drefniant. Ydy hi'n amhosib?

ger

A phob parch geryrefail, mi wyt ti'n beio pobl (Steddfod gyda Maes B a CYIG gyda'i gigs nhw) am beidio a darparu rhyw adnodd arbennig. Does dim dyletswydd gyda'r naill mudiad na'r llall darparu unrhyw gigiau o gwbwl. Os wyt ti (ac eraill o bosib) yn teimlo cyn gryfed a hyn am y peth, pam na wnewch chi trefnu'r gigs yma? Yn hytrach na beio pawb arall am beidio a'u trefnu.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan ger4llt » Gwe 18 Gor 2008 4:18 pm

'Ang on wan...os mai polisi Clwb ydi 18+, pam fod noson 14+ nos Sul ta? O'n i'n dallt o'r edefyn ar gigs Cymdeithas y bydd bandiau garddwn lliwia gwahanol yn cael eu rhoi i'r rhai dan 18 a dros 18. Os yw hyn yn bosib nos Sul, pam nad ydi o'n bosibl am gigiau gweddill yr wsos? Os ydy wythnos yr Eisteddfod yn amser gwych i'r Gymdeithas gael arian, byddai llawer mwy o arian yn dod i fewn wrth ganiatau oedolion ifanc ( :winc: ) ddod i wrando ar y gerddoriaeth (well na maes-b yn fy marn i).

Ychydig o amseroedd yn y flwyddyn y gewch chi gymaint o fandiau gwych yn perfformio mor agos at eu gilydd - ac dwi'n gwbod o brofiad y bydd llawer iawn o bobl ifanc yn dod lawr i Gaerdydd, a chanran â anwybodaeth (i radda) o gerddoriaeth Gymraeg. Bydd caniatau rhai dan 18 i gigs y Gymdeithas yn agor eu llygaid i'n diwylliant, ac hefyd yn sbarduno defnydd o'r iaith, yn enwedig os mai Gigs Cymdeithas ydynt!

Dwi, yn bersonol, am fod yn colli allan ar un o'n hoff fandia i oherwydd yn oedran i 'leni, a dwi'n gweld hynna'n biti pan all y broblem gael ei ateb yn hawdd drwy ddefnyddio bandiau syml...
cym anadl ddofn o'r golygfaeydd gwboi :D
Rhithffurf defnyddiwr
ger4llt
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 231
Ymunwyd: Sul 23 Medi 2007 2:24 pm
Lleoliad: Mewn ty bach twt yng nghefn yr ardd

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan Ray Diota » Gwe 18 Gor 2008 4:20 pm

Peth OLA sy angen yw mwy o jailbait yn y blydi gigs...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan Prysor » Gwe 18 Gor 2008 5:46 pm

dawncyfarwydd a ddywedodd:Ond dwi jyst ddim yn licio'r teip Glanaethwyaidd del iei-steddfod-so-gai-yfad talentog ar-chwal.


cer a machine gun efo chdi tro yma :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan Prysor » Gwe 18 Gor 2008 5:50 pm

mwstashis ffug (a leg extensions, deep voice generators, a fake tits) ar werth yma
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan geryrefail » Gwe 18 Gor 2008 6:43 pm

Diolch gyfaill am yr awgrym y dylwn fod wedi trefnu gigs i'r ifanc. Rwy wedi trefnu digon o gigs ar hyd y blynyddoedd ac mi fyddwn wedi mynd ati i drefnu pe bawn i'n gwybod bod pethau'n mynd i fod mor wael i'r ifanc yn y steddfod hon. Rhy hwyr erbyn hyn mae'n debyg.

Beth am yr awgrym wristbands yma te? Un i bobl dan ddeunaw ac un arall i bobl dros ddeunaw? Mae hi i weld mor hurt bod cenedl mor fach yn gwanhau eu gwaith gyda'r ifanc tra bo pawb yn gwybod mai yn nwylo'r genhedlaeth nesaf y bydd llewyrch neu farwolaeth ein hiaith.
geryrefail
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 8
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2008 9:37 pm

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan ceribethlem » Gwe 18 Gor 2008 7:22 pm

geryrefail a ddywedodd:Beth am yr awgrym wristbands yma te? Un i bobl dan ddeunaw ac un arall i bobl dros ddeunaw? Mae hi i weld mor hurt bod cenedl mor fach yn gwanhau eu gwaith gyda'r ifanc tra bo pawb yn gwybod mai yn nwylo'r genhedlaeth nesaf y bydd llewyrch neu farwolaeth ein hiaith.
Fi'n deall dy rwystredigaeth, ond nid maes B a CYIG sydd yng ngofal y trwyddedau gwerthu alcohol. Rhaid cofio fod Clwb Ifor a'r Undeb yn prynu trwyddedau am y flwyddyn gyfan, ac yn anhebyg y byddai neb yn newid eu trwyddedau ar gyfer wythnos yr Eisteddfod yn unig. Byddai Clwb Ifor (er enghraifft) yn anhebyg o wneud digon o elw i'w wneud yn werth gwneud yn ariannol.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan løvgreen » Maw 22 Gor 2008 3:04 pm

Maes C fysa'r lle i bobl ifanc gael mwynhau eu hunain mewn awyrgylch saff. Yn anffodus ar y cyfan mae'r pethau sy mlaen yno wedi'u gerio at bobol mewn dipyn o oed.
A be ddigwyddodd i'r babell roc ar y maes? E, pwy sy'n cofio protest y Trwyne Coch rai blynyddoedd yn ol? Tase gen ein grwpiau ifanc ni dipyn o ysbryd ynyn nhw fysen nhw'n trefnu ymhlith eu hunain i chwarae ar y maes adeg y Cadeirio.
Ond o ddifri, den ni gyd wedi bod trwy hyn pan oedden ni dan 18, dio ddim fel petai hyn yn beth newydd.
Rhithffurf defnyddiwr
løvgreen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 863
Ymunwyd: Iau 10 Ebr 2003 11:08 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron