10 munud dros yr amser yn unig? Ydych chi wedi cael rhybudd am barcio rhy hir yn Aldi Bangor o'r blaen?
Rhyw 2 flynedd yn ol, digwyddodd rhywbeth tebyg i finnau. Ro'n i 10 munud dros yr amser (3 awr) mewn maes parcio o dan reolaeth y Kingdom Centre, Glenrothes. Ches i mo'm dirwyo - dim ond rhybudd am barcio'n rhy hir ges i - ac yn deud byddai 'na gosb y tro nesa. Felly os mai'r tro cynta ydy hyn, mae'n annheg arnoch i ddeud y lleia. Hefyd, dim ond rhyw £30 ydy'r ddirwy yng Nglenrothes. Mae'n debyg dydyn nhw ddim yn casglu lot o ddirwyau, felly'r pris uchel.
Beth am ddod a'r llythyr/tocyn/beth bynnag i reolydd Aldi Bangor ac egluro be ddigwyddodd (sai'n werth honni, efallai, eich bod yn gwsmer ffyddlon Aldi ayyb...). Os bydd Aldi'n dallt fod polisi eu cwmni parcio'n bygythu eu llwyddiant, byddan nhw'n pwyso arnyn am atal rhag fod yn rhy lym am erlid pob troseddydd.