Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan sian » Maw 22 Gor 2008 3:20 pm

løvgreen a ddywedodd:Maes C fysa'r lle i bobl ifanc gael mwynhau eu hunain mewn awyrgylch saff. Yn anffodus ar y cyfan mae'r pethau sy mlaen yno wedi'u gerio at bobol mewn dipyn o oed.
A be ddigwyddodd i'r babell roc ar y maes? E, pwy sy'n cofio protest y Trwyne Coch rai blynyddoedd yn ol? Tase gen ein grwpiau ifanc ni dipyn o ysbryd ynyn nhw fysen nhw'n trefnu ymhlith eu hunain i chwarae ar y maes adeg y Cadeirio.
Ond o ddifri, den ni gyd wedi bod trwy hyn pan oedden ni dan 18, dio ddim fel petai hyn yn beth newydd.


Roedd Maes C yn grêt i bawb llynedd - falle dim cweit cystal eleni.
Dw i'n meddwl bod y llwyfannau perfformio a'r bariau wedi dod yn lle'r babell roc - ond dydi e ddim cweit run peth.
Es i i'n Steddfod gynta'n 16 oed - Aberteifi - a, hyd y cofia i, doedd dim lot yn digwydd gyda'r nos. Dw i'n cofio rhyw gig yn y mart a noson 'fawr' yn dechrau am 10.30 yn y pafiliwn ar y nos Wener. Fel arall, roedd pobol jest yn casglu ar y sgwâr. Roedd tad ffrind i ni oedd ddim wedi cael dod yn dweud bod gwaed yn llifo mas dan ddrysau'r tafarndai ond er chwilio a chwilio, welson ni ddim diferyn o waed! Pawb mewn hwyliau da!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan løvgreen » Mer 23 Gor 2008 2:07 pm

Mae'n debyg fod Hanner Pei yn Maes C ar y nos Sadwrn ola - dylai hynne fod yn gig werth ei weld i'r criw iau beth bynnag! :D
Rhithffurf defnyddiwr
løvgreen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 863
Ymunwyd: Iau 10 Ebr 2003 11:08 pm

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan joni » Mer 23 Gor 2008 2:49 pm

Prysor a ddywedodd:mwstashis ffug (a leg extensions, deep voice generators, a fake tits) ar werth yma

Jyst i dorri mewn ar y drafodaeth am eiliad - ma cerddoriaeth y boi yn linc uchod yn wych. Ma'n werth clicio ar rhai o'i fideos eraill i weld e ar y piano.

Ac am be ma fe werth, fi'n itha balch bydd ddim 'kids' wedi meddwi ar 20/20 yn gigs steddfod leni.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan benni hyll » Mer 23 Gor 2008 3:16 pm

Dwi siwr o fod yn mynd i gymlethu pethau rwan (oni bai bod rhywun o a) Clwb Ifor neu b) Maes B neu c) Cymdeithas yn medru ymateb i glirio'r pwynt 'ma fyny) ond yn ystod y flwyddyn ddiwetha' dwi wedi bod i gig wedi trefnu gan Maes B oedd a'r bwriad o godi ymwybyddiaeth o'r Steddfod. Roedd y gig Maes B yn Clwb yn weddol ddiweddar gyda Derwyddon yn chwarae, ac roedd hi'n gig 14+. Roedd hi ar nos Wener ac roedd hi'n gorffen am tua 11.30pm. Gig oedd hi lle oedd y bobl dros 18 yn cael 'band garddwn' oedd yn nodi eu BOD nhw dros 18 ac felly, pan oedden nhw'n mynd i'r bar, roedd staff y bar yn gwybod eu bod nhw di cael eu "i.d.-o" yn barod, a hynny ar y drws gan y bouncers. Dyma'r drefn arferol mewn UNRHYW noson 14+ yn y ddinas (yr un drefn yn y Barfly er enghraifft).

Felly, os ydy'n bosib i hwnna ddigwydd ar nos Wener yn Clwb ar noson gafodd ei threfnu gan Maes B, pam nad yw'r Gymdeithas wedi gallu sicrhau'r fath drefniant ar gyfer gigs y Steddfod? Jyst gofyn ydw i, ella bod 'na ateb syml i hwn i gyd, ond ar ol bod yn y gig 14+ 'na cwpl o fisoedd yn ol, oni'n meddwl taw dyna fydde'r ffordd ymlaen gyda gigs y Steddfod yn Clwb, fel mae garyrefail wedi crywbyll, gan fod Clwb Ifor YN paratoi gigs o'r math beth bynnag trwy gydol y flwyddyn.

Unrhywun a'r ateb plis?
I can't control my heart rate, I got a cougar on me.
Rhithffurf defnyddiwr
benni hyll
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2065
Ymunwyd: Llun 16 Chw 2004 2:19 pm

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 23 Gor 2008 4:04 pm

O ran gigs y Gymdeithas yn benodol, dwi'n credu bod trafodaethau wedi bod, ond bod pawb wedi dod i'r canlyniad nad oedd hwn yn ateb addas am nifer o resymau. Yn gyntaf, bydde rheolau caeth iawn o ran defnydd y bar, hyd yn oed i'r rhai oedd dros 18 e.e. neb yn cael prynu mwy na un diod ar y tro ymysg pethe eraill (dwi ddim yn siwr o'r holl resymau, jest clywed ail-law rhai dwi wedi gwneud). Un rheswm arall ydi y byddai rhaid i bawb dan 18 adael y gig am 11pm sy'n golygu ei bod yn bosib y byddant yn colli y band olaf, neu byddai rhaid dechrau'r gig yn gynharach, a gorffen yn gynnar,a byddai'r pyntars hyn yn siwr o gwyno am hyn!

Ymwadiad - Dwi ddim 100% yn sicr o'r ffeithiau,ond dyma dwi wedi clywed.

Arfater arall, dwi ddim yn siwr os mai Clwb Nos yng nghanol y ddinas yw'r lle mwyaf addas i blant 14 oed, a beth mae'r plant 11-13oed fod neud?!?

Mae yn sicr angen adloniant ar gyfer pobl ifanc 11>16 oed gyda'r hwyr, a dylid edrych ar hyn ar gyfer blwyddyn nesaf, ond dwi'n amau na fydd yna broblem blwyddyn nesaf beth bynnag, gan y bydd MaesB yn mynd yn ôl i Babell, ac yn caniatau mynediad i unrhyw un sy'n ddigon hen i gerdded (er efallai rhy feddw i gofio sut mae gwneud!) ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan benni hyll » Mer 23 Gor 2008 4:56 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:O ran gigs y Gymdeithas yn benodol, dwi'n credu bod trafodaethau wedi bod, ond bod pawb wedi dod i'r canlyniad nad oedd hwn yn ateb addas am nifer o resymau. Yn gyntaf, bydde rheolau caeth iawn o ran defnydd y bar, hyd yn oed i'r rhai oedd dros 18 e.e. neb yn cael prynu mwy na un diod ar y tro ymysg pethe eraill (dwi ddim yn siwr o'r holl resymau, jest clywed ail-law rhai dwi wedi gwneud). Un rheswm arall ydi y byddai rhaid i bawb dan 18 adael y gig am 11pm sy'n golygu ei bod yn bosib y byddant yn colli y band olaf, neu byddai rhaid dechrau'r gig yn gynharach, a gorffen yn gynnar,a byddai'r pyntars hyn yn siwr o gwyno am hyn!

Ymwadiad - Dwi ddim 100% yn sicr o'r ffeithiau,ond dyma dwi wedi clywed.

Arfater arall, dwi ddim yn siwr os mai Clwb Nos yng nghanol y ddinas yw'r lle mwyaf addas i blant 14 oed, a beth mae'r plant 11-13oed fod neud?!?

Mae yn sicr angen adloniant ar gyfer pobl ifanc 11>16 oed gyda'r hwyr, a dylid edrych ar hyn ar gyfer blwyddyn nesaf, ond dwi'n amau na fydd yna broblem blwyddyn nesaf beth bynnag, gan y bydd MaesB yn mynd yn ôl i Babell, ac yn caniatau mynediad i unrhyw un sy'n ddigon hen i gerdded (er efallai rhy feddw i gofio sut mae gwneud!) ;-)


Diolch, Hedd! Piti bod y gigs 14+ ddim di gweithio allan, ond dyna ni - chi wedi trio'ch gorau amwn i. A ti'n iawn am y busnes prynu diod. Oni'm yn cael prynu mwy na 2 ddiod ar y tro ac o'dd rhaid i fi gael y person oni'n prynu'r ddiod amdano yn sefyll wrth ymyl fi hefyd i brofi bod fi actually yn prynu diod i berson arall. Gwallgo!
I can't control my heart rate, I got a cougar on me.
Rhithffurf defnyddiwr
benni hyll
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2065
Ymunwyd: Llun 16 Chw 2004 2:19 pm

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan osian » Mer 23 Gor 2008 5:21 pm

Efo'r holl son am gigs 18+ ac wedyn y son am yr angan am adloniant i'r oed 11-16, be am rai 17 oed? ydyn nhw fod i aros adra, ta 'da chi jysd yn derbyn bod nhw am allu mynd mewn?
Un pwynt sa neb 'di godi dwi'm yn meddwl ydi mai chydig o rei dan oed sy'n debygol o fod yn mynd i gigs Cymdeithas, ella fod 'leni yn wahanol yn hyn o beth hefyd, ond yn gigs llynadd, oni sicr ymysg lleiafrif reit fach, maes-b oedd y "lle i fod" (ddim bod neb yn iwsho'r term yna).

am i being desperate? :lol:
Golygwyd diwethaf gan osian ar Mer 23 Gor 2008 5:30 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan benni hyll » Mer 23 Gor 2008 5:28 pm

osian a ddywedodd:Efo'r holl son am gigs 18+ ac wedyn y son am yr angan am adloniant i'r oed 11-16, be am rai 17 oed? ydyn nhw fod i aros adra, ta 'da chi jysd yn derbyn bod nhw am allu mynd mewn?


Fyse pobl 17 oed yn cael eu cynnwys yn y bracket 14+.

Tough os ti'n 17 oed, bydd rhaid i chi jyst aros am flywddyn arall.
I can't control my heart rate, I got a cougar on me.
Rhithffurf defnyddiwr
benni hyll
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2065
Ymunwyd: Llun 16 Chw 2004 2:19 pm

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan maes b » Mer 23 Gor 2008 8:31 pm

benni hyll a ddywedodd:Dwi siwr o fod yn mynd i gymlethu pethau rwan (oni bai bod rhywun o a) Clwb Ifor neu b) Maes B neu c) Cymdeithas yn medru ymateb i glirio'r pwynt 'ma fyny) ond yn ystod y flwyddyn ddiwetha' dwi wedi bod i gig wedi trefnu gan Maes B oedd a'r bwriad o godi ymwybyddiaeth o'r Steddfod. Roedd y gig Maes B yn Clwb yn weddol ddiweddar gyda Derwyddon yn chwarae, ac roedd hi'n gig 14+. Roedd hi ar nos Wener ac roedd hi'n gorffen am tua 11.30pm. Gig oedd hi lle oedd y bobl dros 18 yn cael 'band garddwn' oedd yn nodi eu BOD nhw dros 18 ac felly, pan oedden nhw'n mynd i'r bar, roedd staff y bar yn gwybod eu bod nhw di cael eu "i.d.-o" yn barod, a hynny ar y drws gan y bouncers. Dyma'r drefn arferol mewn UNRHYW noson 14+ yn y ddinas (yr un drefn yn y Barfly er enghraifft).

Felly, os ydy'n bosib i hwnna ddigwydd ar nos Wener yn Clwb ar noson gafodd ei threfnu gan Maes B, pam nad yw'r Gymdeithas wedi gallu sicrhau'r fath drefniant ar gyfer gigs y Steddfod? Jyst gofyn ydw i, ella bod 'na ateb syml i hwn i gyd, ond ar ol bod yn y gig 14+ 'na cwpl o fisoedd yn ol, oni'n meddwl taw dyna fydde'r ffordd ymlaen gyda gigs y Steddfod yn Clwb, fel mae garyrefail wedi crywbyll, gan fod Clwb Ifor YN paratoi gigs o'r math beth bynnag trwy gydol y flwyddyn.

Unrhywun a'r ateb plis?


I neud pethe'n glir o ran gigs 14 + - ma nhw yn cael ei gynnal yn Clwb Ifor & yn yr Undeb OND ma angen iddynt orffen erbyn 11pm er mwyn ufuddhau efo rheolau trwyddedu.
O brofiad ma gigs Cymraeg sy'n gorffen yn gynnar yn anodd i ddenu cynulleidfa iddo felly yn ymarferol i'r Gymdeithas a Maes B ma disgwyl i'r gigs fynd ymlaen yn hwyr (2am yn achos Maes B).

Y drefn arferol gyda'r Undeb ar gyfer gigs sy'n gorffen wedi 11pm ydi bod pawb gorfod bod dros 18. Mi o'n i'n ymwybodol o hyn pan cafodd y lle ei archebu felly dyma ni yn mynd ati i drafod efo'r undeb a'r awdurdodau i weld os oedd modd sicrhau cael mynediad i bobl dros 16oed. Dyma ni'n llwyddo i wneud hyn ond fel da chi'n gwybod ma an amodau penodol o ran prynu alcohol mewn lle.

Gobeithio bod hyn yn neud pethe'n gliriach.
maes b
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 217
Ymunwyd: Iau 22 Medi 2005 7:27 pm

Re: Gwaharddiad ar yr IFANC o gigs steddfod

Postiogan ceribethlem » Mer 23 Gor 2008 11:27 pm

joni a ddywedodd:Ac am be ma fe werth, fi'n itha balch bydd ddim 'kids' wedi meddwi ar 20/20 yn gigs steddfod leni.
Ffycin hel joni, symo ti di gadel yn 90e 'to?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron