Ydyw hi'n rhy hwyr i newid pethau ar gyfer y Steddfod?
Yn siomedig bythefnos yn ol i weld Gigs Mici Plwm yn gwahardd pobl dan 18 oed. Ond dim ots, gigs i rinclis oedd ei fwriad yn y lle cyntaf. Roeddwn yn siwr y byddai popeth yn iawn - gigs y Gymdeithas a Gigs Maes B yn dal i fod yn OK. Dychmygwch y siom ar wynebau'r 5 person ifanc sy'n dod i'r steddfod dan fy ngofal pan sylweddolon nhw wrth ddarllen Golwg bod neb dan 16 yn cael mynd i Gigs Maes B a neb dan 18 i rai'r Gymdeithas.
Gwarth ar bob un ohonoch y trefnwyr. Bydd criwiau mawr o bobl ifanc yng Nghaerdydd dros y Steddfod yn mynd i weld South Pacific, Batman, ac unrhywbeth arall y gallan nhw fynd iddo gyda'r nos - am fod y Cymry yn methu ag edrych ar ol ein pobl ifanc adeg yr Eisteddfod. Oes syndod bod ein gigs yn wag? Ble bydd yr iaith ymhen cenhedlaeth os mai ysgol yn unig sydd ar gael i Gymreigio'n pobl ifanc? Stopiwch ffysian am safbwynt ieithyddol Boots a Tesco os na allwch ddangos ffordd bositif i'n hifanc adeg y Steddfod.
Rwy'n wirioneddol gandryll - roedd gofalu am 5 person 14-15 oed yn mynd i fod yn OK wrth fynd a'u gadael mewn gigs a'u casglu am 1 y bore. Efallai byddai'n well i mi fynd a nhw i Lorient yn lle Caerdydd adeg Eisteddfod eleni - o leia mae pob ymdrech yn cael ei wneud (yn erbyn y cerrynt) i ddenu'r ifanc yn Llydaw.
Cywilydd ar Gymdeithas yr Iaith a chywilydd ar drefnwyr Maes B.
Ger