Mwy yn mynd o'i le i Rhodri Glyn Thomas

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Mwy yn mynd o'i le i Rhodri Glyn Thomas

Postiogan ger4llt » Gwe 18 Gor 2008 4:44 pm

Do's bosib geith o'm cadw ei swydd ar ôl hyn?!

"Sigâr wedi ei thanio..." :rolio: O'n i'n gwbo oddyn nhw'n cal 'u talu llawar ond... :?
cym anadl ddofn o'r golygfaeydd gwboi :D
Rhithffurf defnyddiwr
ger4llt
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 231
Ymunwyd: Sul 23 Medi 2007 2:24 pm
Lleoliad: Mewn ty bach twt yng nghefn yr ardd

Re: Mwy yn mynd o'i le i Rhodri Glyn Thomas

Postiogan Prysor » Gwe 18 Gor 2008 5:38 pm

dwi newydd watsiad Vaughan Roderick yn egluro be ddigwyddodd ar y newyddion rwan

oedd RGT tu allan yn smocio sigar, ario gerddad i mewn, wedi anghofio fod hi yn ei law ( ac felly technically torri'r gyfraith) a mi nath rywun bwyntio allan iddo a mi aeth allan yn syth.

dwi ddim yn meddwl ei fod o'n deg y dylai rhywun golli'i swydd am hynna. Ydach chi?
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Mwy yn mynd o'i le i Rhodri Glyn Thomas

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 18 Gor 2008 5:46 pm

Prysor a ddywedodd:dwi newydd watsiad Vaughan Roderick yn egluro be ddigwyddodd ar y newyddion rwan

oedd RGT tu allan yn smocio sigar, ario gerddad i mewn, wedi anghofio fod hi yn ei law ( ac felly technically torri'r gyfraith) a mi nath rywun bwyntio allan iddo a mi aeth allan yn syth.

dwi ddim yn meddwl ei fod o'n deg y dylai rhywun golli'i swydd am hynna. Ydach chi?


Cytuno Prysor. Os mai dyna wnaeth ddigwydd, byddai'n ddwl ei fod yn colli ei swydd. Mae'n ymddangos fod rhywun yn rhywle ar ôl waed Rhodri Glyn druan.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Mwy yn mynd o'i le i Rhodri Glyn Thomas

Postiogan Ray Diota » Gwe 18 Gor 2008 5:48 pm

Prysor a ddywedodd:dwi newydd watsiad Vaughan Roderick yn egluro be ddigwyddodd ar y newyddion rwan

oedd RGT tu allan yn smocio sigar, ario gerddad i mewn, wedi anghofio fod hi yn ei law ( ac felly technically torri'r gyfraith) a mi nath rywun bwyntio allan iddo a mi aeth allan yn syth.

dwi ddim yn meddwl ei fod o'n deg y dylai rhywun golli'i swydd am hynna. Ydach chi?


Nagw, ddim o gwbwl. Ond ma'n debyg bod e off... cumulative effect, sbo...

ymateb Nick Bourne dros y top 'fyd...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Mwy yn mynd o'i le i Rhodri Glyn Thomas

Postiogan dawncyfarwydd » Gwe 18 Gor 2008 5:49 pm

Gen i gydymdeimlad efo fo erbyn hyn - dydi hi ddim yn amser da i fod yn hiwman mewn llywodraeth.

Ynddo'i hun dydi hyn ddim yn ddifrifol, mae'n reit blentynaidd a dweud y gwir, ond mae'n 'straw that broke the camel's back'. Dwi'n siwr fod RhGT yn foi iawn, a'i fod o'n gwneud ei orau yn gwbwl jeniwin, ond mae'i record o fel gweinidog yn ddrwg iddo fo'i hun ac i'r Blaid.

Mae'n rhaid iddo fo fynd rwan er mwyn i Alun Ffred neu bwy bynnag gaiff y job gael amser i setlo dros y gwyliau, a chael gwenu'n ddel yn Steddfod aballu cyn mynd nol i'r Senedd a trio arbed rhywfaint ar y portffolio.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Mwy yn mynd o'i le i Rhodri Glyn Thomas

Postiogan Prysor » Gwe 18 Gor 2008 5:54 pm

dawncyfarwydd a ddywedodd:dydi hi ddim yn amser da i fod yn hiwman mewn llywodraeth.


Amen. Gwych o lein.

mae'n ebyg fydd o'n mynd heno, ac y bydd Alun Ffred yn ei le fo

Ray - mae bod yn olygydd dimLol fel aros am fws - ti'n aros drwy'r flwyddyn am stori, a mae nhw i gyd yn dod efo'i gilydd!

Smokin!
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Mwy yn mynd o'i le i Rhodri Glyn Thomas

Postiogan Nanog » Gwe 18 Gor 2008 6:22 pm

"Mr Thomas, a former shadow health minister in the assembly, had backed the ban on smoking in public places, which was brought in in Wales ahead of a similar ban in England."

http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/south_east/7514458.stm

Ydy, mae' annodd fod yn hiwman ac yn wleidydd heddi......ond y nhw sy'n gyfrifol yn fwy na neb. Mae'n mynd yn fwy annodd i fod yn hiwman full stop. Beth am glirio'r bwrdd a chael gwared ar y ....ers i gyd a dechre unwaith eto!?


Gwynt teg ar ei ol.
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Mwy yn mynd o'i le i Rhodri Glyn Thomas

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 18 Gor 2008 6:55 pm

Going, going ... gone!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Mwy yn mynd o'i le i Rhodri Glyn Thomas

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 18 Gor 2008 7:03 pm

Yng ngwyneb y cyhoeddusrwydd a fu yn fy nilyn dros yr wythnosau diwethaf teimlaf fod fy sefyllfa yn y Llywodraeth yn anghynaladwy.

Byddai sylw arall yn sicr o ddilyn. Bu'n fraint i fod yn rhan o'r Llywodraeth am y cyfnod hynod o gyffroes yma.


BBC Cymru'r Byd
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Mwy yn mynd o'i le i Rhodri Glyn Thomas

Postiogan Nanog » Gwe 18 Gor 2008 7:12 pm

Mi fydd e'n cael aros fel AC. Dwi'n meddwl dyle fod 'na is-etholiad yn ei etholaeth nawr.

Dwi'n gwybod am rhywun wnaeth golli ei job (nid swydd) am ysmygu mewn mangre a sefydlwyd gan RHGT a'i debyg er i'r person 'ma .....wel gawn ni ei roi e fel hyn.......ei fod heb fod i ben draw'r ffwrn. Mae eisiau i'n gwleidyddion i ddangos esiampl da bob amser.
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Nesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron